Digartrefedd & Cerdd
Bydd y ‘Wrexham Foyer’ yn tynnu sylw pobl at ddigartrefedd trwy gerddoriaeth yn y misoedd nesaf wrth weithio ar brosiect gyda Cerdd Gymunedol Cymru (CGC).
Mae CGC wedi derbyn grant cymunedol gan Gyngor Celfyddydau Cymru i ddosbarthu dau brosiect yn ystod 2009 a 2010. Mae nhw wedi dewis gweithio gyda’r ‘Wrexham Foyer’ yn y Gogledd.
Hostel i bobl ifanc digartref ydy’r ‘Wrexham Foyer’ sydd hefyd gyda uned i famau sengl. Gall y bobl ifanc weithio tuag at ennill cymhwyster Rhwydwaith y Coleg Agored (OCN) trwy gymeryd rhan yn y gweithgareddau cerddorol a chelfyddydol. Mae’r gweithgareddau yn gobeithio codi ymwybyddiaeth o ddigartrefedd yn yr ardal.
Ar ddiwedd y prosiect byddent yn rhoi perfformiadau ac arddangosfa ymlaen yn eu cymuned.
DELWEDD: Cam







