Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Cegin Eddie: Draenog Y Môr Wedi Grilio

Postiwyd gan eddie secretary o Torfaen - Cyhoeddwyd ar 03/02/2012 am 09:35
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Bwyd a Diod

  • coriander

English version

Dylai hwn fod yn un diddorol i chi.

Mae ganddo'i wraidd yng Ngwlad Thai ac mae'n ddraenog y môr (sea bass) gyda leim, sinsir a saws coriander, gyda llysiau wedi'i stemio.

Mae'r un yma yn cael ei gyflwyno'n arbennig i'r golygydd Ryan.

Beth fydd angen?

  • 1 draenog y môr canolig i bob person (cyfan, wedi'i lanhau a'i olchi'n dda)
  • 1chilli coch bach (gyda'r hadau wedi'u tynnu a'i dorri'n fan)
  • 1 talp maint bawd o sinsir (wedi'i sleisio i mewn i stribedi bach)
  • 1 cwpan o goriander
  • Sudd 2 leim a chroen 1 leim
  • 25g o siwgr mân
  • Llysiau i stemio (dy ddewis)
  • Pupur du a halen môr
  • 50ml o dd?r

Dull

  • Sleisia ochrau'r pysgodyn 3 gwaith ar bob ochr, gan sleisio drwodd yn ddwfn
  • Rhwbio halen a phupur i mewn i'r pysgodyn
  • Rho'r llysiau i mewn i stemar (os nad oes gen ti stemar gall greu un gyda cholandr metel dros sosban o dd?r yn mudferwi, ac yna rhoi caead dros y top) a choginio am 15-20 munud (dylai llysiau crensio ychydig)
  • Rho'r badell gradell ar y pentan a'i roi ar wres uchel
  • Rho'r pysgodyn i mewn i'r badell, a'i adael i goginio am 3 munud cyn troi (os yw'n sownd i'r badell, gad iddo goginio am ychydig hirach a bydd olew naturiol y pysgodyn yn ei dadludo o'r badell)
  • Mewn sosban fach, ychwanega sudd leim, siwgr a d?r, troi'n barhaol nes i'r siwgr doddi
  • Ychwanega'r croen leim, sinsir a chilli
  • Mudferwa'r cwbl yn ysgafn, gan droi'n dda
  • Ar y funud olaf ychwanega hanner o'r coriander i'r saws, gan droi'n dda

I Blatio i Fyny

  • Gorwedda'r pysgodyn wedi'i goginio ar blât poeth
  • Llwya'r llysiau allan, gan wneud iddynt edrych yn ffansi
  • Diferu cwpl o lwyau o'r saws drosto
  • Tasgu ychydig o goriander wedi'i rwygo drosto a'i serfio

Awgrymiad y Cogydd

  • Cyn i ti ddiferu'r saws blasa ef. Os yw'n rhy siarp ychwanega cwpl o lwyau te o siwgr a'i doddi
  • Os ydy'r pysgodyn ychydig yn fawr, coginio am ychydig hirach ar wres is i adael iddo goginio drwyddo
  • Os wyt ti'n hoffi bwyd poeth, paid tynnu'r hadau o'r chilli. Deisia ac ychwanega, gyda'r hadau (os wyt ti eisiau ef yn fwy poeth, cyn i ti ychwanegu'r saws, ychwanega 3-5 diferyn o Tabasco neu saws poeth iawn arall)

Gobeithio dy fod di'n mwynhau'r un yma.

Tudalennau Iechyd

DELWEDD: Henrique Vicente

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50