Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Colli A Chanfod: Pennod Un

Postiwyd gan Faymondo:) o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 07/09/2011 am 14:20
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Ysgrifennu Creadigol, Teithio

  • chanfod

English version

Mae'r erthygl hon wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Ysgrifennu Creadigol yng Ngwobrau CLIC 2011.

Dyma'r stori dwi wedi'i ysgrifennu am gwrs Ysgrifennu Creadigol CLIC. Mae'n wyth pennawd i gyd felly parha i edrych ar theSprout am rai newydd.

Deffrais gyda naid. Roedd rhywun wedi troi'r golau ymlaen. Neidiais i fyny yn sydyn, fy mysedd yn ceisio agor sip y sach cysgu wrth i mi geisio dod allan ohono ar frys. Wrth wneud, tarais fy mhen ar y sedd toiled, yn achosi sŵn mawr i atseinio trwy'r ystafell toiledau.

"Helo?" meddai llais distaw.

Daria! Gydag ochr fy mhen yn curo atebais yn fwyn, "Dwi'n iawn. Wedi taro fy mhen ar y drws ar ddamwain. Sori!"

Dim ateb. Ond cyn hir, gallwn glywed y fflysh yn cael ei dynnu yn y toiled ychydig resi i lawr ac yna sŵn traed brysiog yn rhedeg allan o'r toiledau.

Grêt. Nawr bydd rhaid i mi frysio, cyn iddi yrru rhywun. Meddyliais yn sydyn beth oedd rhaid gwneud… ac ar frys.

Plygais fy hen sach cysgu piws a'i gadw, wrth roi'r sach deithio ar fy nghefn. Tasgais ddŵr oer dros fy wyneb, ac yna edrych i mewn i'r drych oedd wedi torri; roeddwn yn edrych yn ofnadwy. Roedd fy llygaid efo bagiau mawr piws o danynt ac roedd fy ngwallt yn sych fel gwellt o wynt y môr a diffyg cyflyrydd. Ochneidiais a thynnu fy het yn isel wrth osgoi llygaid pawb. Cerddais i lawr y llwybr ac i fyny i'r twyn tywod agosaf. Roedd fy nghoesau yn llosgi wrth i mi gerdded i fyny, ac roedd y tywod yn llithro o dan fy nhraed yn ei gwneud yn anoddach i ddringo.

O'r diwedd cefais i mewn i bant ac eistedd i lawr. Wrth syllu ar yr haul oedd yn agosáu, meddyliais am fy mhroblemau unwaith eto. Ymestynnais i mewn i'm mag am fy mhwrs. Doeddwn i ddim am feiddio edrych i mewn, gan fod y sefyllfa boenus o 'redeg allan o arian' yn agosáu yn sydyn. Cyfrais y papurau. Tri deg a dau ugain. Sut oeddwn i wedi gwario  tri deg punt mewn tri diwrnod? Heliais fy meddyliau yn sydyn. Yr unig beth oeddwn i wedi'i brynu oedd cwpl o brydau. Llowciais wrth feddwl am y siop ar y safle. Yn amlwg nid oedd mor rhad ag yr oedd yn honni bod.

O gornel fy llygaid, gwelais dudalennau llipa fy nofel. Ochenaid arall. Y llyfr simsan yna oedd yr unig beth oedd gen i a'r un rheswm am redeg i ffwrdd.

Fy mreuddwyd oedd bod yn awdur, ond roedd fy rhieni eisiau i mi gael 'gyrfa go iawn' a ddim yn credu nac efo hyder y gallwn gael swydd dda ar y diwedd. Cwpl o flynyddoedd yn ôl, daeth fy nheulu a finnau i Cornwall, yma i'r safle yma. Wrth yrru yn y car un dydd daethom ar draws adeilad mawr, eithaf dilys gyda 'Cyhoeddwr Llygaid Serennog' wedi'i ysgrifennu ar yr ochr. Roeddwn yn gwybod o'r munud hwnnw byddwn yn dychwelyd gyda llyfr fy hun. Ac wrth lwc, cwpl o wythnosau yn ôl, gwelais hysbyseb ar wefan y 'Cyhoeddwr Llygaid Serennog' yn dweud eu bod nhw'n chwilio am ddeunydd newydd gan ysgrifenwyr ifanc rhwng 16 a 20 oed. Felly neidiais ar y cyfle, prynu tocyn trên i Cornwall a dyma fi.

Edrychais ar fy ffôn. Roeddwn wedi ei droi i ffwrdd. Yn araf, codais ef i fyny a'i droi ymlaen. Ar ôl beth oedd yn teimlo fel oes, daeth ymlaen a dweud yn syth fod gen i ddeg galwad wedi'i fethu a llwyth o negeseuon testun. Gwgais. Pam na allent nhw adael fi lonydd? Roeddwn yn 17, bron yn 18 mewn cwpl o fisoedd. Roeddwn yn ddigon hen i benderfynu beth oeddwn i eisiau gwneud efo fy mywyd/ Gyda fy meddyliau cymysg gafaelais yn fy meiro a chrynhoi fy nheimladau yn wyllt yn fy nofel, fy un gogoniant hyfryd.

Lost & Found: Chapter 2

Gwybodaeth – Addysg – Gyrfaoedd

Newyddion – Categorïau – Ysgrifennu Creadigol

Gwybodaeth – Tai – Digartrefedd – Rhedeg i Ffwrdd

Sefydliadau – Prosiect Addysg Shelter Cymru

DELWEDD: Dunes gan Stewart Black

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.