Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Dyddiadur Merch Gymysglyd: Penderfyniadau

Postiwyd gan Miss_Survivoroxoxo o Sir Fynwy - Cyhoeddwyd ar 13/01/2012 am 15:27
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Iechyd

  • embryo 6-7 weeks

English version

Nodyn: Cyn i mi barhau gyda'r erthygl hon, dwi eisiau dweud fy mod i'n cysidro hwn i fod yn rhyw fath o stori ond dwi ddim yn sicr os gallaf i gwblhau'r cwbl yn syth. Hoffwn ei orffen ond oherwydd fy astudiaethau ac ymrwymiadau eraill, ni allaf sicrhau bydd popeth yn cael ei bostio i fyny un ar ôl y llall yn syth. Dwi ddim hyd yn oed yn gwybod ble dwi eisiau mynd efo'r stori yma ychwaith. Dyw hyn ddim o bwys beth bynnag, gan nad wyf yn meddwl bydd llawer o bobl efo diddordeb, he he. Os oes gen ti unrhyw syniadau i mi, fel sefyllfaoedd go iawn neu rywbeth, yna gad sylwad isod. Dwi'n awyddus cael cyngor a syniadau

Darllena rhan 1 Dyddiadur Merch Gymysglyd yma.

BÎP BÎP! BÎP BÎP! BÎP BÎP! Mae'r cloc larwm yn swnian arnaf i godi. Mae'n 8yb. Dwi ddim am fynd i'r ysgol heddiw. Mae gen i ormod o benderfyniadau. Fel arfer byddwn yn mynd at mam efo pethau fel hyn… ond dyw mam ddim o gwmpas ddim mwy. Bu farw dwy flynedd yn ôl.

Dwi ddim efo dad chwaith. Wel, na, mae hynna'n gelwydd. Mae gen i dad, ond dwi wedi gwadu ef. Roedd yn anffyddlon i mam a hithau ddim yn gwybod. Mae hefyd yn alcoholig. Dywedais wrtho wyneb yn wyneb nad oeddwn eisiau ei weld eto. A dwi dal yn cadw at hynny.

Felly ble ydw i'n byw? Gyda fy mamfaeth, Adele. Fedra i ddim disgwyl nes byddaf yn 18. Rhyddid o'r diwedd. Dydy Adele ddim mor ddrwg â hynny maen siŵr. Mae hi efo mwy o ddiddordeb yn ei phlant ei hun a pan fydd hi ddim yn gwneud ffwdan ohonynt, mae hi'n gweithio oriau ychwanegol er mwyn gallu fforddio mynd a nhw i lefydd. Yn amlwg, dwi yn cael gwahoddiad, ond nid yw'n peth fi. Dwi ddim i mewn i bethau babi.

Ych. Babi. Mae gen i un yn tyfu yn fy mol. Grêt. Os bydda Adele yn darganfod hyn – na, os bydda fy ngweithiwr cymdeithasol yn darganfod hyn – byddwn i mewn trafferth fawr. Ond mae mam a fi wedi bod yn erbyn erthyliad erioed. Dwi ddim eisiau rhoi'r plentyn yma i rywun arall. Dwi'n gwybod na fyddaf y fam gorau yn y byd, ond dwi'n meddwl ei fod yn annheg i beidio rhoi cyfle i'r plentyn yma.

Yna, os dwi yn ei gadw, gallaf gusanu hwyl fawr i'm haddysg. Dwi eisiau bod yn athrawes ysgol gynradd ond efo plentyn fy hun ni fyddai pethau yn mynd i gynllun o gwbl, bydda ef? Bydd rhaid i mi gael amser i ffwrdd o'r ysgol.

Mae ysgol fi'n lle garw. Byddwn i ddim yn gallu bodoli yna, heb sôn am y babi. Mae blwyddyn 11 yn flwyddyn bwysig. Dwi am fethu fy arholiadau. Ddim yn ddelfrydol. Does gen i ddim clem beth i wneud. Ydw i'n cadw ef fel yr wyf eisiau a pheryglu fy addysg oherwydd fy nghamgymeriad? Neu'n erthylu ef a smalio nad oes dim wedi digwydd? Dwi ddim yn gwybod.

Nodyn: Iawn, dyma le hoffwn dy gymorth. Ddylai hi gadw'r babi neu erthylu? Beth wyt ti'n feddwl? Dwi angen syniadau gan fod gen i ddwy ffordd i arwain y stori, ond dwi ddim yn siŵr pa ffordd i fynd.

Tudalen beichiogrwydd

Siarad gyda Meic

DELWEDD: lunar caustic

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.