Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Cyn Cyrch Morgan: Allan O Reolaeth

Postiwyd gan RosiieFlamingo o Powys - Cyhoeddwyd ar 27/02/2012 am 09:55
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Ysgrifennu Creadigol, Pobl, Cyffuriau, Gyffuriau

  • doll

English version

Nodyn Awdur: Mae hwn yn rhywbeth dwi wedi bod yn gweithio arno am dipyn.

Roeddwn i bron a gorffen y drioleg ond chwalodd fy nghyfrifiadur a dyma'r unig beth allwn i adfer o'r rhan gyntaf.

Dwi hefyd wedi cael traean o'r ail ran yn ôl, a dwi tua chwarter ffordd drwy'r rhan ddiwethaf

Bydd yn waith enfawr i ail-ysgrifennu popeth felly dwi eisiau gwybod os ddylwn i drafferthu… mae peth ohono yn ddadleuol, peth ychydig yn cynhyrfu, a pheth ohono ychydig yn anfoesgar, ond dwi wedi newid y tôn ychydig, cymaint ag y gallaf heb aflonyddu trefn y stori.

Plîs gad sylwadau os wyt ti'n gweld camgymeriadau, a hoffwn glywed beth ti'n feddwl dylai ddigwydd nesaf o gymharu â beth dwi wedi cynllunio yn barod ar gyfer Morgan.

Pennod 1

Symudais fy hun i fel fy mod i'n eistedd ar ymyl y gwely anghyfarwydd ond cyffyrddus dros ben a rhedeg fy mysedd drwy fy nghyrls melyn. Doedd gen i ddim cof o'r noson cynt nac o'r bachgen oedd yn cysgu'n sownd ar ei stumog wrth ochr fi. Astudiais ef. Gwallt melyn byr iawn, coesau hir a chwyrlïad o dat? du dros ei ysgwyddau. Dyfalais ei fod tua 24, 25 oed. Roedd y blanced wedi lapio o gwmpas ei ganol ac yn amlwg roedd newydd fod wedi clymu o amgylch fy nghoesau. Roedd yn eithaf deniadol, ond aeth ias drwydda i a llithrais allan o'r gwely, yn chwilio am fy nillad yn y golau oedd yn ffiltro trwy'r bleinds llwyd. Wedi meddwl am y peth, roedd yr ystafell gyfan yn un o foethusrwydd ond plaen, y math ti dim ond yn ei gael mewn ystafell gwesty drud. Grêt. Pwy oedd yn talu am hyn? Gobeithio nad oedd ar fy ngherdyn credyd i – neu un Jamie ddylwn i ddweud. O'r diwedd dois i hyd i'm ffrog ddu fach a gwingo i mewn iddo. Dim ond un esgid gallwn i weld, er doeddwn i ddim eisiau gwisgo'r sodlau mawr yn ôl gartref i ddweud y gwir… os gallwn i ffeindio'n ffordd gartref, os mai dyna le roeddwn i'n  mynd. Gan faglu dros garrai agored Converse, rhegais yn uchel a deffrodd y bachgen gwallt melyn gyda naid. Rholiodd drosodd a disgynnodd allan o'r gwely, gan waeddi mewn poen wrth iddo lanio ar fy esgid arall, Tynnodd yr esgid oddi dano ac edrych arna i efo llygaid hanner agored.

"Bore da."
"Helo" gwingais a thynnu hem fy ffrog i lawr.
"Sut wyt ti?" doedd o ddim i'w weld yn poeni ei fod yn gorwedd ar y llawr.
"Iawn. Wyt ti'n gwybod lle ydym ni?"
Gwgodd wrth ganolbwyntio am eiliad, "Sori, dim clem."
"Hyfryd." Gollyngais fy hun ar ochr y gwely. "Grêt."
"Pam? Ti ddim yn mynd?"
"Yn meddwl gwneud."
"Na, paid. Arhosa am dipyn…" edrychodd arna i efo cwestiwn yn ei lygaid.
"Morgan."
"Morgan. Aros am ychydig bach?" Wrth iddo siarad eisteddodd i fyny a rhedeg llaw ar draws ei ben. Cysidrais ei becs hyfryd. Roedd o'n hardd dros ben.
"Iawn ta. Gad i mi edrych ar fy ffôn gyntaf." Gollyngais fy esgid.
"Iawn," meddai gan ddylyfu gên a chodi ar ei draed i grwydro draw at yr ystafell ymolchi doeddwn i ddim wedi sylweddoli. Dechreuais chwilio am fy mag bach du, a chefais hyd iddo o'r diwedd wedi jamio o dan gadair siec llwydfelyn a llwyd. Ystafell gwesty yn bendant. Roedd fy ffôn wedi'i gladdo yn y gwaelod, ac wrth i mi ei godi, roedd yn fflachio gyda hanner dwsin o negeseuon. Ochneidiais a galwais y peiriant ateb.

