Creadigaeth Photoshop
Dyma lun dwi wedi'i greu gan ddefnyddio Photoshop.
Roeddwn i wrth fy modd efo'r gwreiddiol felly chwiliais am diwtorial ar-lein bydda'n helpu ti wneud un fy hun.
Cymerodd oriau yn chwarae gyda'r gwahanol effeithiau a thrawsffurfiadau!
Dim ond yn ddiweddar dwi wedi cael Photoshop ar fy nghyfrifiadur, felly dwi'n meddwl fod y tiwtorialau yn ddefnyddiol iawn i gael ti i ddod i arfer gyda'r gwahanol lithryddion a botymau.
Doeddwn i byth yn meddwl byddwn i yn gallu gwneud rhywbeth fel hyn, yr unig beth sydd angen ydy ychydig o ysbrydoliaeth.
Fe lwythaf y lluniau defnyddiais fel dy fod di'n gallu chwarae o gwmpas dy hun, neu gallet ti deipio 'Photoshop tutorials' i mewn i Google ac mae yna lawer o bethau anhygoel gallet greu!
Tudalen Ffotograffiaeth a Delweddau Digidol











