Fflic Fflac: Animal Kingdom
Animal Kingdom
Cyfarwyddwr: David Michôd
Serennu: Guy Pearce, James Frecheville, Jacki Weaver
Tystysgrif i’w gadarnhau, 113mins
Mae Animal Kingdom yn ymddangos fel cynnig Awstralia i ddangos fod y sefyllfa troseddu yno'r un mor rutiog ac annymunol â America a Phrydain, ac os ydy’r ffilm hwn i’w gredu, yna mae o. Mae ffilm hyd nodwedd gyntaf y cyfarwyddwr yn dangos gwir botensial, ond nid yw mor fedrus â ffilmiau eraill yn y genre hwn yn llwyr.
Mae’r plot yn edrych ar Josh, sy’n 17 oed, yn cael ei orfodi i symud i mewn efo gweddill ei deulu, y teulu roedd ei fam wedi ceisio’i amddiffyn oddi wrthynt cyn iddi farw o orddos heroin. Mae’n hawdd gweld pam, gan eu bod yn lleidr arfog yn Melbourne mewn cyfnod pan nid oes gan yr heddlu unrhyw amheuaeth mewn saethu drwgdybion.
Mae teitl y ffilm yn ymddangos ar y cychwyn dros gerfiad o lewod, ac roeddwn yn hoffi’r cydweddiad oedd yn bodoli drwy’r ffilm; am yr holl ffwdan uchel o’r dynion, ti yn wastad yn cael y synnwyr mai’r fam sydd mewn rheolaeth, ac yn fwy peryglus. Hefyd, pan mae’n gyfnod anodd, mae’r gwrywod alffa yn dechrau troi ar y rhai ifanc.
Mae’r ffilm yn gyfuniad o dda a drwg. Mae’r action i gyd yn dda iawn, yn enwedig gan James Frecheville (Josh), ei ewythredd treisgar, ei fam-gu frawychus (chwaraeir gan Jacki Weaver), ac fel yr unig wyneb cyfarwydd, mae Guy Pearce yn darparu cefnogaeth dda fel yr unig blismon da mewn gorsaf sydd ddim ond eisio lladd troseddwyr. Y broblem yw nad yw’r cymeriadau mor swynol a hoffai’r ffilm feddwl. Gallwn i ddim helpu ond adnabod actorion fyddai wedi gallu chwarae’r cymeriadau yn well, ac nid yw hynny yn sarhad i’r actorion Awstraliad – ond dwi’n meddwl byddai’r cymeriadau wedi cael mwy o bresenoldeb os, er esiampl, byddai’r ewythredd wedi cael eu chwarae gan bobl fel Paddy Considine, Stephen Graham neu hyd yn oed Gary Oldman ifanc.
Byddai’r actorion yma wedi ffitio yn dda i mewn i Animal Kingdom, sydd efo teimlad tebyg i ffilm Shane Meadows – mae hiwmor tywyll, nid yw’r troseddwyr i gyd yn ddrwg ac yn bendant dydy’r heddlu ddim yn dda. Bob hyn a hyn mae’r cyfarwyddwr yn arddangos ychydig o ddawn, yn enwedig wrth gonsurio synnwyr o arswyd agos. Er hynny, pan ddaw'r foment anochel o drawiad mar rhywbeth ar goll. Dwi ddim yn siŵr os oedd hyn yn ymgais bwriadol i aros yn realistig, ond i mi roedd nifer o ddisgynebau i ddarnau dirdynedig iawn.
Tuag at y diwedd mae Animal Kingdom yn dda iawn – mae digwyddiadau yn brysio yn eu blaen, gyda drama gynyddol, ac mae’r plot yn dod yn anrhagweladwy. Ond mae’n siom mawr nad oes rhediad da i’r ffilm cyn hyn – tra dwi’n meddwl bydd y beirniadon yn graddio’r ffilm yn uchel iawn, fel A Prophet llynedd, bydd cynulleidfaoedd prif ffrwd yn ystyried Animal Kingdom ychydig yn ddiflas.
Os wyt ti’n hoffi’r genre trosedd, ac wedi mwynhau ffilmiau fel A Prophet, dylai ti roi cynnig ar Animal Kingdom. Mae’n ffilm gyntaf diddorol i’r cyfarwyddwr, ac mae cyfnodau o ddisgleirdeb. Ond nid oes ganddo’r ffactor cynhyrfiol, sydd i’w gweld yn ddiweddar mewn rhywbeth fel The Town, i ennill clod cynulleidfa fwy llydan.
Mae Animal Kingdom yn y sinemâu o 25ain Chwefror.
Newyddion » Categorïau » Ffilmiau







