Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Cwestiynu Keith Towler

Postiwyd gan hollymorris o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 24/04/2012 am 12:47
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Diwylliant, Addysg, Hanes, Pobl, Materion Cyfoes

  • kt
  • kt2
  • kt3
  • kt4
  • kt5

English version

Keith Towler ydy Comisiynydd Plant Cymru a dydd Iau diwethaf (19 Ebrill) aeth theSprout draw i Lyfrgell Ganolig Caerdydd ar gyfer sesiwn cwestiwn ag ateb gydag ef. Cafodd y digwyddiad ei hun ei drefnu gan y Sproutiwr eiddgar DeadAngelLover22, felly diolch yn fawr iddi am y cyfle gwych yma!

Beth ydy Comisiynydd Plant a pam gafodd y swydd ei chreu?

Yn ôl pob golwg, gall unrhyw un fod yn Gomisiynydd Plant! Nid oes cymwysterau arbennig – mae'n ymwneud ag angerdd a phrofiad. Roedd Towler ei hun wedi dod yn rhan o brosiectau cymunedol ar ôl cymryd cwrs celf. Esboniodd fod adroddiad oedd wedi'i gynhyrchu ar ôl ymchwiliad hir i mewn i gamdriniaeth plant mewn cartrefi plant yng Ngogledd Cymru yn gosod yn glir mai un o'r prif resymau am y fath erchyllter oedd nad oedd neb wedi gwrando. Felly cafodd y swydd Comisiynydd Plant ei greu: un person, a'i waith cyfan oedd edrych ar ôl pobl ifanc a gwrando ar bobl ifanc.

Mae Towler yn selio ei holl waith ar brofiad uniongyrchol pobl ifanc a hyrwyddo ac amddiffyn set o hawliau o'r enw'r CCUHP (Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, gall weld yn fan hyn.)

Beth gallai o/hi wneud/ddim gwneud?

Gall y Comisiynydd Plant adolygu unrhyw beth i wneud gydag iechyd, addysg, gwasanaethau plant a phobl ifanc ac unrhyw beth arall sydd yn effeithio nhw yn uniongyrchol. Ni allent wneud pethau fel ymyrru ar faterion troseddol, newid penderfyniad barnwr na dod yn rhan o faterion fel ceisio am loches (asylum seeking).

Pa brofiad sydd gan Towler?

Mae Towler yn cyfarfod gyda phlant a phobl ifanc tua dau i dair waith yr wythnos mewn amryw osodiad, fel ysgolion, ysbytai, hosbisau a'r carchar. Mae hefyd yn gweithio'n galed i wrando ar leisiau lleiafrifoedd, fel teithwyr Sipsi a Roma. Yn ogystal â gwrando yn uniongyrchol i bobl ifanc, mae Towler yn gweithio yn aml gyda phobl sydd yn gweithio'n uniongyrchol gyda nhw, fel gweithwyr ieuenctid a gofalwyr.

Beth ydy rhai o'r materion mwyaf amlwg mae plant a phobl ifanc yn siarad gyda Towler amdanynt?

Dywedodd Towler fod plant mewn ysgolion cynradd yn tueddu siarad am eisiau bod a theimlo'n ddiogel a thrafod materion fel bwlio, bod yn ddiogel gartref, ddim yn gallu mynd i barciau a sut maent yn teimlo am bobl ifanc h?n. Mewn cymhariaeth, mae pobl ifanc mewn ysgolion uwchradd a cholegau yn tueddu siarad gydag ef am gyfryngau cymdeithasol, ddim yn cael eu clywed, cael eu portreadu mewn ffordd negyddol, materion trafnidiaeth a diogelwch yn eu hardal leol.

Sut mae'r Comisiynydd Plant yn newid pethau?