"HEI BABS! DYLAI TI FOD YMA!" llais fy ffrind Jamie yn gweiddi dros ryw guriad bas uchel a s?n y gr?p dwi'n ffrindiau gyda nhw. "LLE ES DI? TYRD YN ÔL YN FUAN! CARU TI!"
"BAAAAAABS! MAE LOTTIE WEDI CAEL GAFAEL AR DOPE ANHYGOEL! TYRD YN ÔL I DRIO PETH! FYDDI DI WRTH DY FODD!" Roeddwn yn adnabod llais 'stoned' Jamie.
"TYRD, TYRD, TYRD! LLE WYT TI? TI'N METHU ALLAN, BABS!"
Sibrwd oedd yr un nesaf. "Cariad, dwi ddim yn gwybod lle wyt ti, ond paid dod yn ôl! Mae'r heddlu wedi ffeindio ni. Dwi ddim i fod i ddefnyddio'r ffôn, dwi – hei, dos oma! Fi bia hwnna – dos oma!" yna aeth y ffôn i ffwrdd. Rholiais fy llygaid.

"Pea!" fy ffrind Lottie yn wylo ac wedi meddwi'n ofnadwy. "Mae Patch wedi gorffen efo fi! Dwi angen ti! Lle wyt ti?! Dydy Jamie ddim yn dweud! Galwa fi!"
"Babs, galwa fi. Cawsom ein gadael allan bore 'ma. Galwa fi cyn gynted galli di gael i ffwrdd! Caru ti." Jamie eto. Fe wnes ddileu'r holl negeseuon a ffonio Jamie,
"Hei cariad."
"Morgan, babs!" meddai. "Lle es di?"
"Dim syniad."
"Wel, pwy ta?"
"Eto, dim syniad."
Chwarddodd. "O, Pea, dim eto." Fe wnes sain o gytundeb, fy sylw wedi'i dynnu gan olwg y dieithryn gwallt melyn yn sefyll yn nrws yr ystafell ymolchi gyda gwallt tamp a thywel gwyn o amgylch ei ganol. Cododd ael ac fe wnes arwydd pum munud iddo. Nodiodd ac eisteddodd ar y gwely, yn gwylio fi.
"Cariad, rhaid i fi fynd. Ond gwna ffafr i fi a phiga fi fyny?"
"Iawn babs, pryd?"
Chwiliais am gloc ond gallwn i ddim gweld un. "Na'i decstio ti.:
"Iawn, caru ti."
"Caru ti hefyd. Hwyl." Rhoddais y ffôn i lawr. Cychwynnodd y bachgen gwallt melyn godi ond rhoddais law allan i'w atal.
"Dwi angen smoc."
"Brysia."

Estynnais fy maco o'm mag ac ar ôl eiliad o feddwl ychwanegais ychydig ddarnau o ganabis iddo. Roedd y drag cyntaf yn gwneud i'm mhen i droi, mewn ffordd dda, ac es drosodd at y ffenestr i allanadlu a cheisio gweithio allan lle'r oeddwn i. Roedd yna olygfa hyfryd o'r ddinas ond doeddwn i'n gweld dim oedd yn awgrymu pa ddinas oedd o. Rhoddais fy mhenelin ar y silff ffenestr a theimlo rhywbeth yn cyffwrdd fy mhenelin, edrychais i lawr. Roedd wales yn gorwedd ar y silff ffenest. Edrychais yn ôl at y bachgen oedd nawr yn gorwedd ar ei gefn, ei lygaid wedi cau. Agorais y waled yn chwilio am gliwiau a tharo aur yn syth. Trwydded yrru yn eistedd tu ôl i ffenestr glir ac roeddwn yn adnabod y bachgen yn y llun.

