Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Cegin Eddie: Caserol Selsig

Postiwyd gan eddie secretary o Torfaen - Cyhoeddwyd ar 01/02/2012 am 14:32
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Bwyd a Diod

  • casero

English version

Bechgyn a marched, dyma rysáit sydyn i gadw chi tan fyddaf yn rhoi'r nesaf i fyny, sef pysgodyn wedi'i grilio gyda saws tsili melys Thai, sinsir a choriander.

Felly, beth fydd angen arnat am y caserol selsig?

  • 6 selsig o'r cigydd
  • 2 foron mawr
  • 1 nionyn canolig
  • 1 cwpan o bys wedi rhewi
  • 1 litr o stoc (cig eidion, cyw iâr neu lysiau)
  • 2 daten ganolig (dewis)
  • Ychydig o olew coginio

Dull

  1. Mewn padell ffrio ddwfn mawr, ychwanega ychydig o olew coginio a selsig, yn troi yn aml nes iddynt goginio drwyddynt
  2. Tynna'r selsig a'u gadael i ddraenio ar ddarn o bapur cegin
  3. Yn y badell ffrio ychwanega'r nionyn wedi sleisio, moron wedi'i ddeisio a'r pys gyda chwarter o'r stoc (os wyt ti'n defnyddio tatws, deisio nhw ac ychwanegu'r rheiny hefyd)
  4. Berwa popeth ac yna mudferwa a lleihau
  5. Ychwanega ychydig mwy o stoc nes bydd yr holl stoc wedi cael ei ychwanega ac wedi dechrau tewychu (tua 10-15 munud)
  6. Torra'r selsig i mewn i dalpiau maint cnoi, ac ychwanega i'r ddysgl caserol
  7. Ychwanega'r cymysged stoc a llysiau
  8. Cymysga yn dda a'i roi yn y popty (marc nwy 5 am 30 munud)

Ar ôl i bopeth goginio, serfio a mwynhau!

Tudalennau Maetheg

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50