I newid pethau mae Towler yn casglu tystiolaeth am y mater mewn cwestiwn, yn benodol drwy wrando ar farn uniongyrchol pobl ifanc. Mae'n ceisio cael y fath o bobl sydd yn gallu gwneud gwahaniaeth ar ei ochr, ac, yn ffaelu hynny, yn cyhoeddi adroddiad am y materion hyn ac yn cynnig awgrymiadau am sut i newid pethau am y gorau.

Gofynnom iddo hefyd am ychydig o faterion penodol…

Pam fod yr oed pleidleisio yn 18?

Mae Towler yn meddwl bydda'n syniad da i ostwng yr oed pleidleisio i 16 oherwydd mae wedi gweld  llawer o bobl ifanc yn ymgyrchu am hyn ac oherwydd bod nhw yn nifer sylweddol o ganran y demograffig. Mae'n awgrymu'n gryf i gael dadl genedlaethol fawr am oed pleidleisio ac yn teimlo fod y cydbwysedd grym yn ffafrio'r oedolion gormod. Mae'n benbleth iddo pam bod cymaint o oedolion yn dadlau bod rhoi grym i bobl ifanc yn beth perygl, er esiampl athrawon sydd ddim eisiau clywed beirniadaeth bositif neu negyddol o'u dosbarthiadau.

Awgrymodd ailasesiad llwyr o'r cyfyngiadau oed fel gyrru, pleidleisio, yfed, rhyw a phriodas.

O ran pobl ifanc, sut mae cymdeithas mor amrywiol, amlddiwylliannol yn cael ei gadw'n ddiogel rhag rhagfarn a thrais?

Esboniodd Towler fod pob person ar y blaned yma yn cael ei amddiffyn gan driniaeth wedi'i selio ar hawliau. Mae'n meddwl bod cred sylfaenol sydd yn hyrwyddo'r negyddol a chasineb tuag at un math o bobl angen ymateb iddo yn ddifrifol.

Er bod rhyddid barn yn bwysig iawn, dylai plant a phobl ifanc gael eu hamlygu i farnau radicalaidd?

Cytunodd Towler fod hyn yn fater pwysig ac fel cymdeithas mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn, oherwydd er bod rhyddid barn yn hawl dynol, beth sydd yn digwydd pan fydd y farn yna yn un eithafol neu'n ceisio gorfodi pobl i feddwl mewn ffordd benodol?

Fe gysylltodd hyn i mewn gyda'r syniad dylai ysgolion uwchradd gael eu gweld fel bod yn rhy gefnogol o arholiadau a ddim yn gefnogol o realiti, efallai ddim yn paratoi nhw i lyncu neu ymateb i faterion fel rhagfarn yn y dyfodol, ac efallai ddim yn darparu nhw i ymdopi gyda'r mewnlifiad o blant ysgol gynradd fydd yn tyfu i fyny yn meddwl bod eu llais nhw yn cael ei glywed yn awtomatig a bod eu barn nhw yn cael ei gysidro. Atgyfnerthodd y syniad fod angen darganfod cydbwysedd rhwng amddiffyn plant a gadael iddynt fwynhau plentyndod wrth wneud nhw'n ymwybodol  faterion fel rhain fydd efallai yn codi.

Sut fedra i gysylltu gydag ef?

Mae Keith Towler efo tîm o 26 o bobl yn helpu. Gall gysylltu gyda nhw yn y ffyrdd canlynol:

Rhadffôn: 0808 801 1000
Testun: 80800 (dechrau'r neges gyda COM)
E-bost: post@childcomwales.org.uk
Twitter@complantcymru

Dywedodd Towler hefyd bydda'n hoffi cadw mewn cysylltiad â ni a bydda ef yn hapus i roi sylwad neu dderbyn unrhyw erthygl o theSprout neu unrhyw wefan CLIC arall, felly os wyt ti' meddwl bod yna erthygl y dylai weld, gad sylwad isod!

Gwefan Comisiynydd Plant Cymru

Gwybodaeth – Hawliau Plant

Erthyglau Perthnasol:

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50