CLIC/Meic Yn Yr Eisteddfod
Oeddem, roeddem yn rhan o’r ŵyl ieuenctid mwyaf yn Ewrop, Eisteddfod yr Urdd!
Roedd yn llwyddiant mawr; roedd yr haul yn tywynnu, y perfformiadau o ansawdd uchel fel y maent bob tro, yr awyrgylch yn grêt ac roedd llwyth o stondinau a gweithdai yn cynnig bron bob dim i bobl ifanc o gelf a chrefftau i wybodaeth a chyngor.
Felly, rociodd CLIC i fyny ynghyd a Meic a gosod camp reit gyferbyn a’r ffair.
Pan glywais lle roeddem wedi ein lleoli, fe gynhyrfais wrth feddwl am geir bympar, olwynion mawr a waltsers.
Ond pan drois i fyny i gyfarfod gyda Gavin (cydlynydd Meic), roedd yn edrych blaidd yn flinedig o wario’r diwrnodau diwethaf yn gwrando ar yr hymian cyson o’r ffair reit tu allan i’n stondin.
Ta waeth y pigyn clust, roedd o’n ddigwyddiad gwych. Tîmiodd CLIC a Meic efo'i gilydd i wneud cwis am y ddau wasanaeth unigol. Gofynnwyd cwestiynau fel ‘beth mae Meic yn sefyll am?’ a ‘beth oedd yr erthygl gyntaf erioed i gael ei lwytho ar CLIC?' Roedd yn eithaf poblogaidd a chawsom dros 100 o bobl yn ceisio.
Rhedom gystadleuaeth lluniau hefyd ar y pwnc ‘sut wyt ti’n gweld yr Eisteddfod?’ Ar ôl llawer o drafod a rhwbio gen, penderfynwyd mai Owen oedd ein henillydd (y llun buddugol uwchben).
Teimlai fod y llun hwn yn dal llawer o elfennau am beth yw’r Eisteddfod, ynghyd a chyfeirnodau penodol tuag at y digwyddiad eleni yn Llanerchaeron.
Yn y cefndir gall weld yr hen fila 18fed Canrif sydd yn sefyll ar safle’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol lle'r oedd yr Eisteddfod yn cael ei gynnal. Llwyddodd i gael llun fflag yr Urdd hefyd yn ei liwiau gwyrdd, coch a gwyn a hyd yn oed dal y trên yn symud, i gyd mewn un llun.
Felly llongyfarchiadau, Owen, mae dy iPod ar ei ffordd.









