Cynhadledd Diogelu Sir Y Fflint A Wrecsam
Ar ddydd Mercher 22 Chwefror roeddwn i ac ychydig o bobl ifanc eraill yng Nghynhadledd Flynyddol Bwrdd Diogelu Plant Lleol Sir Y Fflint a Wrecsam yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy.
Roedd y gynhadledd yn ymwneud â'r ffyrdd gall oedolion gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel ar-lein.
Aethom i'n seti a derbyn croeso i'r digwyddiad. Yna cawsom araith gan Gomisiynydd Plant Cymru, Keith Towler.
Cododd Keith Towler ychydig o bwyntiau pwysig am ddiogelwch plant a phobl ifanc ar-lein a cyflwynodd wobrau i enillwr cystadleuaeth.
Yr ymgais buddugol oedd gan Ysgol Bryn Deva, gyda'u ffilm The Cyber Bully yn ymchwilio diogelwch rhyngrwyd mewn ffordd ddoniol, fywiog a chreadigol.
Dywedodd Keith Towler:
"Roeddwn i'n falch iawn o gymryd rhan yng nghynhadledd Bwrdd Diogelu Lleol Wrecsam a Sir y Fflint. Dylai llongyfarch ei aelodau am adnabod y sialensiau a'r cyfleoedd sydd ganddynt mewn tirwedd cyfathrebu ddigidol sydd yn newid yn barhaol."
Sangeet Bhullar, Prif Gyfarwyddwr WISE Kids oedd yn rhoi'r araith gyweirnod. Defnyddiodd Sangeet fideo pwerus o'r enw Ryan's Story i ddangos yr effaith o Seiber-fwlio. Roedd yn emosiynol iawn.
Un pwynt a godwyd oedd y ffaith frawychus fod plant a phobl ifanc rhwng 8 a 12 oed yn defnyddio Facebook er mai 13 ydy'r oed i fod.
Ar ôl egwyl fach roedd yn amser ar gyfer y panel oedolion a phobl ifanc, ac roeddwn i a'r bobl ifanc eraill yn rhan o hyn. Roedd y panel yn rhoi cyfle i'r oedolion a'r bobl ifanc i ofyn cwestiynau i'w gilydd am y rhyngrwyd a sut gall plant a phobl ifanc gael eu cadw'n ddiogel wrth ddefnyddio ef. Roedd y cwestiynau yn cynnwys:
- Ydych chi'n meddwl fod dealltwriaeth oedolion o dechnoleg yn ddigon da i amddiffyn pobl ifanc o beryglon y rhyngrwyd? Ac os ddim, beth ydych chi'n meddwl sydd yn rhaid gwneud i newid hyn?
- Beth ydych chi'n ei weld fel y prif broblemau gyda chadw'n ddiogel ar y rhyngrwyd?
- Gall gwefannau rhwydweithio cymdeithasol fod yn adnodd defnyddiol, felly pam bod gwaharddiad cyffredinol ar ei ddefnydd mewn ysgolion a chlybiau ieuenctid pan mae cynghorau a gwasanaethau'r cyngor efo tudalennau rhwydweithio cymdeithasol ei hunain?
- Sut ydych chi'n cadw plant yn ddiogel tra ar-lein?
Un cwestiwn gofynnwyd oedd pam, er bod gwefannau rhwydweithio cymdeithasol fel Facebook yn cael polisïau a chyfreithiau diogelwch, nad ydynt yn cael eu gweithredu? Un cwestiwn arall godwyd oedd cyfrifioldeb pwy ydy ef pan fydd pethau yn mynd o'i le ar wefannau rhwydweithio cymdeithasol? Un awgrym oedd hyfforddi oedolion a phobl ifanc ar ddiogelwch ar-lein a diweddariadau technoleg.
Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Plant Lleol Sir y Fflint a Wrecsam, Julie Gillbanks:
"Dwi'n falch iawn fod y Bwrdd Diogelu Plant Lleol wedi gallu rhoi'r cyfle hwn i ddysgu mwy am y pwnc o gadw plant yn ddiogel mewn byd digidol ar gyfer yr amrediad o bobl broffesiynol a gwirfoddolwyr dros Sir y Fflint a Wrecsam sydd yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc.
