Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Diwrnod Hanesyddol Hawliau

Postiwyd gan EmilySprout o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 18/03/2011 am 13:29
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Addysg, Materion Cyfoes

  • wal

English version

Ddoe roedd mwy o ddathlu na Dydd Sant Padrig yn unig. Roedd Mawrth 17 2011 yn ddiwrnod hanesyddol am hawliau plant a phobl ifanc dros Gymru.

Tra roeddech i gyd yn dawnsio fel leprechaun ac yn jigio Gwyddelig, roedd Cymru yn brysur yn dod yn wlad gyntaf ym Mhrydain i wneud y CCUHP (Confensiwn Y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn) yn rhan o’i ddeddfau.

Felly beth mae hyn yn ei olygu? Mae’r ddeddf, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel ‘Mesur’, yn cynnwys nifer o ddarpariaethau fydd yn cryfhau ac yn adeiladu ar yr hawliau presennol sydd wedi’u gosod gan Lywodraeth Cynulliad Cymru tuag at bolisi a safle cymdeithasol plant a phobl ifanc 0-25 oed.

Dywedodd Huw Lewis, Dirprwy Weinidog Plant: “Mae’r Mesur hwn yn torri tir newydd ac yn gosod Cymru o flaen Prydain yn gwneud y CCUHP yn rhan o’i ddeddf wladol. Mae hyn yn dangos unwaith eto ein hymrwymiad cyfredol i blant a phobl ifanc.

“Mae’r ddeddf hon yn torri ar draws pob adran polisi a drwy wneud hyn bydd yn gwneud newidiad cadarnhaol i’r ffordd mae holl gefnogaeth a gwasanaethau i blant a phobl ifanc yng Nghymru yn cael eu dylunio a’u dosbarthu yn y dyfodol.

“Drwy gael pwyllais mwy ar eu hawliau trwy ein polisïau a deddfwriaethau bydd plant a phobl ifanc mewn safle cryfach i gyflawni eu llawn botensial ac i gyfrannu i lwyddiant cymdeithasol ac economeg Cymru.”

Ychwanegodd Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru: “Mae hwn yn wir yn garreg milltir o ddeddfwriaeth, sydd efo chefnogaeth ar draws y pleidiau gwleidyddol ym Mae Caerdydd. Fe ddylem fod yn falch iawn fod Cymru a’i Lywodraeth yn arwain y ffordd unwaith eto wrth sicrhau lle cyfiawn bobl ifanc fel dinasyddion lawn o’n cenedl. Rhaid i ni nawr sicrhau fod y ddeddfwriaeth yma yn gwneud gwahaniaeth ymarferol a chadarnhaol i fywydau plant a phobl ifanc.”

Dywedodd Anita Tiessen, Dirprwy Cyfarwyddwr Gweithredol, UNICEF UK: “Mae heddiw yn ddiwrnod o falchder i Gymru. Mae UNICEF UK yn hapus iawn fod y Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) wedi cael Cymeradwyaeth Frenhinol. Mae’r ddeddf newydd yma sydd yn rhoi hawliau plant yng nghalon pob polisi ac ymarferiad Cymraeg yn gosod bar uchel i weddill Prydain.

“Er bod yna ddal gwaith i’w wneud i sicrhau fod hawliau plant yn realiti i bob plentyn, mae hyn yn gam arwyddocaol. Rydym yn edrych ymlaen at gefnogi Llywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau fod y Mesur yn cyflawni gwir newid i blant a phobl ifanc yng Nghymru.”

Dywedodd Andrew Chalinder, pennaeth Achub Y Plant yng Nghymru a Chadeirydd o’r Grŵp Monitro CCUHP Cymru: “Mae Achub Y Plant a’r Grŵp Monitro CCUHP Cymru yn croesawu’r ddeddfwriaeth gofiadwy yma fel cyfnod hanesyddol i blant a phobl ifanc Cymru.

“Mae’r ddeddfwriaeth yma yn unigryw o fewn y DU a hoffwn longyfarch Cynulliad Cymru am ymgorffori’r CCUHP i mewn i ddeddfau Cymraeg a darparu fframwaith clir o atebolrwydd i sylweddoli hawliau dynol plant.”

Am wybodaeth bellach edrycha ar wefan Achub Y Plant:
www.childrensrightswales.org.uk

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.