EisteddFlog: Dydd 2 Blog 2
English version
Yr wythnos hon, mae CLIC yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Abertawe. Bob dydd, bydd un o'n hysgrifenwyr yn rhannu ei brofiad o'r ?yl. Dyma Eisteddflogiau'r Urdd a dyma jeopreddy yn blogio ar ddiwrnod dau...
Deffrais yn fuan am hanner awr wedi chwech fel fy mod yn gallu cael yn barod i ddal y bws ugain munud i wyth (dylyfu gên!)
Edrychais allan o ffenestr y llofft: awyr las clir a'r haul allan.
Penderfynais wisgo dop fest a sbectol haul, penderfyniad da nes i mi gyrraedd Abertawe lle'r oedd hi'n rhewi ac roedd yr awyr yn llwyd ac yn barod i ffrwydro a llifo'r glaw.
Sylweddolais yn sydyn ein bod yn y digwyddiad mwyaf diwylliannol yng Nghymru, Eisteddfod yr Urdd, pan agorodd tîm CLIC y map ac roedd pawb yn syllu ar ei gilydd yn meddwl 'ble mae'r Saesneg?'
Trowyd y map drosodd, dim Saesneg. Gyda dealltwriaeth ysgafn o'r iaith Gymraeg fe drechom y rhwystr yma a symud tuag at babell Y Wasg.
Llenwom ein pocedi gyda nwyddau CLIC fel bathodynnau, beiros, bandiau arddwrn, unrhyw beth gall ffitio! A ffwrdd a ni i chwilio am bobl ifanc 11 i 25 oed. Ond nid oeddem yn ymwybodol fod Dydd Mawrth yn ddiwrnod ar gyfer rhai o dan 11 oed. Chwiliom am gymaint o bobl ifanc posib a dweud wrthynt am CLICarlein.
Roedd llawer yn digwydd heddiw, o brotestio i brofion anadl, o fandiau i gorau, o ddawnsio i gynnyrch lleol a chynnyrch yn cael ei werthu. Mae'r Urdd efo llawer i gynnig siaradwyr rhugl Cymraeg a dysgwyr.
Eisteddflogiau'r Urdd
Dydd 1 Blog 1
I weld mwy o luniau o'r Eisteddfod edrycha ar ein halbwm Flickr ar ddiwedd pob dydd.
DELWEDD: blogdroed








