Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Cegin Eddie: Fajitas

Postiwyd gan eddie secretary o Torfaen - Cyhoeddwyd ar 27/01/2012 am 12:56
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Bwyd a Diod

  • Fajita

English version

Dwi'n gwybod fy mod i wedi addo ychydig yn ôl i ysgrifennu rysáit am chilli con carne, ond yn anffodus, nid wyf wedi cael amser i arbrofi gyda'r rysáit fy hun, felly dwi wedi penderfynu temtio ti gyda fajita i gychwyn.

Beth fydd angen?

  • 500 gram o frest cyw iâr (tua 3-4 brest, wedi sleisio)
  • 1 nionyn canolig (wedi sleisio)
  • 3 pupur melys (melyn, gwyrdd a choch wedi sleisio yn denau)
  • Cymysgedd sbeis (mae cyw iâr yn iawn, ond gall gael pecyn o gymysgedd fajita o unrhyw archfarchnad)
  • Salsa (mwyn, canolig neu boeth – yn dibynnu pa mor boeth wyt ti eisiau)
  • Caws wedi'i gratio (mae cymysgedd cheddar a mozzarella yn gweithio'n dda)
  • Ychydig o olew olewydd hynod-goeth
  • 8 lapiad tortilla (unrhyw faint)

Dull

  1. Sleisio'r cyw iâr i dafellau 1cm (bydd angen cyllell miniog iawn ar gyfer hyn)
  2. Rho'r cyw iâr mewn bowlen gydag ychydig o'r olew olewydd a'r cymysgedd sbeis
  3. Bydd angen cael dy ddwylo i mewn iddo a chymysgu dy gyw iâr, olew a chymysgedd sbeis nes bydd y cyw iâr wedi'i orchuddio (os oes gen ti fenig rwber, defnyddia nhw)
  4. Mewn padell ffrio ddwfn POETH bydd angen ychwanegu'r cyw iâr (wrth ddefnyddio gefel neu fforc bydd angen troi'r cyw iâr bob 5 munud nes iddo goginio drwyddo)
  5. Unwaith mae'r cyw iâr wedi coginio, tynna ef o'r badell a'i roi mewn bowlen fawr
  6. Nawr i'r badell ychwanega ychydig mwy o'r olew, a dy nionyn a'r pupur melys. Gad iddynt feddalu, yn troi yn aml.
  7. Mwn padell ffrio ddwfn, cynhesa'r lapiadau tortilla am 10 eiliad pob ochr (neu roi nhw i gyd mewn popty ping am 45 eiliad i funud)
  8. Serfio a mwynhau

Sut wyt ti'n adeiladu lapiad?

  • Rho'r tortilla ar blât
  • Rho 3 i 4 darn o gyw iâr yng nghanol y tortilla
  • Rho gwpl o lwyau o'r nionod ar pupur melys
  • Rho ychydig o salsa
  • Rho bentwr bach o gaws
  • Plyga gwaelod y tortilla, yna'r ddau ochr

Awgrymiad y Chef

  • Am flas ychwanegol rho ychydig o pancetta neu gig moch brith fwg wedi'i ddeisio

Dwi'n gobeithio byddi di'n mwynhau'r un yma, byddaf yn hapus i dderbyn unrhyw syniadau, sylwadau ac awgrymiadau.

Tudalennau Maetheg

DELWEDD: megan.chromik

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.