Yn ôl hwn ei enw oedd Sam Hughes, 27 oed, wedi'i eni ym Manceinion, a dyna le'r oeddwn i neithiwr, neu o leiaf i gychwyn beth bynnag. Dwi'n cofio'r rhan gyntaf roeddem wedi mynd i d? ffrind i ffrind i ffrind. Oeddwn i dal ym Manceinion felly? Edrychais yn sydyn drwy weddill y waled a chodi fy aeliau mewn syndod wrth weld chwe chan punt o bapur, pum cerdyn credyd, gan gynnwys cerdyn American Express. Bodiais y plastig aur gan edmygu. Os oeddwn i'n iawn roedd y bachgen yma yn gyfoethog. Rhoddais gwpl o gannoedd tu ôl i fatri fy ffôn a sugno drag diwethaf o'r sbliff, gan luchio'r gweddill allan o'r ffenestr. Gadawais ef ar agor a llithro ar draws y gwely. Agorodd Sam un llygad wrth i mi redeg fy nwylo dros ei frest a gwenodd yn werthfawrogol cyn gwyro i'm nghusanu. Roeddwn i'n 17.

Ychydig oriau wedyn gwyrodd Jamie ar draws i agor drws ei Vauxhall Cavalier hen hen a lluchiais fy mag i'w lin cyn llithro i mewn i'r sedd. "Felly sut oedd o?"
Tynnais y fisor haul i lawr ac edrych ar y sglein ar fy ngwefusau. "Reit dda."
Gwyrodd ymlaen i syllu at ble roedd Sam yn sefyll yn nrws y gwesty a chwibanu. "Wow. Hwnna ydy o?"
Chwythais gusan i mi fy hun a dweud "Ia."
Parhaodd Jamie i syllu yn ddigywilydd. "Wow, dwi'n edmygu ti babs."
"Ti mor hoyw. Stopia syllu!" pwdais. "Dwi ddim yn cael helo iawn?"
Blinciodd ac ysgwyd ei ben. "Sori babs. Tyrd yma." Ymestynnodd allan a rhoi ei freichiau o'm nghwmpas gan gusanu fi ar fy ngheg.
"Dyna welliant."
"Dydy dy gariad di ddim yn edrych yn hapus iawn," nodiodd Jamie yn ddifyrrus at Sam. Ochneidiais.
"NID fy nghariad i ydy o. Ddim yn agos hyd yn oed." Edrychais arno, i'w weld yn syllu yn flin ar Jamie. Crynais gyda'r golwg yn ei lygaid gwyrdd. Roedd o'n eithaf secsi ond ychydig yn ddychrynllyd ar yr un amser. Gwelodd Sam fi'n edrych arno felly codais ael. Cododd o le'r oedd yn gwyro yn erbyn y wal a dod drosodd. Weindiais y ffenestr i lawr.
"Beth?"
"Nes di ddim dweud fod gen ti gariad," hisiodd i'm nghlust. Gwgais, yn ddryslyd, ac yna sylweddolais beth oedd yn feddwl.
"O! Ti'n meddwl fod Jamie yn gariad i fi!" meddais, gan wenu. "Iesu na, mae Jamie mor hoyw a gei di. Wyt babs?"
"Ydw."
Gwyrodd Sam yn ôl i edrych ar Jamie oedd yn llygadu ef yn reit blaen, ac yna gwyrodd yn ôl. "O."
"Gweld nawr?"
"Ydw. Felly dwi'n cael cusan hwyl fawr?" gofynnodd. Cyn i mi gael ateb roedd Jamie wedi torri ar draws.
"Hei, fi ydy'r unig berson sydd yn gwneud y cusanu yn y car yma!" cwynodd. Chwarddais.
"Jôc oedd hynna?" mwmiodd Sam i fi. Ysgwydais fy mhen.
"Yn anffodus na."
"Ymm… iawn. Os ddoi di allan o'r car gai gusanu ti?"

