Cegin Eddie: Pwdin Bara
English version
Iawn ta bechgyn, genethod a darpar gogyddion, mae'r un yma yn un blasus iawn.
Gelwir yn bwdin bara.
Gwelir ei gychwyniad mewn hen geginau a gweithdai Lloegr.
Mae'n defnyddio bara hen, llaeth a chyrens a rhesin wedi'u cymysgu gyda'i gilydd, ei socian ac yna ei bobi nes iddo fod yn barod.
Beth fydd angen:
- 2-4 torth o fara hen ddiwrnod oed (byddai 3-5 bara Ffrengig yn gwneud hefyd)
- 1kg ffrwythau sych (rhesin a chyrens)
- 4 peint o laeth hanner sgim
- 200 gram o siwgr
- Hambwrdd pobi mawr
- Bowlen gymysgu fawr
Dull:
- Yn y bowlen gymysgu fawr, torra'r bara i gyd i mewn i dalpiau bach
- Arllwys y llefrith i gyd drosto
- Cael i mewn iddo gyda dy ddwylo a llethu popeth nes bod y bara wedi'i socian
- Ychwanega'r ffrwythau i gyd a chymysgu yn dda gyda dy ddwylo
- Gad iddo socian am ddwy awr mewn lle oer a sych
- Cynhesa'r popty i 175 gradd neu farc nwy 5
- Unwaith bydd y cymysgedd wedi socian y llefrith i gyd, cymysga 175 gram o'r siwgr i mewn (bydd hyn yn melysu'r cymysgedd)
- Arllwys y cymysgedd ar yr hambwrdd pobi, llyfnhau popeth, yna ei osod ar silff yng nghanol y popty a'i goginio am 30-45 munud, neu nes iddo fod yn frown tywyll a gyda gwedd gadarn sbwng
- Unwaith mae wedi gorffen coginio, tynna ef o'r popty a'i adael i oeri yn yr hambwrdd coginio
- Unwaith bydd wedi oeri, rho'r siwgr sydd ar ôl dros ei ben, ei dorri a'i dynnu o'r hambwrdd
Awgrymiad cyflwyno:
- Cynhesa gyda thalp o hufen tolch
- Poeth gyda sgŵp o hufen ia fanila
- Oer gyda chwpan o de (yn lle teisen gri neu sgon)
Awgrymiadau Cogydd:
- Yn lle defnyddio siwgr gwyn arferol, amnewid am Ddemerara neu muscovado (siwgr tywyll iawn) i roi blas mwy Carmelaidd.
- Yn lle defnyddio cyrens a rhesin yn unig, efallai hoffet roi ychydig o fricyllen (apricots) a datys (dates) am flas y Dwyrain Canol.
Mwynha ac fel arfer, os wyt ti'n creu'r rysáit hyn yna gyrra lun o'r cynnyrch wedi'i orffen i eddies.kitchen@hotmail.co.uk.
Tudalennau Maetheg a Gweithgarwch Corfforol







