Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Dweud Dy Ddweud yn Sir Ddinbych

Postiwyd gan CLICtania o Cenedlaethol - Cyhoeddwyd ar 30/01/2010 am 15:03
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Pobl, Materion Cyfoes

  • Photo 1

English Version

Wyt ti yn berson ifanc yn Sir Ddinbych sydd eisiau cael dy glywed?

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych, mewn partneriaeth gyda’r Comisiynydd Plant Cymru a’r Ddraig Ffynci, yn cynnal Diwrnod Etholiad Ieuenctid ar 15 Chwefror.

Os wyt ti rhwng 11 a 25 oed ac yn byw yn Sir Ddinbych yna mi fedri ti ymuno yn y gweithdai sydd yn ceisio rhoi profiad i chi sut beth ydy gwneud penderfyniadau o fewn y gwasanaeth ieuenctid a materion lleol.

Bydd rhai ohonoch yn cael eich ethol, wrth i chi bleidleisio am eich gilydd, i ffurfio grwp sydd â llais pan fydd penderfyniadau yn cael ei wneud ar faterion sy’n effeithio pobl ifanc yn Sir Ddinbych.

Bydd y diwrnod yn cael ei gynnal yn Neuadd y Sir, Ruthun rhwng 9.30am a 4.30pm. Bydd cludiant a bwyd yn cael ei ddarparu.

Am wybodaeth neu os hoffet fynychu cysyllta â Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych ar 01824 712713 neu e-bostia: youth.service@denbighshire.gov.uk

DELWEDD:  AlishaV

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.