Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Deall Iechyd Rhywiol?

Postiwyd gan CLICtania o Cenedlaethol - Cyhoeddwyd ar 22/02/2010 am 11:52
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Addysg, Iechyd, Pobl, Materion Cyfoes

  • Photo 1

English version

MAE Hacio, y rhaglen materion cyfoes i bobl ifanc ar S4C, yn dweud nad oes digon o ymwybyddiaeth iechyd rhyw ymysg pobl ifanc yng Nghymru.

Roedd y rhaglen, gafodd ei ddarlledu ar 15fed Chwefror 2010, wedi dosbarthu holiadur i bobl ifanc 16 i 21 oed mewn 9 o ysgolion a phrifysgolion ar draws Gymru. Cafodd 517 holiadur ei llenwi.

O’r holiaduron yma dangoswyd fod 89% yn dweud eu bod yn defnyddio dulliau atal cenhedlu gyda’r mwyafrif yn dweud mai’r rheswm am hyn oedd atal beichiogrwydd, ond mae ffigyrau beichiogrwydd ymysg yr ifanc yng Nghymru yn parhau i fod yn uwch nag yn Lloegr.

Ymysg y rhai holwyd gan y rhaglen roedd rhai myfyrwyr coleg yn methu enwi rhai heintiau rhywiol nac yn gwybod beth oedd y symptomau.

O’r rhai atebodd yr holiadur dangoswyd fod 66% ddim yn gwybod lle oedd eu clinig iechyd rhywiol agosaf. A dywedai 54% nad oeddent yn teimlo fod addysg rywiol yn ddigonol.

Yn Lloegr mae Llywodraeth San Steffan wedi penderfynu fod plant mor ifanc â 5 oed i gael addysg rywiol yn yr ysgol gynradd, ond yng Nghymru nid yw hyn yn orfodol er eu bod yn annog i Ysgolion Cynradd wneud hyn.

Beth wyt ti'n feddwl am yr addysg rhyw yn dy ardal di?

Wyt ti'n meddwl y dylai addysg rhyw fod yn cychwyn yn yr ysgol gynradd?

Mae’r rhaglen Hacio ar gael ar y wefan am 35 diwrnod o’r dyddiad darlledu. Isdeitlau ar gael.

Mae gwybodaeth am Iechyd Rhywiol ar gael yma.

Delwedd: Paul Keller

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.