Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Cicio A Chyflawni Yng Nghonwy

Postiwyd gan CLICtania o Cenedlaethol - Cyhoeddwyd ar 13/04/2010 am 11:28
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Addysg, Pobl, Chwaraeon a Hamdden, Gwaith a Hyfforddiant, Yn Gymraeg

  • ball

Click here for English version

Mae rhaglen hyfforddi pêl-droed wedi'i seilio ar waith yn cael ei lansio yng Nghonwy i bobl ifanc sydd ddim mewn addysg, hyfforddiant na gwaith.

Dyma fydd y tro cyntaf i'r cwrs hwn gael ei redeg yn Ewrop ac mae ar gyfer bobl ifanc 16 i 25 oed.

Mae'r cwrs yn cael ei redeg gan Vi-Ability a Phêl-droed Bae Colwyn yn y Gymuned a bydd yn cychwyn ar 14 Ebrill yng Nghlwb Pêl-droed Bae Colwyn. Byddwch yn ennill sgiliau, cymwysterau a phrofiad gall helpu i chi fynd i goleg neu gael gwaith. Byddent yn dysgu i chi sut i gynllunio, trefnu a rhedeg gweithgareddau gall helpu godi arian i'ch clwb lleol a gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned.

Yn ogystal â'r hyfforddiant gall ennill pethau fel teithiau dramor, tocynnau cerddoriaeth, tocynnau sinema, dillad chwaraeon a thocynnau i gêm.

Am ragor o wybodaeth a manylion o sut i fod yn rhan ohono ymwelwch â'r wefan Conwy Ifanc.

Llun: szlea - Soccer Ball

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.