Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Dwi Ddim Yn Deall…

Postiwyd gan eddie secretary o Torfaen - Cyhoeddwyd ar 15/01/2012 am 17:10
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Pobl, Chwaraeon a Hamdden, Materion Cyfoes, Cyffuriau, Gyffuriau

  • drink

English version

Iawn, felly dyma rant fach am ymddygiad pobl sydd wedi cael un diod yn ormod.

Roeddwn yn gadael tŷ bwyta heno ac wrth i mi adael sylwais ar daflen.

Pigais ef i fyny i'w ddarllen a dyma'r dyn yma yn dweud wrthyf, "Meddwl bod ti'n cael hwyl wyt ti?" a dwi fel "Na, ddim rili, dim ond yn cael golwg mêt."

Yna dywedodd, "Dwi'n meddwl bydda'n well i ti adael mêt."

Gan fy mod i'n gadael beth bynnag cychwynnais gerdded i ffwrdd, yna dywedodd rhywbeth nad oeddwn yn ei glywed yn iawn felly trois i'w wynebu gan obeithio byddai'n ei ddweud eto.

Yna dywedodd, "Wyt ti eisiau mynd a hyn tu allan?" a dwi fel, "Na mêt, dwi'n mynd i fod y dyn gwell a cherdded i ffwrdd."

Felly fe wnes, gyda fy chwaer, fy nhad a chymydog. Wrth i mi gyrraedd hanner ffordd ar draws y maes parcio at y car gwelais y dyn yma yn negesau o'r tu ôl. Trois o gwmpas a dywedais, "Os wyt ti'n cyffwrdd un blewyn ynof i byddaf yn galw'r heddlu."

Yna cychwynnodd gyhuddo fi o fwlio fy chwaer. Bydd unrhyw un ohonoch sydd yn adnabod fi yn gwybod mai fi ydy'r bachgen sydd yn casáu bwlïod a byddwn i byth yn bwlio neb, nac yn cwffio ychwaith.

Roedd y dyn yma yn mor powld, gydag ymddygiad bygythiol, nes dywedodd dad, "Gwranda, bydda'n well i ti gael dy ffeithiau i gyd yn iawn gyntaf, neu cer yn ôl i mewn a gadael lonydd i ni." Wel, ni aeth y dyn, felly yn bod y dyn gwell eto a ddim eisiau achosi ffwdan na rhywbeth yn digwydd, penderfynais gerdded yn ôl at y car ac anelu am gartref.

Y peth dwi ddim yn ddeall ydy, pam, pam fyddi di'n dweud wrth rywun, "gwrando, dwi ddim eisiau trafferth, dim ond eisiau mynd adref ydw i," maen nhw'n wastad eisiau cychwyn trafferth.

Dwi ddim yn deall y peth, wyt ti?

OS wyt ti wedi cael profiad o ddigwyddiad fel yr un yma, yna gad i dy orsaf heddlu lleol wybod gyda disgrifiad o'r person oedd yn achosi trafferthion i ti, a chofia, dwylo agored gan fod hyn yn dangos:

  • Does gen ti ddim arf ac nid wyt ti eisiau trafferth
  • Ti ddim yn ymosodol
  • Os wyt ti angen amddiffyn dy hun gallet wthio i ffwrdd gyda dy ddwylo a pheidio brifo, neu os wyt ti'n gwthio tuag at y frest a bydd hyn yn rhoi eiliadau gwerthfawr i ti i ddianc,

Dwi'n gobeithio nad fydd rhywbeth fel hyn yn digwydd i ti, ond mae'n dda gwybod beth i wneud os yw'n digwydd.

Tudalen Diogelwch Personol CLIC
Tudalen Diogelwch Personol Crimestoppers

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.