Meddyliais am y peth am funud, yna gwthiais ddrws y car yn agored a chamu allan. Cynigais fy moch am gusan ond rhoddodd Sam ei freichiau o gwmpas fy nghanol a phigo fi i fyny, yn cusanu fi'n galed. Crynais a chloddio fy mysedd i mewn i gefn ei wddf, ond cafodd unrhyw beth arall ei atal gan Jamie yn canu corn y car yn uchel.
"Babs! Tyrd!"
Gollyngais Sam a llithro yn ôl i'r car. Sylweddolais gyda chwarddiad fod sglein fy ngwefusau wedi'i ddifetha eto. Rhoddodd Jamie'r car i mewn i gêr ond cyn iddo fedru gyrru i ffwrdd, rhoddodd Sam ei ben drwy'r ffenestr. Roedd yn anadlu yn ddwfn a sylweddolais gyda diddan mai fi oedd wedi achosi hynna.
"Gai weld ti eto?"
Edrychais yn od arno. "Byddai o gwmpas". Weindiais y ffenestr i fyny a gyrrodd Jamie i ffwrdd.

*****************

Dwi'n cofio'r diwrnod dois i'n ffrindiau efo Jamie a Patch a Lottie a Bumble a phawb arall. Y diwrnod penderfynodd Florence Paris, bwli'r ysgol (ac un dwi'n tybio roedd ei rheini yn ei chasáu) mai fi oedd ei tharged newydd, gan fod hi'n meddwl mod i'n rhy fach i sefyll i fyny drosta i fy hun a gan nad oedd gen i ffrindiau i amddiffyn fi. Roeddwn i'n naw a chefais fy nghornelu yn iard chwarae ein hysgol stad flêr ar yr ystâd tai roeddwn i wedi byw trwy gydol fy mywyd. Roedd hi'n gwisgo clustlysau cylch a blaser budr, ac roedd hi'n cnoi gwm gyda'i cheg yn agored. Roedd un hosan yn hongian a gallwn weld briwiau ar ei breichiau oedd yn awgrymu bod ei bywyd cartrefol hi mor ddiflas ag bywydau'r gweddill ohonom. Gwthiodd fi i mewn i'r wal a dweud byddai'n lladd fi os nad fyddwn i'n rhoi fy arian poced iddi o hyn ymlaen.

O gysidro nad oeddwn i'n cael arian poced, roeddwn i'n meddwl bod hwn yn sefyllfa annheg iawn, a dywedais hyn wrthi. Y canlyniad oedd pelten yn fy wyneb i fi a thrwyn gwaedlyd iddi hi, diolch i'm nwrn naw oed. Dyma oedd y tro cyntaf i mi daro neb, ond roedd yn ddigon i brofi nad oeddwn i yn gallu cael fy ngwthio o gwmpas. Daeth Jamie a Lottie draw ac eistedd gyda fi amser cinio ac rydym wedi bod yn ffrindiau ers hynny. Ers i ni fod digon hen i sylweddoli fod y plant poblogaidd yn meddwl ein bod ni'n od, y rhai crand yn meddwl bod ni'n 'chavs', a'r lliprynnod yn meddwl bod ni'n dwp, a gan nad oedden ni'n ffitio i mewn gyda'r ffrîcs, y 'chavs' na'r bobl 'arbennig' chwaith, roedd rhaid i ni greu gr?p ein hunain.

Roeddem ni i gyd yn wahanol, ac i gyd yn ffrindiau gorau. Roeddwn i'n fach, yn denau ac yn fyr, felly Pea oeddwn i, oedd yn gwneud fi'n destun jôc i bawb, a doedd y ffaith fod gen i wallt wedi'i dip-liwio yn wyrdd pan oeddwn i'n ddeg ddim yn helpu. Doeddwn i ddim yn meindio – roedd pryfocio a llysenw yn golygu derbyniad, a dyma'r unig beth oeddwn i eisiau. Dwi ddim yn cofio pa bryd dechreuais i gysgu o gwmpas. Roedd bechgyn – neu dynion, nawr mod i ychydig yn h?n – yn hoffi fi am fod i'n fach ac yn dlws, efo llygaid mawr a gwallt melyn (fel arfer). Roeddwn i'n hoffi'r sylw a'r teimlad fod rhywun eisiau fi, hyd yn oed os mai dim ond am ychydig funudau oedd o. Unrhyw beth i ddwlu'r poen oedd gartref. Dyna oedd atyniad fodca, sigaréts a chanabis i mi hefyd. Ac roedd yn gweithio. Doedd dim gartref yn cyffwrdd fi pan oeddwn i efo'm ffrindiau.

