Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Diflastod Breaking Dawn

Postiwyd gan Toriabeth! o Rhondda Cynon Taf - Cyhoeddwyd ar 30/11/2011 am 14:18
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Ffilmiau

  • pig
  • dog
  • kermit

English version

Ar ôl gweld Twilight: Breaking Dawn – Part One, yr unig beth allwn i wneud oedd chwerthin, Ac nid oherwydd perfformiad gwael Kirsten Stuart, ond, rhaid cyfaddef, ei fod wedi cael rhan eithaf mawr i chwarae ynddo.

Er hynny, roedd yr effeithion arbennig yn ofnadwy, ac roedd y cast cyfan bron iawn, (heblaw am Ashley Greene sydd yn chwarae Alice ac oedd, ymhob tegwch, yn eithaf da) yn lletchwith ac yn bron, wel, yn hollol chwerthinllyd. Gyda llinellau cawslyd ac edrychiad golygus Robert Pattinson wedi cael ei stripio oddi wrtho ar gyfer y rhan 'eiconig' o Edward Cullen, mae'r cyfarwyddwyr a'r cynhyrchwyr wedi difethaf beth sydd yn stori eithaf da mewn gwirionedd.

Ond, dwi yn teimlo fel dylwn i wneud hwn yn ychydig yn fwy cytbwys ac ychwanegu fod, ar nodyn da, maent wedi ail-greu’r olygfa genedigaeth yn eithaf da, ac mae aelodau gwrywaidd y cast yn ffit iawn… os wyt ti'n anghofio'r perfformiad ar y cyfan. Hefyd, doeddwn i ddim yn teimlo fy mod wedi gwastraffu arian ar y tocynnau, cefais hwyl (yn y rhannau anghywir efallai, yn benodol y rhai mwyaf difrifol) ac roedd y pop corn yn flasus! Ond ni fyddaf yn cael y DVD; nid yw'n werth o.

Rho Harry Potter i mi unrhyw ddydd!

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50