Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Facebook: Peryglus?

Postiwyd gan jeopreddy o Castell-Nedd Port Talbot - Cyhoeddwyd ar 29/03/2010 am 11:20
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Diwylliant, Addysg, Pobl, Technoleg

  • facebook

English version

Yn ddiweddar, cafwyd pryderon fod Facebook yn ganolbwynt i droseddwyr rhyw.

Cyhuddwyd y wefan rhwydweithio cymdeithasol o fethu â gwarchod pobl ifanc Prydain ar ôl i ferch 17 oed gael ei denu i ddwylo troseddwr rhyw blaenorol, Peter Chapman.

Cafodd ei grŵmio, ei herwgipio, ei threisio a'i llofruddio.

Nid yw Facebook eto wedi gweithredu 'botwm panig' sydd bellach yn cael ei ddefnyddio'n helaeth ac sy'n rhoi cyfle i ddefnyddwyr adrodd am unrhyw gamdriniaeth bosibl yn uniongyrchol i CEOP - Canolfan Ymelwa ar Blant a Gwarchodaeth Ar-lein y DU.

Ymddangosodd Champan sy'n 33 oed ac ar gofrestr o droseddwyr rhyw, fel bachgen golygus yn ei lencyndod diweddar gyda'i frest yn noeth ar y safle. Roedd ganddo dros 100 o ferched ifanc yn ffrindiau iddo, ac un ohonynt oedd Ashleigh Hall (yn y llun), myfyriwr yn dioddef o hunan barch isel. Roedd Ashleigh wedi trefnu i gyfarfod Pete Cartwright, alter-ego golygus Chapman. Dywedodd ffrindiau fod Ashleigh yn teimlo'n 'benysgafn a chyffrous' ynglŷn â chyfarfod bachgen 19 oed. Dyfeisiodd Peter Champan dric drwg yn ofalus ac yn faleisus. Dywedodd y ferch 17 oed wrth ei mam ei bod yn aros dros nos yn nhŷ ffrind. Dywedodd Chapman, oedd yn esgus bod yn gariad newydd iddi, wrth Ashleigh y byddai ei dad - yr oedd Chapman hefyd yn cymryd arno mai fo oedd e - yn ei chyfarfod.

Daeth i'w moen o'i chartref yn Darlington ac aeth â hi i gilfan unig fis Hydref diwethaf. Herwgipiodd hi, rhwymodd ei garddyrnau, rhoddodd dâp ar ei thrwyn, ei gwddf a'i thraed ac yna fe'i treisiodd wrth iddi fygu.

Ar ôl clywed nad yw Facebook yn bodloni disgwyliadau CEOP, dywedodd llefarydd ar ran Facebook fod y safle rhwydweithio cymdeithasol yn un o'r ardaloedd mwyaf diogel ar y rhyngrwyd. Yna daeth Facebook i ganol y sylw eto ar ôl i Jim Gamble, cyn uwch swyddog yr heddlu yng ngofal CEOP, gwyno am Facebook yn gwrthod gosod 'botwm panig' ar y wefan.

Dywedodd Mr Gamble wrth Rhaglen Today ar Radio Four y BBC fod Canolfan Ymelwa ar Blant a Gwarchodaeth Ar-lein y DU wedi derbyn 267 o adroddiadau'r llynedd am weithgaredd ar Facebook, yr oedd 43 y cant ohono yn cynnwys grŵmio - ond dim ond "un neu ddau" adroddiad oedd wedi dod oddi wrth Facebook ei hun.

"Mae'r mwyafrif helaeth yn dod gan bobl sydd yn gorfod mynd i safleoedd eraill, sydd â'n botwm ni wedi ei osod, ac yn anfon yr adroddiad atom. Dyw hynny ddim yn ddigon da," cwynodd.

Mae mam Ashleigh wedi pwyso ar bobl ifanc i fod yn ofalus. Meddai: "Gofalwch eich bod yn dweud wrth rhywun os ydych chi yn mynd i gyfarfod rhywun. Dyna'r neges, peidiwch â mynd ar eich pen eich hun."

Mae llawer yn honni y dylai Facebook fod â ffin oed o 18. Roedd defnyddio manylion cerdyn credyd fel prawf o oed yn un syniad a gyflwynwyd. Mae niferoedd enfawr o bobl ifanc yn defnyddio Facebook ar hyn o bryd. Pe byddai ffin oed yn cael ei roi ar y safleoedd rhwydweithio cymdeithasol, byddai pobl ifanc yn dod o hyd i ffordd o'u cwmpas. Rwy'n meddwl y byddai gosod ffin oed yn gwahaniaethu yn erbyn pobl ifanc. Rydym yn hoffi cymdeithasu ar-lein gyda'n ffrindiau!

Beth yw eich barn chi am Facebook a diogelwch ar lein?

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.