Clybiau Ieuenctid Yn Cau
Prynhawn da bawb, dwi'n dod a'r newyddion i chi fod clybiau ieuenctid yn cau ar draws Torfaen.
O fis Medi ymlaen bydd tua phump yn llai o glybiau ieuenctid nag sydd ar gael nawr o fewn Torfaen.
Mae'r gwasanaeth ieuenctid yn cau'r clybiau ieuenctid yma sydd wedi'u sefydlu ac wedi bod yn rhedeg am nifer o flynyddoedd, er mwyn cynilo arian.
Dwi'n meddwl fod hyn yn niweidiol i bobl ifanc a'r gymuned. Mae llawer o aelodau'r gymuned wedi bod yn aelodau o'u clybiau ieuenctid pan roeddent yn 11 i 16 oed, a nawr maent yn eu gweld yn cau. Wyt ti'n gwybod beth mae'r gwasanaeth ieuenctid eisiau rhoi yn eu lle?
Na? Wel, fe ddywedai wrthyt ti. Mae'r gwasanaeth ieuenctid eisiau rhoi timau ieuenctid datgysylltiedig mewn lle, fydd yn crwydro'r strydoedd 'ymhob tywydd'. Bydd hyn yn dda pan fydd pobl ifanc allan ar y stryd mewn tywydd sych, ond ni fyddent eisiau bod ar y strydoedd gwlyb ac oer pan fydd hi'n bwrw, maen nhw eisiau bod mewn adeilad yn sych.
Felly beth dwi'n ddweud ydy rho gyllideb mwy i'r gwasanaeth ieuenctid i gadw'r clybiau ieuenctid yma ar agor, iddynt gael effaith bositif ar fwy o blant a phobl ifanc y dyfodol.
Diolch am ddarllen fy rant.
DELWEDD: slimmer_jimmer