"Nid oes llawer o ffyrdd gwell i ddysgu am beth ydy'r sialensiau yn yr ardal yma o waith nag siarad gyda'r bobl ifanc eu hunain, ac roedd y rhai fu'n cymryd rhan yn y gynhadledd flynyddol yn rhoi mewnwelediad da i ni am y sialensiau yn yr ardal yma a beth rydym ni, fel pobl broffesiynol, angen ei wneud."
Roedd dros 100 o bobl yn bresennol ac yn cymryd rhan mewn gweithdai ar 'Bywydau Digidol Pobl Ifanc', 'Facebook a Seiber-fwlio', 'Hunanladdiad, hunan niwed a'r rhyngrwyd' a rhan Heddlu Gogledd Cymru mewn brwydro yn erbyn trosedd technoleg uwch yn erbyn plant a phobl ifanc. Roedd y gweithdai yn ddiddorol ac yn addysgiadol.
Oeddet ti'n gwybod ar Facebook fod dau fotwm adrodd gwahanol? Un ydy botwm adrodd Facebook ei hun a'r llall ydy CEOP, ond mae'n rhaid i ti lawrlwytho'r app ar gyfer y botwm CEOP.
Roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n ddiddorol iawn clywed gan yr heddlu fod rhaid iddynt synnu rhieni cyn eu cael nhw i dderbyn sesiynau diogelwch ar-lein. Ydy hyn am fod rhieni yn teimlo bod eu plant yn ddiogel a ddim eisiau gwybod neu feddwl nad ydyn nhw?
Roedd y gweithdy am hunanladdiad yn cael ei gyflwyno gan PAPYRUS. Roedd hwn yn bwnc anodd ond roedd yn frawychus darganfod mai hunanladdiad ydy'r lladdwr uchaf ymysg pobl ifanc. Roedd Heddlu Gogledd Cymru yn cyflwyno gweithdy am pam fydd pethau yn mynd o'i le.
Ar ôl y gweithdai aethom yn ôl i'r ystafell gynhadledd lle'r oedd aelodau Bwrdd Diogelu Plant Lleol Sir y Fflint a Wrecsam yn eistedd ar gyfer sesiwn cwestiwn ac ateb. Un cwestiwn gafodd ei ofyn oedd: ydy hi'n haws i flocio gwefan yn yr ysgolion a chlybiau ieuenctid hyd yn oed os oes pwrpas defnyddiol iddo? Yr ateb i hyn oedd ydy.
Roedd y gynhadledd yn ddiddorol ac yn addysgiadol. Ond, hoffwn wybod beth ydy dy farn di ar hyn, fel y gallai fwydo i mewn i'r Bwrdd Diogelu Plant Lleol Sir y Fflint a Wrecsam a gweld os gallem wneud wahaniaeth. Efallai gallwn wneud gwahaniaeth yn genedlaethol.
I gychwyn, wyt ti'n meddwl gallai Facebook fod yn ddefnyddiol mewn rhai ffyrdd o amgylchedd yr ysgol a chlybiau ieuenctid? Yn ail, sut wyt ti'n teimlo am y diogelwch a'r polisïau sydd mewn lle ar wefannau rhwydweithio cymdeithasol?
Yn drydedd, ble fyddet ti'n mynd os byddai pethau yn mynd o'i le ar wefannau rhwydweithiau cymdeithasol? Yn bedwerydd, cyn darllen yr erthygl hon, oeddet ti wedi clywed am y botwm CEOP i adrodd pobl? Plîs ysgrifenna dy sylwadau isod gan fod dy farn di yn ddilys iawn.
Bydd gwybodaeth yn dilyn y gynhadledd yn cael ei lwytho ar y wefan Bwrdd Diogelu Plant Lleol Sir y Fflint a Wrecsam.
Cyfeiriad y wefan ydy www.wrexham.gov.uk/fwlscb_w/index.htm neu www.flintshire.gov.uk a chlicia ar y cyswllt ar chwith y dudalen.
Cadw'n Ddiogel Ar-lein










