Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Ffliw Moch Yng Nghymru

Postiwyd gan Huzee o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 13/07/2009 am 14:42
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Iechyd, Materion Cyfoes

  • virus

English version

Gyda 8 achos arall o ffliw moch yng Nghymru mae’r cyfanswm lan i 50.

“Nid yw’r ffliw yng Nghymru yn ddifrifol iawn,” dywedodd Dr Tony Jewell, Prif Swyddog Meddygol Cymru.

Rydym yn gweld rhyw faint o dystiolaeth o hyn pan rydym yn cymharu gyda gweddill Prydain Fawr, gyda dros 6,162 o achosion yn Lloegr, 1,325 yn yr Alban a dim ond 43 yng Ngogledd Iwerddon. Mae achosion wedi cael eu cadarnhau mewn 120 gwlad arall hefyd. O’r rhain i gyd, dim ond 100 o achosion oedd angen yr ysbyty a dim ond 4 marwolaeth.

Dywedodd Dr Tony Jewell : “Rydym wedi rhybuddio pobl bydd achosion yng Nghymru ac, mewn rhai amgylchiadau, marwolaethau. Fel gyda’r ffliw blynyddol mae yna farwolaethau, yn enwedig os ydi rhywun yn dioddef o gymhlethdodau meddygol.”

Felly o edrych ar hyn efallai nad ydy’r ffliw ddim gwaeth na’r ffliw blynyddol, ond ei fod yn newydd i ni.

“Fe fyddwn yn canolbwyntio ar roi brechlyn i'r rhai sydd â’r risg fwyaf, merched beichiog, plant o dan bump oed a'r rhai â chlefydau cronig,” meddai.

Y cyngor sydd yn cael ei roi yw defnyddio hances bapur a'i thaflu'n syth, golchi dy ddwylo yn gyson neu ddefnyddio hylif arbennig. Os oes unrhyw un yn dioddef o symptomau’r ffliw arhosa gartref i atal gwasgariad. Ni ddylai unrhyw un fynd i'r feddygfa neu’r uned ddamweiniau brys, ac os wyt ti’n ansicr o’r symptomau edrycha ar lein, neu ffonia dy feddyg lleol.

Dydd Iau dywedodd Andy Burnham, Ysgrifennydd Iechyd, fod Prydain yn symud o geisio stopio’r firws ledaenu i geisio trin y firws. Golygai hyn fod ymdrechion i stopio lledaenu’r firws yn mynd i orffen, i allu canolbwyntio ar drin y rhai sydd gyda’r firws. Dywedodd Burnham: “Mae’r nifer o achosion yn dyblu pob wythnos ac, os yw’n parhau fel hyn, gallwn weld dros 100,000 o bobl pob dydd erbyn diwedd Awst.”

Y newidiadau byddwn ni’n eu gweld wrth i’r ymladd yn erbyn y firws ddechrau yw bod meddygaeth ar gael i bawb sydd yn dangos symptomau’r ffliw. Bydd y feddygaeth ddim ar gael i bobl sydd yn gwbl iachus mewn ymdrech i stopio’r ffliw ledaenu. Bydd doctoriaid yn gallu adnabod y ffliw o’r symptomau, felly ni fydd angen canlyniadau labordy.

Gwybodaeth ddiweddaraf ffliw moch

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50