Cyfweliad Gyda Ymladdwr Caets
English version
Gohebydd Ar Y Stryd, Geoff CLIC, Yn Cyfweld Pobl Ifanc Anhygoel.
Cyfweliad dau: Joe, Ymladdwr Caets
Mae Joe o Bowys yn gerddor 24 oed sydd wedi'i troi'n ymladdwr caets, yn dysgu crefftau ymladd, chwarae'r gitâr ac yn astudio am radd mewn rhaglennu cyfrifiaduron.
Gwylia sgiliau gwych Joe mewn Crefftau Ymladd Cymysg a'i chwarae gitâr anhygoel, dysga sut roedd yn teimlo wrth gamu i mewn i'r caets am y tro cyntaf a'i athroniaeth ar fywyd.
Mae Joe yn dysgu yng Nghlwb Crefftau Ymladd Cymysg Twister yn Drenewydd, Powys. Pam ddim mynd draw i Ganolfan Hamdden Maldwyn ar ddydd Llun neu ddydd Mercher rhwng 8:20 a 9:40pm? Dim ond £4 y dosbarth!
"Tyrd draw a bod yn rhan o un o'r chwaraeon sydd yn tyfu fwyaf yn y byd! Dysga sgil newydd, cadw'n heini, cynyddu hyder a chyfarfod pobl newydd cŵl mewn awyrgylch cyfeillgar! Bydda'n rhan o hyn!" meddai Joe.
Gwybodaeth » Chwaraeon a Hamdden » Chwaraeon Dan Do » Crefft Ymladd
Eisiau gweld mwy o gyfweliadau?
Cyfweliad Gyda Sglefriwr
Cyfweliad Gyda Bysgiwr










