Fy Antur Profiad Gwaith
Helo, fy enw i yw Charlotte.
Dwi ym mlwyddyn 10 yn Ysgol St. Richard Gwyn a dwi wedi bod yn gwneud fy lleoliad profiad gwaith yn ProMo-Cymru.
Maen nhw’n sefydliad mawr sydd wedi’i anelu at bobl ifanc yng Nghymru gyda phrosiectau fel CLIC a TheSprout.
Mae’r prosiectau yma wedi’u hanelu at bobl ifanc yng Nghymru ac yn darparu gwybodaeth am wahanol ddigwyddiadau a newyddion dros Gymru.
Os wyt ti’n dod yn aelod o un o’u gwefannau gallet ti lwytho digwyddiadau ti’n meddwl bydda bobl ifanc eraill efallai yn mwynhau neu gyflwyno newyddion am rywbeth yn y newyddion neu hyd yn oed rhywbeth hoffet i bobl wybod amdano. Gallet hyd yn oed lwytho lluniau i fyny iddo neu waith celf ti wedi’i wneud er mwyn i bobl eraill ei weld a rhoi sylwad arno.
Ar fy niwrnod cyntaf cefais fy nangos o gwmpas y swyddfa a chael fy mriffio am bopeth diflas ond hanfodol fel Iechyd a Diogelwch. Ar ôl hyn cefais siarad efo rhai o’r staff am beth maen nhw’n ei wneud a beth maen nhw’n cymryd rhan ynddo. Roedd y staff i gyd yn neis iawn a gwneud i mi deimlo’n groesawus iawn.
Fy aseiniad cyntaf, fel dwi’n hoffi ei alw, oedd ysgrifennu erthygl i’r wefan CLIC am addysgu cerddoriaeth gan ddefnyddio ychydig o’r wybodaeth roeddwn wedi’i gael. Roedd o’n grêt gan y gallwn ei ysgrifennu unrhyw ffordd roeddwn i eisiau a’i wneud yn hwyl, ffres a chyffrous. Pan orffennais roedd rhaid i mi ymchwilio ychydig o ddigwyddiadau i mi gael ychwanegu nhw i’r Calendr Digwyddiadau.
Ar yr ail ddiwrnod cefais siarad gyda mwy o staff am eu gwaith a beth maen nhw'n mwynhau amdanynt. Yna roedd rhaid i mi lwytho mwy o newyddion a digwyddiadau i’r wefan. I wneud hyn roedd rhaid i mi ymchwilio llawer o ddigwyddiadau diddorol yng Nghymru. Unwaith i mi orffen hynny archwiliais y wefan a darganfod sut i greu thema er mwyn gwneud fy nhudalen yn fwy personol.
Y diwrnod canlynol dysgais sut i ddefnyddio camera proffesiynol a beth mae popeth yn gwneud arno a sut mae’n effeithio’r llun. Yna es allan i Bae Caerdydd i dynnu lluniau. Pan ddois yn ôl fe wnes fideo gan ddefnyddio’r lluniau ac ychwanegu sain iddo i’w wneud yn ddiddorol. Yna roedd rhaid teipio’r nodiadau o’r cyfarfod grŵp golygyddol theSprout fel y gall e-bostio ef i bawb oedd yno.
Y diwrnod wedyn cefais orffen y fideo. Yna helpais aelod o’r staff baratoi holiaduron a thaflenni gwybodaeth ar gyfer cyflwyniad roedd rhaid i mi lamineiddio. Yna aethon a fi i ysgol uwchradd gerllaw i gyfarfod grŵp o bobl ifanc oedd yn helpu ni efo syniadau ar gyfer y wefan newydd sydd yn cael ei ddylunio am wybodaeth cyffuriau.
Ar y diwrnod diwethaf (mae’n gwneud i mi fod eisiau crio) ysgrifennais sylwad yn annog pobl i gyfrannu at Ddydd Trwyn Coch. Yna fe es ar antur fach gyda chyd-weithwyr ar draws y Bae i Ganolfan y Mileniwm lle cawsom weithdy am gyfryngau rhyngweithiol. Hoffwn ddweud ei fod yn hwyl, ond ni allaf gan y byddai hynny’n gelwydd. Roedd y gweithdy fel bod yn yr ysgol a chael darlith hir, flinedig mewn rhyw iaith od. Roedd rhaid i mi geisio peidio dylyfu gên ac edrych fel fy mod yn talu sylw.
Yna cefais ymweliad gan fy athro oedd wedi dod i weld sut amser oeddwn i wedi cael a beth oeddwn i wedi’i wneud. Roedd o i weld yn argraffedig iawn ac yn meddwl fy mod wedi gwneud gwaith gwych sydd yn dda i mi. Fy nhasg ddiwethaf ydy i ysgrifennu’r erthygl yma am fy mhrofiad gwaith anhygoel a’i lwytho gyda’r fideo gafodd ei wneud yn ystod yr wythnos.
Felly i grynhoi popeth, fe gefais amser gwych a byddwn yn bendant yn ei wneud eto. Diolch i bawb a wnaeth hyn yn brofiad grêt i mi a dwi’n gobeithio gweld chi gyd eto’n o fuan.
Y fideo amgaeedig ydy’r un gafodd ei wneud yn ystod fy mhrofiad gwaith felly plîs edrycha arno a dweud wrthyf beth ti’n feddwl.
Os hoffet ti ddod i ProMo-Cymru am wythnos, cysyllta â Pat Green: pat@promo-cymru.org / 029 2046 2222.
Gyrfa Cymru
Tudalennau Cyflogaeth a Hyfforddiant.







