Cegin Eddie: Cawl Cennin a Thatws
Iawn, felly mae hwn yn gawl bach hyfryd ac yn ddigon i fwydo teulu o bedwar yn hawdd fel prif bryd neu barti o wyth fel cwrs cyntaf.
Gall hefyd rewi unrhyw gawl sydd ar ôl a'i ddefnyddio o fewn 90 diwrnod o'i goginio.
Bydd angen:
- 2-3 cennin maint da – wedi'i ddeisio
- 2 nionyn canolig (tua 300-400 gram i gyd) – wedi'i ddeisio
- 9 taten fawr (mae King Edwards yn well gan fod hwn efo cynnwys startsh uwch)
- 2 ciwb stoc llysiau
- 2.5 litr o dd?r berwedig
- 30-50ml o olew olewydd hynod-goeth
- 1 sosban fawr (os oes sosban bwysedd gen ti, defnyddia hwnnw)
Dull
- Yn dy sosban, rho 30ml o'r olew olewydd a'i gynhesu tra ti'n plicio ac yn deisio dy nionod
- Rho'r nionod yn y sosban a'i gymysgu yn dda gan adael iddynt feddalu (PAID gadael iddynt losgi gan fydd hyn yn difetha lliw a blas cyffredinol y cawl)
- Unwaith mae'r nionod wedi meddalu ychwanega'r cennin wedi'i ddeisio a gweddill yr olew a’i gymysgu yn dda wrth i ti ferwi tegell o dd?r (1.5 litr i gychwyn)
- Mewn jwg neu bowlen briwsiona'r ciwbiau stoc llysiau ac arllwys y d?r berwedig drosto. Cymysga yn dda nes i'r ciwbiau stoc doddi.
- Arllwys dy gymysgedd stoc i mewn i'r sosban gyda'r nionod a'r cennin a'i gymysgu yn dda
- Plicia'r tatws
- Deisio’r 2 taten i led o tua 5mm, 3 taten arall i led o 15-20mm, a'r 3 taten arall i mewn i dalpiau 5-6 darn, ac ychwanega popeth i'r sosban
- Berwa popeth a'i fudferwi wrth ei droi am 5 munud
- Rho'r caead ar y sosban (os wyt ti'n defnyddio sosban bwysedd)
- Gad iddo goginio gan ei droi ar brydiau nes bydd y talpiau mwyaf o datws wedi dechrau torri i lawr
- Blasa'r cawl (os oes angen ychwanegu halen a phupur yna gwna hyn nawr a'i gymysgu yn dda a'i adael i goginio am 5 munud arall cyn ei weini)
- Gweini gyda rhôl fara crofennog ffres (neu fara menyn)
Tipiau Cogydd
- Os hoffet flas hufennog i'r cawl, yn lle defnyddio olew olewydd defnyddia menyn llawn braster heb halen
- Os nad wyt ti eisiau cawl gyda darnau mawr, unwaith bydd wedi'i goginio blendio ef gyda gwialen cymysgydd nes iddo lyfnhau
Tudalen Bwyd Organig
Mwy o Gegin Eddie