Yn anffodus, gallwn i ddim osgoi gartref am byth. Wedi'r cwbl, weithiau doedd gen i ddim arian na dillad glan. Agorais y drws cefn yn agored ychydig a gwrando. Roedd mwmian isel lleisiau yn dod o'r ystafell fyw i fyny'r cyntedd, ond roedd y drws wedi cau felly sleifiais i mewn. Ychydig gamau ymhellach a gallwn weld y gegin. Rhewais. Roedd rhywun i mewn yno. Ond ymlaciais wrth sylweddoli mai Martin oedd o. Camais i mewn i'r gegin ac edrychodd gwr mam o naw wythnos – a gwelliant mawr ar yr un roedd hi wedi ysgaru mis cyn y briodas, yn fy marn i – i fyny o'i wydr brandi. Roedd ei wyneb tenau yn druenus a'i fysedd tenau yn crynu wrth iddo sipian.

"Morgan." Gwenodd yn wan arnaf. Nodiais yn ôl a rhoi fy esgidiau ar y bwrdd cyn mynd yn linc-di-lonc at y rhewgell a thynnu'r botel allan roeddwn i'n gwybod oedd yn y drôr gwaelod. Heb drafferthu gyda gwydr, agorais y botel ac eistedd gyferbyn Martin.
"Lle ti 'di bod?" gofynnodd ar ôl ychydig eiliadau. Llyncais gegiad o'r fodca siarp a llyfu fy ngwefusau.
"Manceinion."
"Sut ges di'n ôl?"
"Rhoddodd Jamie lifft i mi."
"o iawn," llyncodd Martin weddill ei frandi a chysidro'r gwydr. Pasiais y fodca iddo a rhoddodd dair neu bedair modfedd i mewn i'w wydr cyn pasio'r gwydr yn ôl.
"Cyfarfod rhywun diddorol?" mentrodd. Meddyliais am Sam a snwffiais.
"Efallai."
Martin oedd yr unig berson yn fy nh? gallwn i ddioddef bod yn yr un ystafell ag ef. Rhannom y fodca rhewllyd nes bod dim ond modfedd ar ôl yn y gwaelod. Roedd fy mhen yn suo yn braf ar fy stumog wag ac ochneidiais, gan lithro yn fy sedd. Eiliad wedyn caeodd y drws yn glep ac eisteddodd Martin a finnau i fyny yn syth, gan gyfnewid golwg ofnus.
"Martin?" galwodd llais garw mam. Gwthiais fy nghadair yn ôl a sefyll i fyny wrth iddi ymddangos yn y drws. "O. Morgan."
Nodiais yn ystyfnig.
"Ble es di?"
"Allan."
"Iawn, beth bynnag." Cipiodd y botel fodca o'r bwrdd gan edrych ar y cynnwys. "Hei! Ti wedi yfed fy alcohol i gyd?"
Edrychais ar Martin ond roedd yn syllu ar ei ddwylo, oedd wedi'i glymu yn ei gilydd, yn crynu, ar y bwrdd. "Na."
Anwybyddodd fi fel arfer. "Iesu, Morgan, faint o weithiau?"
Agorais fy ngheg i ymateb ond torrodd ar fy nhraws. "Martin, pam ti heb gychwyn y swper?"
"Sori cariad," atebodd yn betrusgar. "Nes i golli trac ar bethau. Na'i ddechrau r?an." Cododd i'w draed a dechrau chwilota drwy'r cypyrddau gwag am bethau i wneud bwyd roeddwn i'n gwybod byddai mam a'i chariad tew o chwe blynedd, Reuben, ddim yn bwyta. Doedd mam ddim yn ymddangos fel ei bod am adael yr ystafell eto, dim ond gwyro ar yr ochr a gwylio, felly llithrais fy nhraed oddi dan y bwrdd a cherdded o'r ystafell ac i fyny'r cyntedd. Roedd fy nhroed fi ar y stepen gyntaf pan glywais lais seimllyd Reuben tu ôl i mi.

