Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Enillwch Ddraig-Laddwr!

Postiwyd gan CLICryan o Cenedlaethol - Cyhoeddwyd ar 25/06/2010 am 13:53
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Ffilmiau

English version

Rydym i gyd wedi bod yno: dyw bwli’r ysgol ddim yn eich gadael yn llonydd ac mae eich rhieni sydd wedi gwahanu yn dadlau’n ddi-baid am bwy sy’n mynd i gael cystodaeth drosoch chi.

Ond yn, yn sydyn, daw ellyll hud i’ch cynorthwyo ac mae’n datgelu’r ffaith mai chi sydd â’r gyfrinach i orchfygu draig ddrwg.

Dyna’r llwybr a ddewiswyd ar gyfer Arthur, sy’n 12 oed, sydd hefyd â mwy o broblemau i ymdrin â nhw gan gynnwys ymuno gydag athro chwaraeon golygus ond sydd wedi mynd i oed, ac is-brifathro drwg sy’n bygwth gwareiddiad cyfan.

Ydych chi’n dweud nad ydy hyn wedi digwydd i chi? Felly awgrymwn eich bod yn rhoi cynnig ar ein cystadleuaeth i ennill copi o Adventures Of A Teenage Dragonslayer a darganfod sut i ymdrin â sefyllfa o’r fath pe bai’n codi.

Mae’r llyfr i fod i gael ei ryddhau ddydd Llun, 9 Awst, ac mae gennym dri chopi i’w rhoi i dri enillydd lwcus. Atebwch y cwestiynau canlynol yn gywir ac efallai y gallech ennill un. Fe roddwn hefyd rai bathodynnau CLIC, beiro, sticeri ac ychydig o fanion eraill.

C: Beth oedd enw’r ddraig lwc gyfeillgar a oedd yn cael ei reidio gan yr arwr ifanc Bastian yn y ffilm ffantasi o 1984, The Neverending Story?

Ebostiwch eich atebion at: ryan@cliconline.co.uk. Y dyddiad cau yw dydd Gwener 6 Gorffennaf. Pob lwc!

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.