Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Cynhadledd Gwerth Gwaith Ieuenctid yng Nghymru

Postiwyd gan Easily_Distracted o Torfaen - Cyhoeddwyd ar 30/04/2012 am 11:37
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Pobl, Gwaith a Hyfforddiant, Gwirfoddoli, Yn Gymraeg

  • img
  • img
  • img
  • img

English Version

Roedd y Gynhadledd Gwerth Gwaith Ieuenctid yng Nghymru a gynhaliwyd yn Stadiwm y Mileniwm ar ddydd Mercher 7 Mawrth yn rhywbeth yr oeddwn wedi bod yn edrych ymlaen ato ers sbel.

Roeddwn i'n falch iawn o glywed am y pethau rhyfeddol sy'n cael eu gwneud mewn cymunedau ledled Cymru ac i glywed meddyliau a syniadau newydd gan bobl sy'n gweithio gyda phobl ifanc o ddydd i ddydd.

Yn lle hynny, beth welais i oedd gr?p o bobl ifanc oedd yn ymddangos fel petaent yn colli'r pwynt. Pobl oedd yn deall y rhifau, ond yn ymddangos i fod yn farw y tu ôl i'w llygaid. Pobl a, efallai trwy drio'n rhy galed i newid y byd wrth gadw at y nifer o reolau y disgwylir iddynt ddilyn, wedi mynd ar goll y tu fewn i'r bocs.

Eu hoff ran o'r gynhadledd i gyd, eu cyflawniad goroni, oedd yr un person ifanc a ddaethent o hyd i i siarad ag i gyflwyno'r siaradwyr eraill i'r gynulleidfa. Nid ydyw'n golygu eich bod wedi llwyddo i ddiwallu anghenion pobl ifanc dim ond achos eich bod yn cael person ifanc i sefyll i fyny a siarad yn eich cynhadledd, beth bynnag eu cyflawniadau personol.

Roedd yn edrych i mi fel yr oedd rhywun yn trio bach yn rhy galed i bortreadu'r gynhadledd fel rhywbeth nad ydoedd. Maent grêt i freuddwydio, mae'n debyg, ond o safbwynt person ifanc roedd y digwyddiad cyfan yn ychydig anesmwyth ac yn eithaf poenus i wylio...

Mewn cynhadledd yngl?n â phobl ifanc, roedd yn rhaid i chi edrych yn rhyfeddol o galed drwy'r llu o bobl ganol oed dosbarth canol. Rwy’n credu gwelais i gr?p bach o bobl ifanc yn ystod yr egwyl cinio, ond efallai roeddwn i'n gweld rhithiau erbyn hynny. Mae casglu gr?p o weithwyr ieuenctid ac athrawon i siarad am beth sydd orau i bobl ifanc gyda bron dim mewnbwn gan bobl ifanc ei hunain yn ymddangos yn gwbl afresymol a gallai fod yn niweidiol hir dymor.

Wedi'r cyfan, onid diffyg cyfathrebu'r yw achos llawer o broblemau'r dyddiau yma? Mae pobl, yn gyffredinol, yn ymateb yn well i bethau yr ydynt yn deall, ac os oedd yna fwy o dryloywder oddi wrth weithwyr yn gysylltiedig â phobl ifanc, rwy'n credu y byddai pob problem a'u hamlygwyd yn cael ei hadfer yn llawer haws. Nid ydw i'n meddwl yr oedd unrhyw un yno yn deall y cysyniad hynny'n iawn, fodd bynnag...

Nid oedd y gynhadledd yn drychineb llwyr. Ymhlith y llif diddiwedd o siaradwyr roedd un nad oedd wedi sefyll o flaen y dorf a grwnan ymlaen ac ymlaen am rifau, ystadegau a ffrwd o jargon nad oedd hyd yn oed arbenigwyr proffesiynol yn deall rwy'n si?r. Roedd hyn o leiaf wedi adfer fy ffydd yn y system ychydig bach, oherwydd mae'n si?r taw nid ef yw'r unig un o'i fath.

Er ein bod wedi mynd trwy emosiynau nodweddiadol yn gysylltiedig â cynhadledd wedi cyrraedd diwedd y prynhawn ; roedd y demtasiwn i sgipio sesiynau, annifyrrwch at bobl lletchwith, hiraeth am gwsg ac ebystiad ysbeidiol o ddiddordeb - roeddwn i ychydig yn drist am orfod gadael yn gynnar. Am y tro cyntaf i mi mewn gwirionedd roedd gen i gwestiwn da ar gyfer y sesiwn holi ac ateb. Er, dwi ddim yn si?r y byddai merch ifanc yn swil fel fi wedi bod yn gallu cael torri gair beth bynnag

Ac os wnes i, rwy'n si?r y byddai'r ystafell wedi syfrdanu cymaint ar y ffaith bod plentyn wedi cael ei glywed, ac nid y unig ei weld, y byddai wedi bod ychydig yn chwithig i bawb.

Nodyn o'r Golygydd: Mae'r erthyglau ar CLIC yn cynnwys barn y bobl ifanc sy'n eu hysgrifennu. Mae CLIC ei hun yn parhau i fod yn ddiduedd. Os ydych yn anghytuno â Easily_Distracted rydym yn eich annog i roi sylwadau isod neu ysgrifennwch eich erthygl eich hunain mewn ymateb.

Adnabod Gwaith Ieuenctid
Tudalen Gwirfoddoli

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50