"Morgan, lle oeddet ti neithiwr?"
Gwingais. "Unlle."
"Wel, yn amlwg roeddet ti'n rhywle. Paid dweud celwydd wrtha i." Caeodd ei fysedd tew o amgylch fy arddwrn a thynnodd fi yn ôl i'r cyntedd. Plyciais fy arddwrn yn rhydd a rhythu arno.
"Fe es i rywle sydd ddim byd i wneud efo ti," poerais. Cipiodd ynddo’i eto a thynnu fi yn anghyffyrddus o agos, ei geg ger fy nghlust a'i law tew ar fy nghanol.
"Paid siarad yn ôl arna i blentyn. Roeddet ti efo rhyw fachgen doeddet?" Cyrliais fy ngwefus mewn diflastod wrth i'w anadl damp daro fy nghlust. "Doeddet, y slag bach?"
Brwydrais yn erbyn ei afael chwyslyd ac o'r diwedd llwyddo i ddod yn rhydd. Chwarddodd arna i. "Does ddim rhaid i ti boeni am ffeindio bechgyn eraill os nei di dderbyn fy nghynnig i, bêb.:
Syllais arno. "Ti yn jocan? Dim peryg o hynna, Reuben. Ych! Poerais. Roedd wedi bod yn gwneud awgrymiadau anaddas tuag ata i ers oeddwn i'n 11, ond roedd hwn yn fwy isel byth. Gwthiais ef i ffwrdd a stompio i fyny'r grisiau i'm hystafell. Yr unig beth glywais wrth i mi gau'r drws yn glep oedd ef yn dweud, "Nei di newid dy feddwl del."

Ffoniais Lottie y funud dois allan o'r gawod. "Babs."
"Pea, cariad!" meddai. "Ble es di?"
"I westy crand mawr ym Manceinion."
"Ww, bêb. Oedd o'n dda?"
Tynnais wyneb a dweud, "da iawn i ddweud y gwir."
"Oedd o'n secsi?"
"Dros ben." Stwffiais y ffôn rhwng fy nghlust a'm hysgwydd wrth i mi wagio'r dillad budr o'r penwythnos ar lawr fy llofft a chwilio drwy'r wardrob am grys du hir roeddwn i'n gwybod oedd yno. Dois o hyd iddo a'i ollwng ar y gwely cyn i mi droi i wynebu'r drych. Roedd pentwr o ddillad isaf glan ar y llawr a chwilotais drwyddynt.
"Felly dweud wrthyf am Patch."
Anadlodd allan yn drwm a giglan. "Wel! Dywedodd Bumble wrtha i fod Patch yn mynd o gwmpas efo rhyw ferch ddiarth, felly gofynnais i Patch am y peth ac roedd o'n dweud mai ei gyfnither oedd hi ac wrth gwrs doeddwn i ddim yn credu, felly nes i gyhuddo ef o ddweud celwydd, a dywedodd os nad oeddwn i efo ffydd ynddo fo dylwn i fynd, felly nes i ddweud pan fyddwn i efo ffydd ynddo ef os ydy o'n dweud celwydd o hyd a dywedodd ef fod o byth yn dweud celwydd… felly atgoffais o am y holl beth efo Carla felly dywedodd o fod i wedi maddau iddo am hynny a nes i ddweud maddau OND heb anghofio a dywedodd o nad allai gymryd fy mharanoia a rhedais allan. A dyna pryd galwais i ti. Ac roeddwn i hanner ffordd drwy botel o Bacardi a dyma Patch yn rhedeg ar ôl fi efo'r ferch yma ac roedd o'n amlwg nad oedden nhw'n gwneud dim am fod hi'n hyll fel mochyn a doedd ganddi ddim bronnau, ac roedd hi'n addo mai ei gyfnither ef oedd hi ac yna aeth hi, ac yna dechreuodd Patch grio a dweud bod o'n caru fi, ac yna aeth i brynu siampên a meddwon ni a threulio gweddill y noson yn ei d? fo. Roedd o'n grêt," gorffennodd gydag addurn a chwarddodd.

