Ennill Tocynnau CBeebies Live!
English version
Bydd ffans CBeebies ddim eisiau colli allan ar hyn!
Mae gennym un tocyn teulu (pedwar o bobl, o leiaf un oedolyn) i weld sioe arena ragorol newydd sbon gan CBeebies Live!, Reach To The Stars, yn Arena Motorpoint, Caerdydd ar ddydd Llun 9 Ebrill am 2pm.
Mae llwyth o sêr mwyaf y sianel boblogaidd plant CBeebies yn dod allan i chwarae yn y daith arena newydd yma. Mae Robbie Rotten yn mynnu dangos mai ef ydy'r seren fwyaf ar CBeebies.
Mae ei gynllun drwg yn cynnwys cipio rhai o gymeriadau CBeebies a swydd y gynulleidfa, PC Plum a gweddill sêr CBeebies ydy darganfod beth sydd wedi digwydd a sut i ryddhau nhw.
Bydd Justin Fletcher MBE, Mister Maker, Postman Pat a Jess y gath a'r ZingZillas yn cael eu hymuno gan gyflwynwyr CBeebies Andy Day, Katy Ashworth a Andrew Agnew yn y sioe llawn antur hwn fydd yn mynd ar daith i naw dinas dros Brydain ym Mhasg 2012.
Wrth gyfuno darnau ffilm ar y sgrin fawr a pherfformiadau byw, bydd llu o ffefrynnau CBeebies gan gynnwys Squiglet a sêr Lazy Town yn ymuno yn yr hwyl, yn rhyngweithio gyda'r gynulleidfa am brofiad byw anhygoel.
Mae CBeebies Live! yn Arena Motorpoint, Caerdydd ar ddydd Mawrth, 10 Ebrill am 2pm a 5pm a dydd Mercher 11 Ebrill am 11am a 2pm. Am wybodaeth bellach ymwela â www.cbeebieslive.com.
Am gyfle i ennill y tocyn teulu, dyweda wrthym:
C: Pwy sydd eisiau cipio cymeriadau CBeebies Live!?
E-bostia'r ateb i ryan@cliconline.co.uk erbyn 5pm ar ddydd Gwener 30 Mawrth 2012.
Nid oes dewis o arian parod yn lle gwobr. Ni thelir costau teithio nac llety. Ni ellir cyfnewid y wobr. Mae'r gystadleuaeth hon yn agored i bobl ifanc 11-25 oed sydd yn byw yng Nghymru yn unig.







