Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Cyfarwyddo Cyfoedion

Postiwyd gan lizzie_scott o Penybont ar Ogwr - Cyhoeddwyd ar 30/01/2010 am 12:29
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Addysg, Pobl, Gwaith a Hyfforddiant, Gwirfoddoli

  • Cyfarwyddo

English Version

Mae cyfarwyddo cyfoedion yn gynllun a sefydlwyd yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr.

Fe’i sefydlwyd oherwydd ein bod yn credu y byddai pobl ifanc yn ei chael yn haws i siarad â rhywun ifanc arall am eu problemau yn hytrach na siarad â gweithiwr ieuenctid hŷn.

Felly dyma lle dechreuodd cyfarwyddo cyfoedion. Dechreuodd gyda chwrs preswyl yng Nghanolfan Awyr Agored YMCA Newgale  lle dechreuwyd rhan gyntaf y cwrs. Yna cwblhawyd ail hanner y cwrs yn Aberhonddu mewn tŷ bynciau.

Ar ôl cwblhau’r cwrs rhannwyd canolfannau ieuenctid, clybiau neu ysgolion inni lle byddem yn defnyddio’r hyn yr oeddem wedi ei ddysgu a’i roi ar waith.

Yn ddiweddar rydym wedi hyfforddi’r drydedd genhedlaeth o gyfarwyddwyr cyfoedion a chefais y fraint o helpu i gyflwyno’r cwrs gyda’n gweithwyr ieuenctid ni.

Mae bod yn gyfarwyddwr cyfoedion yn un o’r profiadau gorau yn y byd a byddwn yn ei argymell i unrhyw un.

Os cei gyfle i’w wneud, manteisia ar yr her. Fe fydd yn dy ysbrydoli ac yn rhoi cyfle oes i ti.

Mae hefyd yn edrych yn dda ar CV ac mae’n wych os wyt ti'n bwriadu mynd i’r math hwn o waith.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.