Dewisais I Brifysgol
English version
Roedd dechrau yn y brifysgol i mi fel bod yn blentyn unwaith eto, efo cymaint o emosiynau.
Roeddwn i wedi cynhyrfu un munud ac yna yn ofnadwy o nerfus y munud nesaf.
Rhoddais fy mag amdanaf (nid oedd gen i lifft y diwrnod hwnnw) a mynd tuag at bentref y myfyrwyr lle byddwn yn treulio’r flwyddyn nesaf.
Roeddwn mewn pabell wen lle'r oedd rhaid arwyddo ffurflenni ac yna derbyn ein hallweddi. Pan gyrhaeddais fy nrws, cymerais anadl dwfn yn gwybod mai dyma oedd y foment.
Unwaith byddwn yn agor y drws hwn, roedd popeth yn wir. Roeddwn i ffwrdd oddi wrth fy rhieni ac yn rhydd i wneud beth bynnag.
Cychwynnais ddadbacio pan glywais rywun yn dod. Edrychais allan o’r drws a gweld mai fflat mêt newydd oedd yno.
Siaradom a gofyn pethau fel o ble oeddem ni a beth oedden ni’n astudio a.y.b.
Disgwyliais i un o fy ffrindiau i decsio fi i drefnu cyfarfod, gan ei fod o hefyd yn byw yn y pentref. Pan gyrhaeddodd, y peth cyntaf wnaethom ni oedd cael yn barod i fynd allan i glwb nos yr Undeb Myfyrwyr.
Cawsom noson wych gyda diodydd rhad, a chyrraedd adref i fy nghartref newydd tua hanner awr wedi tri. Parhaom i bartïo fel hyn am bythefnos arall, dal ddim efo gwaith, yn ymlacio ac yn cael hwyl. O fewn y pythefnos hwn roeddwn wedi cyfarfod nifer o fy ffrindiau a fyddai’n parhau i fod yn ffrindiau agos, fflat mêts y dyfodol ym mlwyddyn dau. Roedd hefyd darlithoedd a seminarau.
Ar ôl penwythnos y glas cychwynnom ar ein cwrs, yn cael gwybod beth a ddisgwylir gennym ni a.y.b. Yna o’r diwedd cychwynnodd y traethodau, profiad ofnus iawn ar y cychwyn, ond dewisais draethodau roeddwn yn meddwl y byddwn yn mwynhau darllen a siarad amdanynt.
Roedd y dull hwn yn llwyddiant. Roeddwn yn gallu ymdopi â’r llwyth gwaith, diolch byth, law yn llaw gyda nosweithiau allan a gweithgareddau cymdeithasol eraill roeddwn wedi dod ynghlwm â nhw yn y flwyddyn honno.
Mae’r Nadolig yn gwibio heibio, ac roedd yn brawf mynd yn ôl adref wedi bod mor annibynnol, ac yn dadlau am y ffordd ti’n gwneud pethau’n wahanol. Ar ôl gwyliau’r Nadolig, digwyddodd pethau ar gyflymdra unwaith eto gyda gwaith, ond roedd yna lwyth o gyfarfodydd cymdeithasol od a rhyfeddol gyda’r cymdeithasau rydw i’n rhan ohonynt.
Cymerais ran mewn nifer o bethau mawr y tymor hwn, yn cychwyn yn fis Mawrth gyda’r etholaeth sabothol lle roeddwn i’n cefnogi ffrind i ddod yn llywydd yr undeb myfyrwyr (wedi wythnos hir heb lawer o gwsg).
Yna daeth Varsity ychydig wedyn, lle daethom i adnabod ein gwrthwynebwyr ymhob chwaraeon, ond y gêm fawr oedd y gêm rygbi, ac am noson wych. Yn anffodus nid ni oedd yn fuddugol, ond roeddem yn dal yn hapus.
Cyrhaeddodd yr arholiadau terfynol ac, yn siomedig, roeddent drosodd mor sydyn a oedd y flwyddyn. Ond ni all gorffen y flwyddyn heb ychydig o gynnwrf, a digwyddodd hyn yn ein dawns haf lle cawsom ŵyl cerddoriaeth fach ar dir ein prifysgol, gyda nifer o fandiau enwog yn chwarae i ni a nifer o reidiau ffair am ddim i fynd arnynt.
Yn anffodus, roedd gwyliau’r haf wedi cyrraedd, a theimlaf nad yw Casnewydd yn gartref gwirioneddol i mi bellach. Fel ag o’r blaen, rydw i wedi’n hollti rhwng fanno a’r brifysgol.
Ond, ar y cyfan byddwn i byth wedi gwrthod y cyfle i fynd i’r brifysgol, ac er ei fod yn mynd heibio'n sydyn iawn, mae’r hwyl a’r ffrindiau ti’n ei wneud yn ei wneud y lle gorau i fod.
Byddwn i’n bendant yn awgrymu i’r rhai sydd yn meddwl am fynd i wneud hynny.
Cyfeiriadur Prifysgolion Prydain
Tudalennau Gwybodaeth Addysg Uwch.







