Felicity'r Llwynog Yn Mynd I Fethlehem (Adfywiad Nadolig)
Wrth i Felicity ddeffro ar fore Nadolig, edrychodd o'i chwmpas i weld fod gweddill ei theulu yn effro ac allan o'r ffau, yn debygol o fod yn chwilio am fwyd am y dydd.
Roedd wedi bod yn aeaf caled hyd yn hyn; roedd pawb yn llwgu ac wedi blino, ond nid Felicity, roedd hi yn llawn egni trwy'r adeg, a doedd heddiw ddim gwahanol.
Cododd ac edrych allan o fynedfa'r ffau, edrychodd o'i chwmpas a gwenodd, gan feddwl iddi'i hun, 'dwi'n gwybod ble gaf fynd heddiw' wrth iddi gerdded yn araf ar yr eira oer rhewllyd oedd yn gorchuddio'r llawr.
Edrychodd i fyny ac o gwmpas gan wneud yn sicr nad oedd neb yn dilyn wrth iddi gerdded i lawr i'r lle'r oedd hi a'i thad yn unig yn gwybod amdano… y pwll. Parhaodd Felicity ar ei thaith fer, i orchuddio'i llwybr swisiodd ei chynffon dros hoel ei phawennau i orchuddio nhw gyda mwy o eira.
Wrth iddi agosáu at y pwll sylweddolodd ar rywbeth yn sgleinio yn sownd yn y rhew oedd wedi ffurfio dros wyneb y d?r ychydig nosweithiau cynt. Wrth i Felicity'r Llwynog agosáu at ymyl y pwll wedi rhewi sylweddolodd fod y peth yn tywynnu yn felyn disglair, bron mor ddisglair â'r haul, ond nid oedd yn toddi'r rhew.
Roedd Felicity efo diddordeb mawr yn hwn felly yn araf ac yn ofalus camodd ar y rhew, heb wybod os bydda'n dal ei phwysau, ond ymlaen aeth hi, ei chorff yn agos i'r rhew, 'rhag ofn'. Cerddodd allan yn arafach, wrth iddi agosáu dechreuodd ei thrwyn gosi, ac yn sydyn dyma'i ffwr yn sefyll yn syth yn sydyn, fel petai rhywbeth am ddigwydd.
Yna, yn sydyn dechreuodd y rhew oddi dan gracio, ond nid dwr oedd hi'n teimlo o dan y rhew, na, tywod, ac roedd hi'n nos. Edrychodd Felicity o'i chwmpas yn ofnus nes iddi ddarganfod beth welodd hi yn y pwll rhew, seren brydferth ddisglair yn tywynnu oedd ef, ac roedd yn symud yn araf iawn.
Wrth i Felicity wylio'r seren, clywodd s?n o'i blaen. Cerddodd yn isel at y twyn tywod wrth iddi ddod dros y cribyn, edrychodd drosodd a gweld tri pherson gyda chamelod, bob un yn gafael mewn bocs. Aroglodd Felicity'r aer a gallai arogli pethau od, fel dim byd roedd hi wedi arogli o'r blaen yn y ffau, neu hyd yn oed ar y lleuad, ond anwybyddodd y peth ar y cychwyn.
Cychwynnodd ddilyn nhw o bellter diogel, nes iddynt stopio i greu gwersyll. Cychwynnodd yr hynaf o'r tri dân a chychwyn gweddïo, rhoddodd y ddau arall y gysgodfa od yma i fyny, edrychai fel y tai oedd yn ôl yn Yr Alban, ble mae ffau Felicity, ond dal, roedd yn edrych yn gynnes ac roedd Felicity yn dechrau teimlo'r oerni felly cerddodd tuag ato, yn ceisio peidio cael ei gweld wrth iddo sleifio i mewn i'r man cysgu.
