Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Datgelu Argyfwng CLIC

Postiwyd gan Stormer007 o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 28/03/2011 am 12:40
2 sylwadau » - Tagiwyd fel Ysgrifennu Creadigol, Pobl, Materion Cyfoes

  • sylwad

English version

Mae'r erthygl hon wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Fideo'r Flwyddyn yng Ngwobrau CLIC 2011.


Gwrandewch  pob CLICiwr!

Rydym yn wynebu epidemig sydd yn fwy nag unrhyw un rydym wedi’i wynebu o’r blaen.

Ia, hyd yn oed yn fwy na’r heic barddoni ddiweddar sydd nawr yn tyrru tudalennau blaen theSprout. Dwi’n cyfaddef fy mod i hyd yn oed wedi cael fy ysgubo i mewn i’r argyfwng barddoni.

Ond mae’r argyfwng rydym yn wynebu nawr yn llawer mwy peryglus ac yn fwy angheuol nag y mae unrhyw gymuned wedi’i wynebu o’r blaen! Cawsom ein rhybuddio, ond fel ffyliaid anwybyddom yr arwyddion.

Heddiw, fy nghyd CLICwyr, fy nheulu, fy nghymuned, dwi’n erfyn arnoch chi i wrando fel ein bod yn gallu dod at ein gilydd i oresgyn y trychineb sydd yn gadael pob un ohonom yn ddigalon ac yn teimlo dim cariad…

Y diffyg sylwadau.

Mae CLIC, fel dwi’n sicr rydych yn ymwybodol, fel cymuned. Rydym yn llwytho pethau rydym eisiau rannu gyda’n teulu rhith yn y gobaith ei fod yn dod a ni yn agosach at ein gilydd. Ond dwi’n ofni, fy ffrindiau, nad dyma’r realiti roeddem wedi gobeithio amdano.

Ym mhobman edrychaf, dwi’n darganfod tudalen unig yma ac acw sydd yn aros yn effro am oriau yn y gobaith bydd rhywun yn rhoi ychydig o gwmni iddo mewn ffurf sylwad. Y diwrnod canlynol dwi’n dychwelyd, dim ond i weld fod y dudalen hon yn parhau i fod yn unig a heb amddiffyniad.

Dwi wedi trio, annwyl ffrindiau, i adael sylwad ar gymaint y gallaf! Ond fel newynu byd, mae hwn yn broblem, mae rhai arbenigwyr yn dweud sydd yn rhagori newynu byd, sydd ddim yn gallu cael ei ddatrys gan nifer fach o bobl. Rydym yn gofyn i chi ddod at eich gilydd i helpu datrys y broblem hon.

Yn ddiweddar bues yn cyfweld Dr R E Marc, arbenigwr yn y maes Sylwadoleg. Trafodom ei ddamcaniaethau am yr argyfwng diweddar. Mae’n credu bod “cynnydd arwyddocaol yn helaethrwydd amserlen ddyddiol yr homosapien wedi arwain at y dirywiad llym yng ngallu unigolyn i wneud sylwad”.

Ar ôl ymgynghori â thesawrws, roeddwn yn gweld fy hun yn cytuno gyda Dr Marc.

Fe gychwynnom drafod cynlluniau adferiad posib i’r epidemig CLIC a sut gall “colon syml wedi’i ddilyn gan y cymeriad ‘D’ gynyddu yn sylweddol hunaniaeth yr awdur sydd yn lledu’r tebygolrwydd o erthyglau dilynol amryfal yn sylweddol ac yn cynhyrchu ffin dychwelyd groes negyddol o dri chwarter o hanner o un y cant”.

Sydd yn golygu fod gadael sylwad syml fel “job dda” neu “erthygl c?l” yn arwain at debygolrwydd cynyddol o’r awdur hwnnw ysgrifennu mwy o stwff gwych, fydd yn arwain i gynnydd ariannu gan y cyngor pan fyddent yn sylweddoli gwir botensial CLIC (Gwadiad – nid oes gorfodaeth ar y cyngor i roi mwy o arian i ni, yn ddibwys i sawl sylwad sydd.)

Dychmyga os gwnei di, neu boddha ni os nei di ddim, dy fod di wedi ysgrifennu erthygl ac yna’r diwrnod canlynol ti’n ei weld wedi’i bostio ar CLIC neu wefan lleol arall. Ti’n dychwelyd y diwrnod wedyn i ddarllen y sylwadau swynol sydd gan bobl am dy ddarn mympwyol o hiwmor a/neu ddifrifoldeb, dim ond i ddarganfod, yn anobeithiol, fod neb wedi ysgrifennu dim mewn ymateb.

Dychmyga sut fydda ti’n teimlo os, wedi gweithio mor galed ar dy erthygl, ti’n darganfod fod neb wedi dweud dim amdano. Nid oes canlyniad i dy waith caled i gyd, dim adborth, dim barn nac unrhyw ganmol.

Mae pawb yn hoffi teimlo’n bwysig a bod eu gwaith yn cael ei adnabod! Ac os fedri di helpu gwneud rhywun deimlo’n arbennig drwy adael sylw syml fel “anhygoel!” neu “stwff grêt”.

Plîs cymera sylw o’r fideo sydd yn cyd-fynd â’r erthygl hon, cafodd ei greu yn broffesiynol gan fy annwyl ffrind CrazyDistortion. Byddem yn disgwyl amdanat ti, ond plîs gwna hyn yn sydyn gan fod yr argyfwng yn gwaethygu pob dydd!

Wrth roi tri munud o dy amser pob dydd i wneud sylwad, fe allet ti wneud dy ran i helpu brwydro’r argyfwng hwn a rhoi diwedd ar yr erthyglau unig. Diolch i ti am ddarllen y neges bwysig hon. A plîs, gad sylwad, nid yn unig ar yr erthygl hon, ond ar bob erthygl.

Diolch. A phob lwc!

Cyflwynydd: Stormer007
Dyn camera a golygydd: CrazyDistortion Sub-Editor

DELWEDD: Annelore Schneider

2 CommentsPostiwch sylw

roo

roo

Rhoddwyd sylw 25 mis yn ôl - 7th April 2011 - 16:03pm

O'n i'n meddwl dylai rhywun rhoi sylw ar y fersiwn Cymraeg, felly: erthygl gwych! Ysbrydolus...

CLICtania

CLICtania

Rhoddwyd sylw 25 mis yn ôl - 8th April 2011 - 10:01am

Www, da iawn. Rhaid cofio gadael sylw ar y Gymraeg hefyd yn does. Cytuno, erthygl dda iawn diolch Stormer007 a CrazyDistortion. Gwaith da a doniol. :O)

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50