Eisteddfod Genedlaethol 2011
English version
Dydd Sadwrn diwethaf es i Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a chael diwrnod gwych er ychydig o broblemau gyda'r rheilffordd.
Roedd hi'n hwyl ymweld â'r nifer o stondinau a gweld ffrind oedd yn gweithio ar stondin y RSPB. Ar un stondin gwnes gyflenwydd bwyd adar sydd bellach yn llawn hadau gartref. Ymwelais â stondin Opera Genedlaethol Cymru a gweld gwisg oedd wedi'i wisgo gan Bryn Terfel. Dywedodd un o'r staff i mi godi hem y wisg – fe wnes ac roedd yn anhygoel pa mor drwm yr oedd! Mae'n rhaid bod Bryn yn gryf iawn i wisgo rhywbeth mor drwm.
Clywais gorau hyfryd yn y pafiliwn a gwylio band pres gwych yn chwarae tu allan. Roedd yn ddiwrnod blinedig ond roeddwn wrth fy modd a methu disgwyl nes Eisteddfod flwyddyn nesaf ym Mro Morgannwg! Dwi'n gobeithio helpu ar stondin y RSPB.
Delwedd: EBC-PCW