"Felly dychryn di-sail oedd o?" gofynnais.
"Ia," ochneidiodd yn hapus. Esmwythais strapiau fy mra i lawr a syllu ar fy adlewyrchiad. Roedd briw siâp llawr ar fy nghlun. Edrychais arno yn glinigol. Roedd fy ngwallt yn dywyll gyda d?r, tair tôn ac aur tywyll, ychydig pasio fy ysgwyddau, a fy nghyrls wedi'u pwyso i lawr i mewn i donau. Gallwn i weld lle'r oedd linciau sgwâr fy mreichled wedi pwyso i mewn i'm harddwrn y noson cynt, felly tynnais ef, a'i osod yn fflat ar y dreser. Roedd fy llygaid olewydd efo cysgod, nid golwg diarth. Roedd ôl diwethaf y masgara yn staen o dan fy llachia, a llyfais fy mys i'w rhwbio.
"Felly, cariad, beth sy'n digwydd heno?" gofynnais, gan wgu ar ddarn ystyfnig o ddu.
"Dwi ddim yn gwybod am bawb arall. Dwi'n mynd draw at Patch."
"Iawn. Na'i alw draw," meddwn yn ddifeddwl, gan chwilio am y sychwr gwallt. "Siaradwn ni wedyn bêb."
"Iawn del," atebodd, "caru ti."
"Caru ti hefyd." Rhoddais y ffôn i lawr a phlygio'r sychwr i mewn. Dim ond ychydig funudau gymerodd i sychu fy ngwallt. Pan roedd yn gorwedd yn garpiog o gwmpas fy mochau. Rhoddais y sychwr i ffwrdd a thynnu'r crys du ymlaen, gan gau'r botymau yn araf wrth eistedd i lawr ar y gwely i decstio pawb. Tecstiodd Bumble yn ôl ar ôl rhyw ddeg neu un ar ddeg eiliad, a Jamie ychydig wedyn, yn gofyn a oeddwn i eisiau torri ar draws parti pwll ar ochr cyfoethog y dref. Atebais yn dweud mod i, yna arllwys fy mag ar y llawr, gan roi fy mhwrs a'm sigaréts i mewn iddo. Rhoddais fy ngholur ar y gwely a rhoi'r gweddill yn y bin.

"Babi Pea!" gwaeddodd rhywun a trois rownd, yn chwerthin wrth i mi gael fy nghofleidio gan fachgen enfawr efo gwallt du. Cododd fy nhraed oddi ar y llawr am funud. Cusanodd Damien helo i mi a rhoi fi lawr gan wthio sbliff i'm llaw. "Dwi heb weld ti ers oes!"
"Dwi'n gwybod, dim ers Blwyddyn Newydd!" Chwarddais, gan gofio'r parti yna, a'r goelcerth roedd fy ffrog werdd wedi dioddef ohono, yn gadael fi heb ffrog am weddill y noson. "Oes yna dân heno?"
"Na, dim ond pwll nofio." Nodiodd tuag at yr ardd cefn. Cymerais ddrag. Roedd yna gynnwrf wrth y drws ffrynt a disgynnodd dau fachgen drwodd yn marw chwerthin. Edrychodd un ohonynt, bachgen tal a tenau gyda phen wedi'i siafio, i fyny a dweud, "Morgan!" gan luchio ei hun arnaf. "Wyt ti'n cofio fi?"
"Ymm… wrth gwrs!" dywedais gelwydd. Doedd gen i ddim syniad pwy oedd o. "Sut wyt ti?"
"Gwych, gwych! Wyt ti wedi gweld y pwll?" Roedd wedi meddwi yn ofnadwy. Nodiais a chwythu mwg allan.
"Tyrd!" gafaelodd yn fy llaw a chychwyn tuag at yr ardd cefn. Edrychais ar Damien a chwarddodd, ysgwydodd ei ben a chrwydro i fwrdd mewn cyfeiriad gwahanol. Cefais fy nhynnu tu allan ar decin pinwydden. I lawr y grisiau roedd ehangder o lawnt dwt a phwll enfawr glas. Roedd rhywun yn barbiciwio cyw iâr ac roedd bwrdd yn dal amryw fotel alcohol. Daeth llwyth o bobl tuag atom, yn gwisgo dillad nofio, Jamie a Bumble yn eu canol. Rhoddodd Jamie gusan i mi a photel o fodca, yn twirliodd i ffwrdd, gan dda llaw pobl a thynnu nhw tuag at y pwll. Roedd y bachgen oedd i'w weld yn adnabod fi efo'i fraich o amgylch fy ysgwydd. Cymerais ddrag o'm sbliff a'i gynnig iddo. Cymerodd ef a chusanodd fi, yn chwerthin.

