Chwilio Am Hyrwyddwyr Newid Hinsawdd 2011
Mae chwiliad cenedlaethol i ddarganfod pobl ifanc yng Nghymru sydd gydag angerdd am daclo newid hinsawdd wedi cychwyn yr wythnos hon.
Mae’r Gweinidog Amgylchedd, Jane Davidson yn lansio cystadleuaeth i ddarganfod grŵp o rai 14 i 18 oed sydd yn barod am y sialens o ddod yn Bencampwr Newid Hinsawdd Swyddogol Cymru yn 2011.
Bydd y pencampwyr llwyddiannus yn cael y dasg o ledaenu’r neges am effeithiau tebygol newid hinsawdd ac yn dangos i bobl yn eu cymunedau a thros Gymru sut y gallent chwarae rhan yn helpu Cymru i leihau ei ôl troed carbon.
Apeliodd y Gweinidog tuag at bobl ifanc gyda diddordeb mewn helpu Cymru i symud tuag at ddyfodol cynaliadwy, carbon isel i geisio am y cyfle cynhyrfus hwn. Dywedodd:
“Ein huchelgais ydy i leihau faint o nwyon tŷ gwydr y mae Cymru yn ei allyrru o 3% bob blwyddyn – ond ni fedra gwneud hyn ein hunain. Mae pawb yng Nghymru – unigolion, cymunedau a busnesau angen gwneud eu rhan a lleihau eu hôl troed carbon.
“Rydym yn gwybod fod cyweddu pobl ifanc yn allweddol i’n llwyddiant yn y maes hwn, nid yn unig oherwydd eu hangerdd a brwdfrydedd ond hefyd oherwydd nhw ydy’r rhai fydd yn rhaid delio gydag effaith hinsawdd newidiol.
“Dyna pam rydym yn edrych i ddarganfod grŵp o bobl ifanc gwybodus, ysbrydol a pherswadiol gall ddarbwyllo i’w teulu, ffrindiau, cymdogion a ffrindiau ysgol y buddion o fyw bywydau mwy cynaliadwy.
“Hwn fydd y bedwaredd flwyddyn rydym wedi dewis Hyrwyddwyr Newid Hinsawdd i Gymru. Mae’r safon hyd yma wedi bod yn uchel iawn ac mae’r Hyrwyddwyr wedi gwneud gwaith trawiadol yn eu hymdrech i ledaenu’r neges newid hinsawdd.
“Nid oes amheuaeth bydd Hyrwyddwyr 2011 efo gwaith caled i fyw i fyny at y rhai cynt ond mae’n gyfle gwych a dwi’n annog unrhyw un gyda’r angerdd a’r sgiliau angenrheidiol i wneud cais heddiw.”
Dywedodd Sebastian Giraud-Jones, Hyrwyddwr Newid Hinsawdd 2010:
“Mae bod yn hyrwyddwr wedi bod yn brofiad anhygoel. Mae wedi agor fy llygaid i’r bygythiad cynyddol gan newid hinsawdd, ac mae’r profiadau dwi wedi’i gael wedi bod yn ffantastig.
“Dwi wedi cyfarfod cymaint o bobl wahanol – o gynrychiolwyr o’r comisiwn, Gweinidogion a phlant ysgol leol – a fedraf edrych yn ôl ar ddiwedd fy nhymor a theimlo fy mod efallai wedi gwneud gwahaniaeth.”
Dywedodd Cyril Nqaba Moyo, Hyrwyddwr Newid Hinsawdd 2010:
“Mae bod yn Hyrwyddwr Newid Hinsawdd yn fwy na anhygoel.
“Nid yn unig wyt ti’n cael cyfle i ddylanwadu'r ffordd mae pethau yn cael eu rhedeg, mae hefyd yn caniatáu ti i brofi dy hun a dy allu. Mae’n sialens anhygoel ac yn ffordd grêt o ddatblygu dy sgiliau.”
Bydd yr Hyrwyddwyr 2011 yn gweithio gyda’i gilydd ar brosiect grŵp wedi’i anelu at ledaenu prif negeseuon newid hinsawdd Cymru. Bydd rhaid i’r Hyrwyddwyr ddatblygu proffil uchel yn eu cymuned leol hefyd drwy fynychu digwyddiadau allweddol lleol a gweithio gyda’r cyfryngau lleol.
Bydd y gystadleuaeth yn cau ar ddydd Gwener 19 Tachwedd. Gall gael gwybodaeth bellach ar y gystadleuaeth yn http://wales.gov.uk/walescarbonfootprint/home/?skip=1〈=cy







