Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Corrach + Clorian Pwyso = Gwyddoniaeth

Postiwyd gan Ragnarok o Abertawe - Cyhoeddwyd ar 30/03/2012 am 13:42
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Diwylliant, Addysg, Pobl, Materion Cyfoes, Teithio

  • cor
  • c2
  • c3
  • c4
  • c5
  • c6
  • c7

English version

Dwi ddim yn gwybod amdanat ti, ond dwi wedi cynhyrfu am bethau byddai eraill efallai'n meddwl yn "ddibwys".

Ti'n gwybod, fel y gwahaniaeth rhwng Arial a Helvetica, neu'r theori tu ôl i atomau. Dyna'r gwir fi, CLICwyr.

Ond, ti'n gwybod beth sy'n fwy gwych? Corrach.

Ia, corrach. Corrach sydd yn teithio. Corrach gwyddonol, i fod yn fanwl gywir.

Mae corrach o'r enw Kern wedi bod yn teithio'r byd yn ymweld â phob math o lefydd i ofyn un peth. Cwestiwn sydd wedi drysu gwyddonwyr ac awduron llyfrau comig.

Ble yn y byd wyt ti'n pwyso fwyaf?

Yn wir, mae'n fwy o gwestiwn pwysig nag "wherefore art thou Romeo?"

Mewn twist gwyddonol i'r pranc adnabyddus o'r corrach yn mynd ar daith, bwriad yr Arbrawf Corrach ydy i ddod â gwyddonwyr, ysgolion a'r cyhoedd cyffredin gyda'i gilydd mewn ymchwiliad byd eang i mewn i ddisgyrchiant (gravity).

Mae'r rhai sydd yn cymryd rhan yn derbyn bocs yn cynnwys y corrach arbennig hwn, gyda set o gloriannau manwl iawn. Ar ôl i'r corrach gael ei bwyso a'i lun wedi cael ei dynnu, mae Kern yna yn cael ei yrru i leoliad newydd, gan wneud i wyddoniaeth ddigwydd ym mhob un cyfandir.

Hyd yn hyn mae Kern wedi ymweld â Lima, Mumbai, Mecsico, De Affrica, San Francisco, Caledonia Newydd, Sydney a Phegwn y De, gyda Chanada yn lleoliad nesaf iddo.

Hyd yn hyn, ar ei daith, mae'r corrach wedi profi rhywbeth – byddi di'n pwyso mwy ym Mhegwn y De na fyddi di ar y cyhydedd (equator). Nid yn unig hynny, ond byddi di'n pwyso (fymryn) llai ym Mhrydain nag yn California yn America.

Felly beth mae hyn yn ei olygu? Wel, mae disgyrchiant yn effeithio ni'n wahanol yn ddibynnol ar ble rydym, ac mae'n ymddangos wrth i ni agosáu at begynau'r ddaear, byddwn ni'n cael ein heffeithio gan dyniad disgyrchiant y ddaear mwy, gan wneud i ni ymddangos yn fwy trwm  nag yr ydym. Sydd yn eithaf diddorol, ti ddim yn meddwl?

Eisiau gweld y canlyniadau hyd yn hyn? B?m, dyma ti.

Beth am wybodaeth bellach am antur eithaf cyffrous y corrach yma? Capow, dwi'n danfon y nwyddau i ti eto.

Eisiau llun o fochyn daear? Am gais od…

Tudalennau Y Byd, Ewrop, DU a Chymru

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50