Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Dedfryd Amhenodol

Postiwyd gan ahotboy2k o Bro Morgannwg - Cyhoeddwyd ar 22/03/2011 am 14:31
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Addysg, Pobl, Gwaith a Hyfforddiant

  • carchar

English version

Helo, fy enw i yw Anthony a dwi yn un o fwy na 10,000 o bobl yn y DU gyda dedfryd Carchariad Er Diogelu’r Cyhoedd, neu’r IPP.

Pan roeddwn yn 18 oed, fe gefais fewn i drafferth ac es i’r carchar.

Tra yn y carchar, fe brofais gallai ymddiried ynof eto, ac fe gefais barôl a chael fy ngyrru yn ôl i’r gymuned.

Dwi’n 25 oed nawr, a dwi wedi bod allan o’r carchar am bron i ddwy flynedd, ond dwi’n ymdrechu i gael swydd oherwydd y ffaith fod gen i gollfarn anhreuliedig.

I’r rhai ohonoch sydd ddim yn gyfarwydd â charchar, unwaith ti wedi cael dy ryddhau ti’n cael trwydded, ac os wyt ti’n torri amodau’r drwydded byddet yn dychwelyd i’r carchar. Dwi wedi bod yn dda ac wedi gwneud popeth a ofynnir ohonof ond eto dwi ddim yn gallu gweld unrhyw obaith.

Gan fod gen i gollfarn anhreuliedig pan fyddaf yn ceisio am swydd dydy’r cwmnïau ddim eisiau gwybod. Mae’n ddigon anodd ceisio am swydd heb gollfarn anhreuliedig yn fwgan arnat.

I fod yn hollol glir. Mae’r gollfarn anhreuliedig yma gen i am oes byw. Felly pan fydd cwmni yn gwneud arolwg CRB arnaf, mae yna oleuadau coch enfawr yn fflachio arno yn dweud fod gen i gollfarn anhreuliedig.

Mae’r Ganolfan Gwaith wedi labelu fi fel ‘anghyflogadwy’. Mae gen i deulu bychan dwi’n anobeithiol yn ceisio cefnogi drwy wneud pethau cyfreithiol gan fy mod eisiau gadael fy ngorffennol tu ôl i mi, ond gyda hyn yn fwgan arnaf beth allaf i wneud?

Mae’r ffaith na allaf gael swydd yn McDonalds, na hyd yn oed swydd yn B&Q, mor llygredig fel fy mod wedi colli’r holl frwydr sydd ynof. Mae codi o’r gwely yn frwydr dwi’n cael pob dydd, gan fy mod yn gwybod na fyddaf yn cyflawni dim.

Dwi yn y coleg yn troi fy mywyd yn ôl er y gwell ond dwi’n parhau i wynebu’r un broblem bob dydd, ddim yn gallu gweithio. Ydw, dwi’n gwybod fy mod i wedi gwneud rhywbeth drwg i fynd i’r carchar yn y lle cyntaf, ond ydw i’n haeddu talu am hyn am weddill fy mywyd?

Dedfryd Amhenodol? Mwy fel uffern amhenodol. Dwi’n un o’r rhai lwcus sydd wedi llwyddo dod allan o’r carchar, ac mae fy nghalon yn gwaedu dros weddill fy nghyd garcharorion IPP, gan y bydda nhw yn mynd drwy’r pethau dwi wedi gorfod, gyda dim gobaith ac un drws yn cau ar ôl y llall.

Diolch am ddarllen hwn. Bydd unrhyw gymorth neu gefnogaeth yn cael ei werthfawrogi. Diolch yn fawr.

Tudalennau y Gyfraith a’ch Hawliau
Meic Cymru

DELWEDDAU: Still Burning & Bud Green

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.