Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Cwis Llenyddiaeth I Bobl Ifanc

Postiwyd gan Biscuits o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 31/03/2010 am 09:55
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Ysgrifennu Creadigol, Diwylliant, Addysg, Yn Gymraeg

  • Kids' Lit

Click here for English version

Fe gymerais ran yn y Cwis Kids’ Lit tua dwy flynedd yn ôl, ond dim ond yn ddiweddar feddyliais i sgwennu amdano.

Roedd yn un o’r profiadau gorau dwi erioed wedi’i gael yn fy mywyd (byr) hyd yn hyn a dwi’n gobeithio fod y bobl sydd yn darllen hwn yn cael eu hysbrydoli i fynd amdani. (Hwn ydy fy nhro cyntaf yn ysgrifennu i’r gwefan, felly byddwch yn neis!).

Mae’r Cwis Kids’ Lit yn gystadleuaeth llenyddiaeth ryngwladol sydd yn rhedeg unwaith y flwyddyn, ar gyfer plant oddeutu 10 i 13 oed. Mae yna rowndiau yn cael eu cynnal mewn nifer o wledydd dros y byd ac mae’r timau sydd yn ennill yn y rowndiau hyn yn mynd ymlaen i gynrychioli eu gwlad yn Rownd Derfynol y Byd, sydd yn cael ei gynnal mewn lle gwahanol bob blwyddyn.

Fel mae’r enw yn awgrymu, mae’r cwestiynau wedi’i selio ar lenyddiaeth ac awduron, er mae categorïau wedi’i selio ar ffilm wedi bod yn y gorffennol hefyd.

Wayne Mills ydy Meistr y Cwis, dyn deinamig iawn sydd, bob blwyddyn, yn galifantio dros y byd, yn gofyn ei gwestiynau i’r timau awyddus. Yn ystod y rowndiau mae nifer o awduron enwog yn aml yn dod i weld y cwis ac ar gael i lofnodi llyfrau neu siarad wedyn. Mewn cwisiau yn y gorffennol mae Philip Pullman, Eva Ibbotson a Julia Golding wedi bod yno.

Rwyf wastad wedi mwynhau darllen ond pan oeddwn i yn ifanc, doeddwn i erioed wedi meddwl faint o bobl oedd yn rhannu’r diddordeb hwn. Pan symudais i ysgol uwchradd, clywais fod cwis llenyddiaeth yn cael ei gynnal yn y llyfrgell i ddisgyblion blwyddyn 7. Gyda diddordeb fe es i a rhai o’m ffrindiau yno i drio ac roeddem wedi cael ein bachu yn syth.

Erbyn blwyddyn 8 roeddwn i wedi cael fy newis fel rhan o dîm oedd yn cynrychioli’r ysgol yn y cwis Kids’ Lit. Felly yn Nhachwedd 2007, aethom i ysgol Howell’s i gystadlu yn y rownd derfynol rhanbarthau Cymru. Roedd yr awyrgylch yn wych a’r cynnwrf yn rhywbeth fydd yn aros yn fy nghof. Roedd hi’n agos iawn y noson honno, ond llwyddodd ein tîm i ennill a ni oedd Pencampwyr Cymru. Roeddwn mewn sioc fawr pan gafodd ei gyhoeddi mai ni oedd yn y safle cyntaf ac roeddwn yn crynu am oriau wedyn.

Doeddwn i ddim yn credu fy mod yn rhan o grŵp oedd wedi cyflawni rhywbeth mor anhygoel! Roedd gweddill y noson yn swrrealaidd iawn gyda galwadau adref a lot o weiddi a sgrechian. Roedd y gwen llydan dal ar fy wyneb pan es i’r gwely.

Gan mai ni oedd Pencampwyr Cymru cawsom wahoddiad i gystadlu yn rownd derfynol y Deyrnas Unedig, am gyfle i gynrychioli’r DU yn Rownd Derfynol y Byd. Yn anffodus roedd y system newydd o seinyddion (buzzers) yn ddiarth i ni a ni wnaethom yn dda iawn yn y darn yno o’r gystadleuaeth. Felly roeddem wedi’n synnu pan ofynnwyd ni ddychwelyd i gynrychioli Cymru yn Rownd Derfynol y Byd!

Lwc oedd hyn; gan fod y Rownd Derfynol yn cael ei gynnal yn y DU, roeddent wedi gofyn i’r pencampwyr o’r Alban, Iwerddon, Lloegr a Chymru i gystadlu hefyd fel bod mwy o gystadleuaeth.

Rhoddodd y cyfle hwn egni newydd i ni ac am y misoedd yn arwain at y gystadleuaeth bûm yn ymarfer yn galed gyda seinyddion tan roedd ein cof yn llawn a methu dysgu dim mwy. Ar un pwynt, darllenodd un o fy nhîm y gyfres lawn o Chronicles of Narnia mewn llai nag wythnos, felly rydych yn gallu dychmygu’r brwdfrydedd oedd gennym.

