Ewch Ar Fwrdd Y V-POD Y Pasg Hwn
Mae hwn yn amser cyffrous i bobl ifanc ym Mro Morgannwg. Y gwyliau Pasg hyn rydym yn mynd o gwmpas yn y ddarpariaeth ieuenctid symudol NEWYDD o’r enw’r V-Pod! Bydd y V-Pod a Thîm Stryd Ieuenctid y Fro, yn mynd i bedwar lleoliad gwahanol ar draws y Fro, gan ddod â sioe amlgyfrwng liwgar i chi sy’n cyfuno hwyl / chwarae / addysg / gwybodaeth a chyngor gan dîm cyfeillgar o weithwyr ieuenctid a chymunedol.
Dyma eich cyfle chi i ymuno gyda ni a mwynhau eich lle eich hun o fewn eich cymuned. Gadewch i’ch dychymyg a’ch creadigedd fynd yn wyllt! Gallwch ddefnyddio ystod eang o offer ar y V-Pod, fel cyfrifiaduron iMac, y Rhyngrwyd, Xbox, PS3s, Wii, deciau cymysgu DJ, sain amgylchynol Bose, sgriniau plasma, chwaraewr DVD, goleuadau disgo, ardal ymlacio a llawer mwy! Gall y V-Pod barcio mewn llawer o wahanol lefydd, yn arbennig mewn ardaloedd lle nad oes unrhyw ddarpariaeth neu weithgareddau eraill i ieuenctid.
Byddwn yn dod â thiwtoriaid proffesiynol i chi a fydd yn cynnal gweithdai creadigol, amlgyfrwng a cherddoriaeth, yn ogystal â gweithwyr ieuenctid cymwysedig i roi gwybodaeth a gweithgareddau am faterion ieuenctid fel dinasyddiaeth dda, parch cymunedol a ffyrdd o fyw iach.
Byddwn yn rhoi’r sgiliau i chi i’ch rhoi ar ben y ffordd, byddwn yn darparu’r offer, y cyfan y bydd angen i chi ei wneud yw troi i fyny. Fe’ch gwelwn chi yno.
Bydd y V-Pod yn aros yn:
Dydd Llun 29 Mawrth 2.00-5.00pm ar Grîn y Pentref Wick, Church Road, Wick
Dydd Mercher 31 Mawrth 2.00 - 5.00pm yn Ystafell 102, Stuart Road, Rhŵs
Dydd Mercher, 7 Ebrill 2.00 - 5.00pm yng Nghanolfan Gymunedol Celtic Way, Celtic Way, Rhŵs
Dydd Gwener, 9 Ebrill 2.00 - 5.00pm yn Victoria Park, Victoria Park Road, Cadoxton, Y Barri
I ddarganfod mwy am y V-Pod a’i weithgareddau CLICIWCH YMA
Neu gallwch gysylltu â’r Cydgysylltydd Darpariaeth Symudol: Bazz@vibeexperience.com







