Croeso i CLICarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Fideo: Stori Emily (Parch Cymunedol Ym Mhenarth)

Postiwyd gan Emilyyy o Bro Morgannwg - Cyhoeddwyd ar 27/06/2011 am 14:28
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Diwylliant, Addysg, Ffilmiau, Pobl, Technoleg, Materion Cyfoes, Gwirfoddoli

English version

Mae'r erthygl hon wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Fideo'r Flwyddyn yng Ngwobrau CLIC 2011.

(Os na fedri di weld y fideo isod, clicia yma)

Helo, Emily ydw i. Dwi'n 16. Dwi'n byw ym Mhenarth. Pan oeddwn i yn 14 oed fe ges i mewn i'r criw anghywir.

Roedd gang mawr ohonom oedd yn hongian o gwmpas llefydd fel mainc Barclays yng nghanol tref Penarth. Roedd y gymuned yn cysidro ni fel pobl ifanc ddrwg am ein bod yn achosi trafferthion trwy'r adeg. Dwi'n cofio pan fyddai rhai o'r gr?p mynd i ddwyn alcohol o'r siopau lleol ac ar ôl dod yn ôl byddem yn meddwi i gyd; i fi roedd hyn yn normal.

Byddwn yn eistedd yno bob nos ar ôl ysgol tan yn hwyr yn y nos. Byddwn yn eistedd yn gwneud cymaint o s?n a ddim yn poeni am y bob oedd byw yno ac aelodau'r cyhoedd; gallet ti ddweud ein bod ni'n ddychrynllyd.

O leiaf unwaith y dydd bydda'r heddlu yn cael eu galw i ddod i siarad gyda ni. Bydden nhw'n symud ni ymlaen ac yn y diwedd bygwth ni gydag ASBO oherwydd y ffaith fod y bechgyn bob tro'n cwffio ac yn ffraeo gyda phobl oedd yn byw'n gyfagos. Doedden nhw ddim yn poeni am neb arall ond nhw eu hunain. Yr unig bethau oedd yn bwysig i ni oedd yfed a chael beth oedden ni'n ei alw yn amser da heb feddwl sut roedd hyn yn effeithio pobl o'n cwmpas. Cefais fy hun i lawer o drafferth, drwy gydgysylltiad, heb wneud dim byd fy hun ond drwy fod gyda'r bobl oedd yn achosi'r trafferthion.

Hyd at ychydig wythnosau yn ôl roeddwn yn hapus i fynd gyda hyn, nes i'r V-POD gyrraedd. Es ar y V-POD a chyfarfod â'r tîm. Cynigwyd i ni fel gr?p, y prosiect Parch Cymunedol.

I gychwyn gwnaethom weithdai adeiladu tîm a chyfathrebu. Yna cymeron ran mewn gweithdai ymddygiad ac yfed. Yna cynigwyd y prosiect aml-gyfryngol yma i ni lle roeddem yn cychwyn drwy ffilmio stwff o Fanc Barclays ac roedd y gweithwyr yn helpu ni i wneud o ein hunain. Pan gafodd y darn ffilm ei chwarae yn ôl i ni, y meddwl cyntaf cefais oedd 'OMG, RYDYM YN EDRYCH FEL LLWYTH O FFYLIAID' a dywedais yn wrth weddill y gr?p. Cwestiynodd un o'r bechgyn fy ymateb yn eithaf ymosodol.

Roedd hyn wedi creu gwahaniad mawr yn ein gr?p. Dwi wedi mynychu'r prosiect gydag ymrwymiad bob dydd Mercher am yr 11 wythnos diwethaf, ond mae gweddill y gr?p wedi mynd yn ôl i'w hen ffordd a ddim wedi dysgu yn y r un ffordd dwi'n meddwl dwi wedi. Gyda chymorth y prosiect yma dwi wedi sylweddoli pwy ydw i a beth dwi eisiau gwneud efo gweddill fy mywyd. Gyda'r TGAU yn agosáu dwi wedi sylweddoli fod mwy i fywyd nag eistedd ar fainc ac achosi hafog. Fel cael dy addysgu mewn sgiliau newydd. Dwi wedi bod â diddordeb mewn newyddiaduraeth erioed ac mae'r prosiect yma wedi helpu fi i ddysgu sgiliau newydd fydda'n parhau fy mreuddwydion gyrfaol o ddod yn newyddiadurwr.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50