Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

CLIC Clic Y Ffyn Kendo

Postiwyd gan GeoffCLIC o Wrecsam - Cyhoeddwyd ar 25/06/2010 am 12:50
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Addysg, Cerddoriaeth, Pobl, Llwyfan, Gwirfoddoli

  • Flintshire Launch
  • Flintshire Launch
  • Flintshire Launch
  • Flintshire Launch
  • Flintshire Launch

English version

Mynychodd CLIC ail lansiad gwefan Sir y Fflint Ifanc ym MharcWepre yng Nghei Conna ddydd Sul 20 Mehefin.

Daeth cannoedd o bobl draw i’r digwyddiad gan fwynhau ffair, bandiau a sioe gŵn.

Roedd yno hefyd bentref ieuenctid yn cynnwys asiantaethau o wasanaethau cefnogi ieuenctid gyda’u harddangosfeydd.

Roedd gan CLIC stondin yna a chynhaliodd weithdai kendo trwy gydol y dydd.

Sir y Fflint yw’r safle CLIC lleol diweddaraf i ymuno â’r rhwydwaith. Bu Geoff Moore, Swyddog Partneriaeth y Siroedd ar gyfer CLIC, yn cynnal y gweithdai ac meddai: “Roedd y digwyddiad yn llwyddiant mawr. Trefnodd y bobl ifanc a’r Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc, ynghyd â’r Tîm Gwybodaeth Ieuenctid, ddigwyddiad gwych.

“Mae’r bartneriaeth hon yn llwyddo!”

Oeddech chi yn yr ail lansiad?Rhowch eich sylwadau am y diwrnod, ac yn wir y wefan hon, isod.Bydd angen i chi logio i mewn neu gofrestru yn gyntaf.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.