Cyrhaeddodd yr wythnos bwysig yn fis Gorffennaf 2008 ac ar fore dydd Llun teithiwyd i Rydychen yn fws mini’r ysgol Roedd gennym wythnos o anturiaethau llenyddiaeth o’m blaenau ond doedd neb yn gwybod beth i’w ddisgwyl. Roedd y cwis ar y dydd Iau, a byddai’r dyddiau yn arwain ato yn llawn gweithgareddau o gwmpas Rhydychen. Llwyddodd popeth rhagori ein disgwyliadau.

Roedd y dyddiau yn llawn cyffro, fel oeddem yn mynd o le i le, ond mae rhai o’r cofion fwyaf clir yn cynnwys ymweliad i’r siop toesen Krispy Kreme (ddim yn iach!), lle ddois i nabod y tîm DU, Arnold House. Cawsom hefyd fynd am ‘de’ efo Michael Rosen, Bardd y Brenin yr adeg, ac roedd yn gymeriad bydd yn aros yn fy meddwl am flynyddoedd i ddod.

Ymwelwyd â nifer o golegau, cael taith cerdded yn Rhydychen, dysgu hanes bywyd Lewis Carroll a phyntio yn afon Cherwell, profiad ddangosodd i ni pa mor anodd ydy pyntio! Y peth gorau oedd bod y gweithgareddau yma i gyd yn cael ei wneud efo pobl oedd yn yr un meddwl a ni, rhai yr oeddech yn teimlo’n gyffyrddus yn trafod manylion cymhleth llyfrau efo nhw, oherwydd roeddem i gyd wrth ein boddau yn darllen a dyna oedd y rheswm roeddem yno.

Ar 10fed Gorffennaf digwyddodd y Rownd Derfynol Y Byd Cwis y Kids’ Lit 2008 yn Playhouse Rhydymain. Roedd y timau i gyd yno, gan gynnwys ysgolion o Tsieina, Seland Newydd a De Affrica. Cystadlwyd o flaen cynulleidfa o awduron, plant ysgol a rhieni, ac roedd hyn yn gwneud ni’n fwy nerfus byth! Ond mewn gwirionedd, llwyddom i wneud Cymru’n falch a gorffen yn drydedd.

Roedd yn destament i ba mor galed roeddem wedi bod yn gweithio yn y misoedd yn arwain at y cwis ac roedd hyn wedi talu ac yn gwneud ein buddugoliaeth fach yn hyd yn oed gwell. Roeddem wedi gwneud y gorau bosib ac roedd y teimlad o ecstasi yn un dwi erioed wedi’i deimlo ers hynny.

Ar yr adeg, dwi’n cofio cymharu fo i’r ewfforia mae gofodwyr yn fod i deimlo pan maen nhw’n gadael stratosffer y Byd. Gorffennodd ein hwythnos gyda chinio gala, lle cawsom y cyfle i wisgo’n neis a siarad efo rhai o’n hawduron gorau. Roedd pob tîm hefyd yn gorfod cyflwyno adolygiad byr o’u llyfr gorau; penderfynodd fi ac aelod o’r tîm ei wneud mewn tandem.

Cyflwynom gerdd fer am y llyfr Journey to the River Sea gan Eva Ibbotson, a chanmol y llyfr am ei symlrwydd, ond ar yr un adeg, ei gymeriadau cryf a’i foesau. Cafodd dderbynfa dda a rhoddodd asiant Eva Ibbotson ei cherdyn busnes i ni a’n annog i yrru’r gerdd i Eva.

Fe wnaethom hynny, a thipyn o fisoedd wedyn, cawsom gyfle i’w chyfarfod, a dywedodd wrthym faint roedd wedi mwynhau’r gerdd. Roedd ei diffuantrwydd yn syndod hyfryd ac am wythnosau wedyn roedd ein pennau wedi chwyddo o falchder.

Mae ysgolion y dyddiau hyn i weld yn ffocysu fwy ar lwyddiant chwaraeon yn hytrach na rhai academig ac yn aml y ‘nerds’ yn y dosbarth sydd yn cael eu cau allan o grwpiau ffrindiau oherwydd does neb yn meddwl eu bod yn ‘cŵl’. Dyma pan dwi’n teimlo fod y Cwis Kids’ Lit yn bwysig i ddangos i bobl ifanc fod darllen yn sbort yn ei hun ac yn gallu bod mor ‘cŵl’ â chwarae pêl droed i glwb.

Rydym dal mewn cysylltiad gyda’r ffrindiau gwnaethom yr adeg hynny ac yn parhau i synnu ein bod wedi bod mor lwcus i gymryd rhan yn y cyfle unigryw hwn. Nes i erioed feddwl y byddwn i yn eistedd ar yr un bwrdd a Berlie Doherty ac yn trafod ei llyfrau! Roedd cymryd rhan yn y cwis yn gwneud i mi sylwi faint rwyf yn caru llenyddiaeth a pa mor awyddus ydw i barhau gydag ef yn y dyfodol.

Oeddech chi’n gwybod fod gan theSprout adran ysgrifennu greadigol ei hun? Cliciwch yma am straeon byr, cerddi a pob math o ffuglen. Beth am gyflwyno gwaith eich hun?

DELWEDDAU:

kidslitquiz

austinevan



Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.