Deffrais yn fuan ac agorais fy llygaid i weld yr haul yn tywynnu ar wyneb  pwll. Syllais arno mewn breuddwyd. Arnofiodd can o gwrw pasio a blinciais.
"Bore da," meddai llais cyfarwydd o rywle cyfagos.
"Damien?" ymestynnais.
"Hei Pea."
"Faint o'r gloch ydy hi?"
"Hanner awr wedi un."
"Ych." Yn araf roeddwn yn ymwybodol fod breichiau rhywun o'm hamgylch. Gwenais gan feddwl am y bachgen gwallt byr o'r noson cynt, ond ar ôl eiliad, sylweddolais fod siâp y corff tu ôl i mi yn anghywir. Pan droais gwelais y cyrls hir sgleiniog brown a'r gwefusau wedi'u peintio'n lliw eirin yn dal yn berffaith o'r noson cynt. Roeddwn yn adnabod cariad Damien, Madeline, tua modfedd o'm hwyneb. Trois fy mhwn. "Damien?"
"Ia. Cariad?"
"Beth ddigwyddodd neithiwr?"
"O," chwarddodd, "ti'n cofio Madeleine? Mae'n ymddangos bod y ddau ohonoch yn dod ymlaen yn dda iawn." Gwyrodd drosta i, yn ymestyn allan i gyffwrdd cornel fy nheg. Dangosodd y staen lipstic eirin oedd ar ei fawd. "Nid un ti?"
"Na," meddais gyda diddordeb ysgafn fod y ffrog lliain ifori roeddwn i'n gwisgo ddim yn perthyn i mi. Doedd y bicini aur ddim chwaith wedi meddwl am y peth. Blinciodd Madeleine yn araf wrth iddi ddeffro, yna ymestyn fel cath ddiog ac edrych o'm hwyneb i un Damien.
"Helo bawb," dylyfodd ei gên foethus, gan rolio ar ei chefn, yn gadael un fraich denau o dan fy ysgwyddau. "Fy ffrog i ydy hwnna?"
Edrychais i lawr. "O bosib."
Cysidrodd fi, "siwtio ti."
"Diolch"
"Nawr! Dylai fi fynd," meddai gan lithro ei braich arall yn rhydd a sefyll i fyny. Roedd hi wedi gwisgo yn fy nghrys du, efo'r botymau yn agored ac yn rhy fyr iddi; ddim ond yn dod i lawr at ei chlun. Llithrodd ef i ffwrdd a'i roi ger fi. Eisteddais i fyny i dynnu ei ffrog ifori i ffwrdd, gan hongian ef dros ei braich, gwyrodd i gusanu fi. "Hwyl cariad." Brathodd fy ngwefus gwaelod a chwarddodd. Gwenais a dweud, "welai di o gwmpas."
"Tyrd Damien," cymerodd ei law. "Gei di yrru fi adref." Ffwrdd â'r ddau a chodais i chwilio am frecwast.

Tudalennau Teulu a Pherthnasau
Edrycha ar Gyrsiau Ysgrifennu Creadigol CLIC (i gymryd rhan cysyllta â Rachel Burton ar Rachel@cliconline.co.uj neu ar 029 2046 2222.)

DELWEDD: ~dolldreamer~

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50