Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Codi Arian I Mind

Postiwyd gan Black_Star o Powys - Cyhoeddwyd ar 02/04/2012 am 12:10
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Iechyd, Gwirfoddoli

  • cacan

English version

Ers mis Tachwedd 2011 dwi wedi bod yn cynllunio digwyddiad codi arian i Mind.

Y cynllun gwreiddiol oedd cynnal gwerthiant teisennau mewn coleg. I gychwyn roedd rhaid meddwl am ddyddiad, cael caniatâd, penderfynu beth i bobi, ysgrifennu pa gynhwysion oedd angen, trefnu deunydd ar gyfer y dydd, prynu cynhwysion, pobi teisennau ayb ayb.

Penderfynodd fy ffrind gael parti yn ei siop. Penderfynom godi arian i Mind drwy roddion hael a dyfalu enw'r tedi ayb. Gwisgodd y ddau ohonom i fyny. Roedd hi'n glown eithaf od ac roeddwn i'n gath. Cawsom ychydig o edrychiadau od ond roedd popeth yn werth o.

Nesaf roedd y gwerthiant teisennau. Ar fy niwrnod bant es ar y bws gyda dau focs enfawr llawn gwahanol fathau o deisennau. Mae'r siwrne bws yn awr a hanner! Yn ogystal â gwerthu fy nheisennau i, fe wnaeth fy ffrindiau deisennau hefyd a gwerthwyd y rhai yno i gyd hefyd.

Dwi'n gweithio mewn canolfan ieuenctid felly penderfynom godi arian ar gyfer cynnal a chadw'r adeilad, ond fe godais i un fi i Mind drwy aros i fyny am 24 awr. Roedd yn brofiad diddorol iawn. Dim ond am ddwy awr gysgais i.

Ar y cyfan codwyd £304.88 i Mind fydd yn helpu llawer o bobl gyda gofid meddyliol.

Rydym yn bwriadu cynnal digwyddiad gyda'r thema bwyta'n iach tu allan i siop fy ffrind a gweithio gyda'n gilydd i godi arian i Mind eto. Mae fy ffrind arall a fi hefyd yn trefnu aros i fyny am 24 awr eto ar gyfer pobl ifanc fis Awst.

Rydym yn bwriadu gwella a chodi mwy nag £304.88. Gawn ni weld…

Mae Mind yn helpu pobl i gael rheolaeth o'u hiechyd meddyliol drwy ddarparu gwybodaeth a chyngor o ansawdd uchel, ac yn ymgyrchu i hyrwyddo ac amddiffyn iechyd meddwl dda i bawb. Cymera olwg ar www.mind.org.uk.

Tudalennau Iechyd Meddwl

DELWEDD: Phillip

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50