Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Elusen Yn Cychwyn Gartref

Postiwyd gan jeopreddy o Castell-Nedd Port Talbot - Cyhoeddwyd ar 25/10/2010 am 12:10
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Pobl, Materion Cyfoes

  • Ceiniog

English version

Fel rwyt ti’n gwybod efallai, mae yna doriadau enfawr wedi bod mewn gwariant Prydain.

Mae hyn wedi dod gan fod y wlad mewn dyled ddwys.

Ar ddiwedd Awst roedd dyled Prydain yn £1457 biliwn

Fyddai ddim yn gwneud synnwyr i ni ffocysu ar wlad ni’n hunain a chael allan o’r llanastr hwn cyn helpu eraill? Wrth gwrs byddai.

Mae cymorth tramor yn swm o arian sydd yn cael ei roi i wledydd datblygu. Mae’n cael ei ddefnyddio i helpu gwledydd pam maent yn cael eu taro gan drychineb naturiol neu dlodi llym.

Mae gwledydd tu allan i Brydain wedi elwa o’r adolygiad gwariant. Gall ddadlau eu bod wedi elwa mwy na Phrydain, a dwi’n meddwl eu bod nhw.

Mae pobl yn protestio nad yw’n arian yn cyrraedd y rhai sydd angen, ac mai’r unig bobl sydd yn elwa o’r cymorth hwn ydy’r llywodraeth ac maen nhw’n dod yn fwy cyfoethog tra mae’r pentrefi sydd yn dioddef yn cael dim.

Mae cymorth tramor wedi cynyddu 37% yn mynd o £6.3biliwn i £9.4 biliwn. Gall y £3.1 biliwn ychwanegol sydd wedi’i glustnodi i wledydd eraill wedi gallu cael ei ddefnyddio mewn mannau eraill o wasanaethau cyhoeddus Prydain.

Gall y biliynau o bunnoedd ychwanegol hyn wedi cael ei ddefnyddio mewn adrannau eraill o wario fel sonnir uchod. Mae pam na all y £3.1 biliwn gael ei rannu dros y gwasanaethau cyhoeddus yn hytrach nag mynd i wledydd eraill yn fy nrysu i. I mi, mae elusen yn cychwyn gartref.

Bydd Cymru yn colli allan ar £187m yn y flwyddyn nesaf wrth i’r Llywodraeth Cynulliad ddioddef toriad o 1.2% yn y gyllideb o £15.7bn. Bydd hyn yn effeithio’r ffordd rydym yn byw, gweithio a defnyddio gwasanaethau cyhoeddus yn y flwyddyn nesaf.

Mae ofn bydd miliynau o swyddi yn cael eu colli; cafodd y farn hon ei mynegi yn fuan yn fis Hydref pan aeth 3,000 o bobl i San Steffan a phrotesti yn erbyn yr adolygiad gwariant.

Ebychodd David Cameron, “Os wyt ti’n gallu gweithio, ac yn gwrthod gweithio, ni fyddem yn gadael i chi fyw oddi ar waith caled eraill.”

Mae beth ddywedodd yn grêt a dwi ddim yn meddwl byddai neb yn mynd yn erbyn hyn, ond mae o’n awgrymu ei fod yn gwneud i’r rhai sydd yn swil o weithio mynd yn ôl i weithio.

Mae George Osborne wedi gwneud hyn yn anodd gan fod ofn drwy wneud y toriadau hyn mewn gwasanaethau cyhoeddus bydd miloedd o swyddi yn cael eu colli. Mae hyn yn gwrth-ddweud beth mae Cameron yn ei ddweud.

Mae beirniad yn dweud ei fod yn anghywir gall pobl dlawd ym Mhrydain ddioddef er mwyn helpu gwledydd sydd yn dod yn fwyfwy cyfoethog oherwydd y cymorth mae Prydain yn ei roi.

Ond cyhoeddodd George Osborne: “Gall Prydeinwyr ddal eu pennau yn uchel a dweud hyd yn oed yn yr amser caled hwn, byddwn yn parchu’r addewidion wedi’i gwneud i rai o’r bobl dlotaf ar ein planed.”

Ychydig iawn o farn gafodd Prydain yn yr ‘amseroedd anodd hyn’ a dwi’n siŵr fod y mwyafrif o drigolion ein gwlad yn cytuno fod angen y £3.1 biliwn o bunnoedd yna i drefnu problemau ein hunain gyntaf.

Oes, efallai bod rhai pobl mewn sefyllfa waeth na ni, ond ar y funud mae tlodi yn bodoli yn wlad ni’n hunain dylai’r llywodraeth ddelio gyda hyn gyntaf.

Wy ti yn erbyn y cynnydd £37% mewn cymorth tramor?

Tudalen Gwybodaeth Hawliau Dynol CLIC

Tudalennau Gwybodaeth Arian CLIC

DELWEDDAU: Edgley Cesar / Leo Reynolds

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.