Wrth i Felicity gael i mewn, edrychodd i fyny, o'i blaen roedd un o'r dynion roedd hi wedi'i weld tu allan, roedd yn sefyll yno. Rhewodd Felicity a dweud dim, ond plygodd y dyn a rhoi ei law yn esmwyth ar ei ffen.
"Rydym wedi bod yn disgwyl amdanat ti Felicity," meddai. Edrychodd i fyw ei lygaid, gan weld y gwir a'r dewrder yn ei ysbryd.
Eisteddodd Felicity. "Ble ydw i?" gofynnodd iddo.
Edrychodd yn ôl tuag ati gan wenu. "Rydym ni tri dyn o wirionedd, dewrder a gwroldeb ar ein ffordd i weld Iesu Grist, Brenin yr Iddewon. Ti Felicity am ymuno gyda ni, i ddysgu gwir ystyr Nadolig. Ti'n gweld, rydym ni'n tri wedi teithio yn bell iawn i weld y brenin newydd, ac i gyflwyno anrhegion o aur, thus a myrr iddo," meddai gan bwyntio at y tri bocs tu ôl iddo. "Mae Iesu Grist, y brenin newydd, yn fab i Dduw, ac mae yma i faddau i'r bobl Iddewig am eu pechodau. Rydym ni'n tri yn frenhinoedd y Mejia, a'r Mejia ydy gwarcheidwad popeth sydd yn dda a phur," meddai wrth i Felicity symud i mewn i'r babell.
Ar ôl tua 30 munud o Felicity yn siarad gyda'r brenin doeth o'r Mejia, cychwynnodd deimlo'n fwy cyffyrddus ac ymlaciol, a gan ei bod wedi blino gofynnodd ble gallai gysgu am y noson. Gwenodd y Brenin Mejia a phwyntio tuag at bentwr o ffwr ar y llawr i'w dde. Gwenodd Felicity ac aeth atynt, gan gyrlio i fyny a chau ei llygaid, ac aeth i gysgu yn araf.
Tra roedd Felicity yn cysgu roedd y tri brenin yn trafod y ffordd i mewn i Fethlehem, a phenderfynwyd mynd yn syth i mewn i'r dref, gan ddilyn y seren ryfeddol a grymus, y seren oedd mewn gwirionedd yr Angel Gabriel ei hun. Edrychant ar ei gilydd ac yna cytunwyd gyda nod y dylai adael peth cyntaf yn y bore, cyn gynted ag yr oedd Felicity wedi deffro ôl hyn aeth pawb i mewn i'r babell ac i'w gwlâu am y noson.
Ar ôl ychydig oriau o gysgu deffrodd Felicty i ddarganfod fod y tri dyn wedi codi yn barod a bod brecwast yn barod iddi. Gwenodd wrth godi o'i gwely a cherdded yn ddiog tuag at y tân. Pan gyrhaeddodd yno rhoddodd yr un roedd hi wedi bod yn siarad gydag ef y noson cynt fowlen o'i blaen gyda darnau o gig ynddo. Gwenodd a dywedodd ddiolch, yna dechreuodd fwyta, ac wrth iddi wneud tynnodd y ddau arall y gwersyll i lawr a'i gadw.
Munudau wedyn helpodd un o'r dynion Felicity ar gefn un o'r camelod fel nad oedd rhaid iddi gerdded yr holl ffordd. Roedd Felicity yn ddiolchgar am hyn gan mai dim ond coesau bach oedd ganddi ac roedd yn ffordd hir i deithio.
Wrth iddynt deithio yn agosach at Fethlehem siaradodd Felicity gyda'r tri g?r doeth i ddod i adnabod nhw'n well, ac i ddarganfod mwy am bwy oedden nhw, a pam eu bod yn teithio mor bell i weld babi. Roeddent yn hapus i rannu beth wyddom gyda Felicity, oedd yn amsugno popeth fel mae sbwng yn sugno d?r.
