Fflic Fflac: Sucker Punch
Sucker Punch
Cyfarwyddwr: Zack Snyder
Serennu: Emily Browning, Carla Gugino, Abbie Cornish
12A, 110 munud
Dyma’r cyfarwyddwr sydd ar fin ymgeisio fersiwn tywyll, oedolyn o Superman, yn dilyn y fersiynau llyfrau comig newydd. Gall fod yn sicr o un peth wrth wylio Sucker Punch: Bydd Man of Steel yn anhygoel. Un o’r ychydig feirniadaeth oedd gen i am Inception oedd ‘os mai dyma yw’r bydoedd breuddwyd, yna pam eu bod nhw mor real? Mae breuddwydion yn wallgof!’ Sucker Punch ydy’r ateb i’r cwestiwn yma.
Mae’r plot yn ymwneud â merch (chwaraeir gan Emily Browning) sydd yn cael ei sefydliadu gan ei llystad milain, ac yng Ngwallgofdy Lennox House mae hi, ynghyd â’r carcharorion eraill, yn cael ei gorfodi i ddawnsio i amrywiaeth o ddynion slebog ac annymunol gan y dyn slebog sydd yn rhedeg y lle (sydd i gyd yn gwisgo cymaint o golur â’r merched yn y ffilm). Er hynny, mae ei dawns efo grym i hypnoteiddio. Yn ystod y cyfnod hwn mae Babydoll (ei llysenw) yn gorfod ymladd i oroesi mewn tirluniau breuddwyd anghyfeillgar, tra yn y byd go iawn mae ei chyd garcharorion yn gallu cynllunio eu dihangfa. Plot gwallgof, ond un sydd yn galluogi amryw olygfa gyffrous.
Yn y golygfeydd cyffrous yma mae’r ffilm yn rhagori; pan ddaw'r cyntaf mae llinell tag y ffilm yn briodol – “byddi di’n amharod”. Teml Japaneaidd eiraog, lle mae’r Wise Man yn esbonio pwerau Babydoll iddi, cyn i dri samurai anferth ymosod arni. Mae’r frwydr yn swrrealaidd, creinsio esgyrn, ac yn wych.
Heb amheuaeth y peth gorau am Sucker Punch ydy ei edrychiad. Ychydig o arddull llyfr comig 300, ychydig o Sin City, a llawer o raffeg arddull anime a gêm fideo, mae ganddo’r grym i wneud i ti fynd ‘wow’ gyda phob golygfa epig gyffrous newydd. Fel gyda phob ffilm Snyder, byddai hwn yn 30 munud yn fyrrach os byddai wedi gwadu mynediad i fotwm ‘slow-mo’ – ar adegau mae’r effaith yn dwysau’r edrychiad über-coeth ond mae’n bendant yn cael ei orddefnyddio.
Yn y gosodiad fel breuddwyd yma nid yw’r dialog ofnadwy a’r actio braidd yn amheus yma yn cael unrhyw effaith ar y ffilm, sydd yn fonws. I ddweud y gwir mae’r cast i gyd yn gwneud eu gwaith yn eithaf da, yn enwedig Oscar Isaac fel y Blue bygythiol, a Scott Glenn fel y Wise Man, sydd yn cael llinellau godidog o wirion fel “don’t write cheques with your mouth that you can’t cash with your ass”.
Peth arall sydd gan y ffilm yma ydy cerddoriaeth cŵl iawn. Mae yna lawer o ail-fersiynau, wedi’u hail gwneud i ffitio awyrgylch tywyll/rhywiol y ffilm, ac ychydig ohonynt yn cael eu canu gan y brif actores Emily Browning, un dwi wedi hoffi ers ei gweld yn A Series of Unfortunate Events. Mae’n werth Spotify-io’r ffilm er mwyn gwrando ar rhai o’r caneuon od ond gwych.
Mae dwy broblem i’r ffilm yma fel y gwelaf, ond mae'r rhain yn rai pwysig. Y cyntaf ydy fod y ffilm gwelsom ni yn hollol wahanol i beth oedd wedi’i synio’n wreiddiol. O’r rhaglun roeddwn i’n dychmygu ffilm gyffrous, ffyrnig, anhygoel gydag ychydig o gynnwrf gan y cast prydferth. Ond beth gawsom oedd tystysgrif 12A, sydd yn golygu fod y trais i gyd yn teimlo ychydig yn ffug ac yn cael ei anelu’n ofalus ac yn erbyn gelynion sydd yn haeddu (robotiaid, seiborgiau zombie Natsi, dreigiau a orciau), ac ychydig iawn o awgrymiad rhywiol. Mae hyn yn od o feddwl fod y ffilm wedi’i osod mewn puteindy/ clwb stripio a gyda chast sydd yn gwisgo dillad cythruddol drwyddo. Ni fyddwn yn synnu os byddai rhyddhad DVD tystysgrif 15 o’r fersiwn gwreiddiol.
Y broblem arall difrifol ydy, er yr holl ddychymyg sydd yn cael ei arddangos yn fuan yn y ffilm, mae’r golygfeydd cyffrous yn ychydig yn rhy ailadroddus ar ôl yr ail neu’r trydydd. Am ffilm sydd yn bancio ar ei allu i syfrdanu ti’n barhaol gyda darnau anghysbell, roedd angen iddo gael mwy iddo na amryw olygfa rhy debyg.
Ar y cyfan roeddwn i’n siomedig gyda’r canlyniad terfynol. Dros yr amser rhedeg llawn mae Sucker Punch yn rhedeg allan o’r ‘cŵl’ sydd yn gyrru’r rhagluniau yn bwerus. Wrth gwrs steil dros sylwedd ydyw, a steil difrifol ar hynny, ond nid yw’n gweithio’n iawn fel 12A. Mae’n syfrdanol i edrych arno (mewn amryw ystyr!) ac mae’n bleserus am dipyn, ond y siom yw ei fod fel petai’n colli dychymyg.
Newyddion » Categorïau » Ffilmiau







