Eric Unseen: BYB McFly
English version
Mae'n debyg dy fod di'n gyfarwydd â ennillwyrr Brwydr y Bandiau CLIC, Eric Unseen. Maent hefyd yn chwarae yng Ngwobrau CLIC gyda llaw, os wyt ti eisiau gweld nhw.
Ers BYB, dwi wedi bod i dipyn o'u gigs ac yn dod ymlaen yn eithaf da gyda nhw a'u rheolwr nhw, Anthony Bunko. Maent hyd yn oed wedi gofyn i mi reoli eu tîm stryd (sydd fel sylfaen ffans a pheth hyrwyddo sydd gan fandiau/cantorion… Dwi hefyd wedi cael rhai o'r criw Wicid yn rhan ohono gan na fedraf ei wneud ar ben fy hun) ac un o'r pethau maent wedi gofyn i'r tîm wneud ydy helpu nhw i ledaenu'r neges am rywbeth.
Beth ydy hyn? Wel, ti'n gwybod McFly? Maen nhw'n cynnal Brwydr y Bandiau lle gall bandiau arwyddo i fyny, postio darn amdanyn nhw ei hunain gyda fideo YouTube a chael pobl i bleidleisio amdanynt. Bydd y 50 uchaf wedyn yn cael eu troi i mewn i'r 26 uchaf wrth i McFly ddewis pob band i gefnogi nhw ar bob noson eu taith cyngherddau. Mae Eric Unseen wir eisiau gwneud hyn ac eisiau dy help di i gael cyfle go dda. Dychmygu nhw'n ennill lle ar y daith gyda McFly? Byddent yn dod yn fwy poblogaidd a gallet ti eistedd yn ôl a meddwl "Ia, dwi wedi helpu nhw i gael ble maent heddiw."
Sut wyt ti'n pleidleisio? Hawdd. Cer i'r ddolen hon ac yna clicia ar y 'Like' Facebook (sicrha dy fod di wedi logio i mewn cyntaf) a dyna ni. Ia, dyna'r cwbl sydd yn rhaid gwneud. Hawdd. Ac ni fydd yn cymryd gormod o dy amser chwaith.
Felly tyrd, bydda'n seren a phleidleisia.
Dolennau
Facebook Eric Unseen
Twitter Eric Unseen
Facebook y Tîm Stryd
Twitter y Tîm Stryd
Cadwa olwg allan am fwy gan Eric Unseen a'r Tîm Stryd! Byddet yn cael llwyth o ddiweddariadau o'r dolenni uchod.