Wrth iddynt agosáu at y ddinas, roedd y nos yn cau i mewn, a neidiodd Felicity i lawr o'r camel eisiau cerdded gweddill y ffordd. Dilynodd y tri g?r doeth, wrth iddynt weu trwy'r strydoedd gan ddal yr anrhegion yn eu dwylo, ac yna gwelodd pawb ef, Felicity hefyd. Yn syth o'u blaen roedd cwt gwartheg, gyda'r seren uwch ei ben, yn tywynnu i lawr ar gafn gwartheg, lle'r oedd baban newydd yn gorwedd.
Aethant yn agosach, ac wrth i Felicity edrych o gwmpas gwelai wartheg, Defaid, geifr a llawer o anifeiliaid eraill yn eistedd yno yn gwylio ac yn disgwyl am rywbeth. Aeth Felicity yn agosach eto, gan eistedd i lawr ac edrych ar y baban, gan sylweddoli mai Iesu Grist oedd hwn. Plygodd ei phen mewn parch ac ymestynnodd y baban Iesu allan a rhoi ei lawr ar ben ei phen. Teimlodd Felicity nerth enfawr yn pasio drwyddi, a gwenodd. Wrth i hyn ddigwydd cyflwynodd y tri g?r doeth eu hanrhegion i rieni'r baban Iesu a'u gosod o gwmpas y cafn.
Yna sylweddolodd Felicity gwir ystyr y Nadolig. Nid anrhegion, bwyd ac addurniadau oedd popeth. Na, roedd yn ymwneud â theulu, caledi wedi'u goresgyn, dod at ei gilydd, ac ia, anrhegion, ond nid anrhegion fel yr ydym ni yn adnabod. Anrhegion cariad, caredigrwydd a llawenydd, y teimlad eithaf bod pobl yn dy garu di, y teimlad dy fod di mewn teulu, neu dy fod di'n hapus ac yn falch o fod yma.
Mae'r Nadolig yn dod o amryw wahanol gyfnod mewn amser, prif ffocws Nadolig ydy i ddathlu genedigaeth Iesu Grist, a'r caledi aeth drwyddo yn ei fywyd i faddau pechodau ei bobl. Ond hefyd i ddathlu'r ffaith o undod, a bod ni ddynion, merched, plant ac anifeiliaid o bob math yma ar y ddaear am reswm, a phwrpas, a hynny yw i fodoli a ffynnu.
Nid all lwyddo os ydy'r byd yn rhyfela trwy'r adeg, dyna pam y Nadolig hwn, bydd Felicity'r Llwynog yn gweddïo am y rhai heb gartrefi, y rhai heb fwyd, na gobaith yn y byd hwn. Dyna pam fod Felicity wedi cael ei thynnu i'r cyfnod hwn mewn amser, i gofio pam ein bod yn dathlu’r Nadolig, ac mae hi'n gobeithio dy fod di'n cofio hefyd.
Wrth i Felicity fyw'r teimladau hyn yn ei meddwl, edrychodd o'i chwmpas i weld y cwt gwartheg yn diflannu yn araf a'r goedwig sydd yn amgylchu'r pwll yn dod yn ôl i'r golwg. Cododd yn gysglyd a chychwyn cerdded tuag at y llwybr o ble daw hi ynghynt y diwrnod hwnnw.
Aeth Felicity yn ôl i'w ffau, gyda deigryn yn ei llygaid a gwen ar ei hwyneb. Wrth iddi gerdded daeth ei thad ati.
"Wyt ti'n iawn, Felicity?" gofynnodd.
Gwenodd, "Ydw dadi, dwi'n iawn," meddai, gan gerdded tuag at ei llofft yn y ffau.
Tan yr antur nesaf, Vincent Xavier.
Felicity'r Llwynog Ar Y Lleuad
Cyflwyniad CLIC i Ysgrifennu Creadigol (lawr lwythiad PDF)
Llenyddiaeth Cymru (cynt yr Academi)







