Dwi Ddim Eisiau Cael Fy Niffinio Fel Y Boi Hoyw
“Roeddwn i’n byw yn Oslo pan ddois allan o’r glosed enwog,” meddai Terje, myfyriwr 25 oed o Norwy sydd yn astudio newyddiaduraeth. Sylweddolodd Terje ei fod yn hoyw yn ei arddegau a threuliodd nifer o flynyddoedd yn cuddio ei rywioldeb oddi wrth ffrindiau a theulu. Roedd yn broses hir dod i dermau gyda’i rywioldeb.
“Ar adegau roeddwn yn meddwl, ‘Pam fod rhaid i hyn ddigwydd i mi? Pam fedrai ddim bod yn normal?’ Roeddwn yn meddwl am y peth ac yn meddwl na, ac yna ella ia. Roedd o’n anodd i mi. Mae gen ti’r stereoteip yma yn dy ben a ti’n meddwl, ‘Oes rhaid i mi fihafio mewn ffordd benodol? Sut ydw i’n dweud wrth fy ffrindiau a theulu?’ Roedd o’n llafurus weithiau ond ti’n dod drosto ac yn dysgu delio gydag ef.”
-Yn y diwedd dywedodd wrth ei chwaer, oedd wedi tybio ei fod yn hoyw yn barod. Ei fam oedd yn ei chael yn anodd derbyn y newyddion.
“Dwi’n meddwl ei bod hi’n poeni na fyddwn i’n cael bywyd hapus, y byddwn yn wynebu problemau mawr gyda phobl.”
Cysurodd Terje hi ac anogodd ei deulu i ofyn cwestiynau, wrth ddweud : “Dwi dal yr un person ag yr oeddwn i ddoe.”
Fodd bynnag, mae bod yn hoyw yn golygu fod Terje yn gorfod ail-wneud y broses o ddod allan bob tro mae’n cychwyn swydd newydd, dosbarth newydd neu’n symud, ac mae’r pryder o bryd i ddweud wrth bobl yr un peth bob tro. Mae’n credu mai’r amser cywir ydy pam mae’n naturiol, pan mae pobl yn siarad am ryw neu yn gofyn a yw’n canlyn – dyna yw’r amser da i esbonio’i rhywioldeb.
Dydy Terje ddim am gael ei ddiffinio fel ‘y boi hoyw’: “Byddai’n well gen i fod y boi o Norwy na’r boi hoyw.”
Mae Terje fel arfer yn disgwyl cyn dweud wrth bobl ei fod yn hoyw: “Dydy fy ffrind ddim yn cyflwyno ei hun drwy ddweud ‘helo, dwi’n Gristion a dwi’n heterorywiol’.”
Esboniodd Terje nad yw â chywilydd o fod yn hoyw, ond mae wedi darganfod fod pobl efo disgwyliadau penodol ohonot pam wyt ti’n hoyw ac mae’n credu fod mwy iddo na’i rywioldeb.
Gwrthodai Terje y delweddau stereoteip nodweddiadol o ddynion hoyw.
“Yn gyffredinol mae dynion heterorywiol yn meddwl fod dynion hoyw wrth eu boddau â YMCA, yn cymryd rhan yn y parêd balchder (pride parade) drwy’r adeg, yn byw bywyd gwyllt iawn ac yn ferchetaidd. Dwi’n wahanol i hyn ac yn anaml yn dawnsio i YMCA. Dwi ddim yn foi hoyw merchetaidd.”
Er mae Terje yn cyfaddef efallai ei fod yn fwy merchetaidd flynyddoedd yn ôl wrth edrych yn ôl ar luniau a fideos ohono’i hun.
“Dwi’n meddwl fod hyn oherwydd dy fod yn ymddwyn yn wahanol mewn gwahanol rannau o dy fywyd.”
Mae Terje yn teimlo nad yw’n perthyn i’r grŵp stereoteip yma o ddynion hoyw.
“Dwi’n teimlo yn fwy annibynnol, yn teimlo fel fi fy hun. Nid fod gen i deimladau drwg tuag at ddynion hoyw eraill. Dwi ddim eisiau cael fy ngweld fel rhywun sydd yn hoffi mynd i bartïon yn unig.”
Mae Terje yn cyfaddef ei fod yn gymdeithasol ac yn mwynhau mynd i bartïon ond dyna mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei wneud pan maen nhw yn 25 oed ac yn sengl.
Teimlai nad oes sialensiau yn ei wynebu ar y funud pan ddaw i’w rywioldeb.
“Ar y funud mae pethau wedi newid yn Norwy. Mae cwpl hoyw yn gallu priodi, ddim mewn eglwys ond efallai bydd yn bosib yn y dyfodol. Rwyt ti’n cael mabwysiadu ond dwi ddim yn meddwl am bethau fel yna ar y funud, efallai mewn tua deg mlynedd.”
Teimlai nad yw’n wynebu unrhyw ragfarn neu feirniadaeth yn Oslo y gall fod wedi digwydd cenhedloedd cynt. Dim ond un gwrthdrawiad sydd wedi digwydd ers iddo ddod allan.
“Roeddwn yn cerdded adra o barti ar draws sgwâr tua 3 y nos ac roedd yna foi yn gweiddi arna i, ‘wyt ti’n hoyw ta be?’. Pan drois rownd a dweud, ‘ydw, ydy huna’n broblem?’ dywedodd ‘yndi dwi’n meddwl bod o’n anweddus’.”
Mae Terje yn meddwl ei fod yn llawer mwy derbyniol fod yn hoyw nawr, yn enwedig yn y Gorllewin.
“Os oes gen ti broblem efo dynion hoyw yna ti ydy’r un efo’r broblem nid y dynion hoyw.”
Am wybodaeth bellach am berthnasoedd un rhyw clicia yma
Os hoffet siarad gyda rhywun mewn cyfrinachedd am dy rywioldeb yna cysyllta â meic







