CCUHP: Sut i Animeiddio
Wythnos newydd, a fideo CCUHP newydd! Rydym wedi caelGeiriau Cywir, Trefn Anghywira Chamau Plant, y ddau wedi'u creu gan yr arbenigwyr. Yr wythnos hon mae gennym gasgliad o animeiddiadau clai byr wedi'i greu gan bobl ifanc yng Nghymru.
UNCRC Claymation from Dynamix Ltd on Vimeo.
Mae'r CCUHP neu Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plant yn gytundeb rhyngwladol sydd yn amddiffyn hawliau dynol pobl dan 18 oed a Chymru oedd y wlad gyntaf ym Mhrydain i fabwysiadu hwn yn llawn a'i roi ar waith wrth greu polisïau. Mae 42 rhan iddo sydd o bwys i bobl ifanc (gall weld pob un yma) ac mae'r rhan fwyaf ohonynt yn amlwg, ond nid yw hyn yn golygu nad ydynt yn bwysig a gall anwybyddu nhw.
Mae'r fideo yn dod o wefan Gwneud Pethau'n Iawn sydd yn offeryn adnodd enfawr i athrawon a gweithwyr ieuenctid i ymestyn neges y CCUHP. Rydym wedi penderfynu dewis rhai o'r darnau fwyaf diddorol a phostio nhw yma ar CLIC. Cofia gadw golwg am fwy o fideos a widgets rhyngweithiol dros y cwpl wythnosau nesaf.
Gwybodaeth – Hawliau A Chyfrifioldebau
Erthyglau Perthnasol:
CCUHP: Geiriau Cywir, Trefn Anghywir
CCUHP: Camau Plant






