Dagrau Syrthiedig
English version
Efallai bod rhai ohonoch yn gwybod fod hi'n Wythnos Coffa'r Holocost, ac felly dydd Llun es i ddigwyddiad yn Stadiwm Cwmbrân oedd yn ymwneud â chofio a dysgu am yr Holocost a'r difrod ar ei ôl.
Tra yno, ysgrifennais gerdd, a dyma ef:
Cofia dagrau'r syrthiedig,
Gan fydd y bobl yn parhau'n fyw yn y rhai
Sydd yn cofio nhw,
Cofio'r dagrau.
Cofio'r syrthiedig.
Dioddefwyr yr Holocost,
Hil-laddiad a rhyfel,
Cofio nhw,
Cofio'r syrthiedig.
Byddwn yn cofio'r dagrau,
Dagrau'r syrthiedig,
Dagrau'r colledig,
Byddwn yn cofio nhw,
Dagrau'r syrthiedig.
Paid aros, dim ond cofio,
Paid wylo, dim ond cofio,
Byth ar goll nag wedi'u hanghofio,
Cofia nhw, cofia'r syrthiedig.
Dwi'n gobeithio fod pawb yn hoffi'r gerdd fer yma. Dwi'n gwybod nad yw'n odli ond nid wyf wedi bwriadu hynny. Dwi'n gobeithio fod y gerdd wedi gwneud i ti feddwl, ac wedi cyffwrdd rhai ohonoch mewn rhyw ffordd ar y tu mewn.
Diolch am ddarllen.
Vincent Xavier
Gwefan Diwrnod Coffa'r Holocost
Esboniad o'r Holocost
Dysgu am Anne Frank (yn y llun)







