Clyweliadau We Will Rock You
Wyt ti wedi clywed am y peth gwych yma o'r enw We Will Rock You?
I'r rhai sydd ddim, mae'n sioe gerdd bocs bopio ar gerddoriaeth Queen.
Cydweithiodd y comedïwr a'r awdur Ben Elton gyda Brian May a Roger Taylor, gyda'r sioe gyntaf yn agor ym mis Mai 2002 yn y West End. Ers hynny, mae'r cynhyrchiad wedi mynd ar draws y byd.
Nawr, gyda hynny wedi dod i ben, wyt ti erioed wedi eisiau bod yn rhan o'r sioe, yn canu caneuon fel Under Pressure, I Want To Break Free a Crazy Little Thing Called Love i enwi dim ond tri?
Byddet? Gwych. Yna pam ddim cymryd rhan mewn fersiwn cymunedol o We Will Rock You?
Bydd clyweliadau'n cael eu cynnal i'r sioe gerdd ar ddydd Mercher 7 Rhagfyr yn Ysgol Gatholig Esgob Hedley, ym Merthyr Tydfil.
Mae'r cynhyrchiad angen dawnswyr, canwyr ac actorion o bob oedran. A'r peth gorau ydy nad oes angen profiad, felly byddai hyd yn oed golygydd CLIC yn cael ei groesawu. [Oi – gallaf i ganu clasur Queen mewn siaced ledr a mwstas yn well na unrhyw un – golygydd]
Os wyt ti angen gwybodaeth bellach, cysyllta gyda Lee Davies ar 01685 353420 neu Zoe Richards ar 07816 149856. Neu os wyt ti fel fi ac yn teimlo'n annifyr yn siarad gyda phobl ar y ffôn yna e-bostia Lee ar lee.davies@3gs.org.uk.
Tudalennau Celfyddydau Perfformio







