Diwrnod Cyntaf Ysgol
English version
Dihunais yn y nos amryw waith.
Edrychais ar yr amser. Roedd hi’n 3:45yb.
Dim ond pum awr nes i mi fod yn yr ysgol.
Nid unrhyw ysgol, ond ysgol uwchradd. Disgynnais i gysgu, yn fodlon, gwen mawr ar fy wyneb.
Gweiddodd llais uchel, “amser codi.” Adnabuasai'r llais yn syth.
Fy mrawd 14 oed, Jafar, oedd yno. Fel arfer, cychwynnodd y dydd gyda ‘jôc’.
“Ha ha, ti’n mynd i fod yn socian o’r holl dyncio ti am gael gan flynyddoedd wyth a naw,” chwarddodd. Cnois fy ewinedd yn nerfus a chychwyn meddwl am beth oedd o’m mlaen. Anwybyddais fy mrawd a cherdded i’m wardrob.
Edrychais ar y wisg ysgol fyddwn i’n gwisgo am y pum mlynedd nesaf: crys glas, blaser du, trowsus a thei streipïog. ‘Ysgol Bassaleg’, meddyliais.
Wrth i mi gerdded i lawr y grisiau i’r cyntedd roedd sŵn clecian y camerâu yn rhoi dwrn i mi. Roedd mam a’m chwaer yn gwenu arnaf wrth iddynt dynnu lluniau ohonof yn fy ngwisg. Gwenais yn llon. “Ysgol uwchradd,” sibrydais i fi fy hun.
Wrth i mi gamu ar iard yr ysgol, roeddwn i wedi cael braw ar faint y plant ysgol eraill i gyd. Roedd myfyrwyr y chweched fel cawr o gymharu â fi. Ym mlwyddyn chwech roeddwn i wedi arfer bod yn un o’r rhai talaf. Yma, roeddwn i fel corrach o gymharu â phawb arall.
Y noson honno wrth i mi gysgu roeddwn i’n gwybod byddai popeth yn iawn. Roedd fy holl bryderon yn ymddangos wedi diflannu. Yn sydyn, gwyddom fod popeth am fod yn iawn.
Disgynnais i gysgu, yn fodlon, gwen mawr ar fy ngwyseb.







